1וישב ישראל בשטים ויחל העם לזנות אל בנות מואב׃
1 Pan oedd Israel yn aros yn Sittim, dechreuodd y bobl odinebu gyda merched Moab.
2ותקראן לעם לזבחי אלהיהן ויאכל העם וישתחוו לאלהיהן׃
2 Yr oedd y rhain yn eu gwahodd i'r aberthau i'w duwiau, a bu'r bobl yn bwyta ac yn ymgrymu i dduwiau Moab.
3ויצמד ישראל לבעל פעור ויחר אף יהוה בישראל׃
3 Dyma sut y daeth Israel i gyfathrach � Baal-peor. Enynnodd llid yr ARGLWYDD yn erbyn Israel,
4ויאמר יהוה אל משה קח את כל ראשי העם והוקע אותם ליהוה נגד השמש וישב חרון אף יהוה מישראל׃
4 a dywedodd wrth Moses am gymryd holl benaethiaid y bobl a'u crogi gerbron yr ARGLWYDD yn wyneb haul, er mwyn i'w lid droi oddi wrth Israel.
5ויאמר משה אל שפטי ישראל הרגו איש אנשיו הנצמדים לבעל פעור׃
5 Yna dywedodd Moses wrth farnwyr Israel, "Y mae pob un ohonoch i ladd y rhai o'i lwyth a fu'n cyfathrachu � Baal-peor."
6והנה איש מבני ישראל בא ויקרב אל אחיו את המדינית לעיני משה ולעיני כל עדת בני ישראל והמה בכים פתח אהל מועד׃
6 Yna daeth un o'r Israeliaid � merch o Midian at ei deulu, a hynny yng ngu373?ydd Moses a holl gynulliad pobl Israel, fel yr oeddent yn wylo wrth ddrws pabell y cyfarfod.
7וירא פינחס בן אלעזר בן אהרן הכהן ויקם מתוך העדה ויקח רמח בידו׃
7 Pan welodd Phinees fab Eleasar, fab Aaron yr offeiriad, hyn, fe gododd o ganol y cynulliad, a chymerodd waywffon yn ei law,
8ויבא אחר איש ישראל אל הקבה וידקר את שניהם את איש ישראל ואת האשה אל קבתה ותעצר המגפה מעל בני ישראל׃
8 a dilyn yr Israeliad i mewn i'r babell; yna gwanodd hwy ill dau, sef y dyn a hefyd y ferch trwy ei chylla.
9ויהיו המתים במגפה ארבעה ועשרים אלף׃
9 Felly yr ataliwyd y pla oddi wrth bobl Israel. Er hyn, bu farw pedair mil ar hugain trwy'r pla.
10וידבר יהוה אל משה לאמר׃
10 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
11פינחס בן אלעזר בן אהרן הכהן השיב את חמתי מעל בני ישראל בקנאו את קנאתי בתוכם ולא כליתי את בני ישראל בקנאתי׃
11 "Y mae Phinees fab Eleasar, fab Aaron yr offeiriad, wedi troi fy llid oddi wrth bobl Israel; ni ddistrywiais hwy yn fy eiddigedd, oherwydd bu ef yn eiddigeddus drosof fi ymhlith y bobl.
12לכן אמר הנני נתן לו את בריתי שלום׃
12 Felly dywed, 'Rhoddaf iddo fy nghyfamod heddwch,
13והיתה לו ולזרעו אחריו ברית כהנת עולם תחת אשר קנא לאלהיו ויכפר על בני ישראל׃
13 a bydd ganddo ef a'i ddisgynyddion gyfamod am offeiriadaeth dragwyddol, am iddo fod yn eiddigeddus dros ei Dduw, a gwneud cymod dros bobl Israel.'"
14ושם איש ישראל המכה אשר הכה את המדינית זמרי בן סלוא נשיא בית אב לשמעני׃
14 Enw'r Israeliad a drywanwyd gyda'r ferch o Midian oedd Simri fab Salu, penteulu o lwyth Simeon.
15ושם האשה המכה המדינית כזבי בת צור ראש אמות בית אב במדין הוא׃
15 Enw'r ferch o Midian a drywanwyd oedd Cosbi ferch Sur, a oedd yn bennaeth dros dylwyth o bobl Midian.
16וידבר יהוה אל משה לאמר׃
16 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
17צרור את המדינים והכיתם אותם׃
17 "Dos i boenydio'r Midianiaid a'u lladd,
18כי צררים הם לכם בנכליהם אשר נכלו לכם על דבר פעור ועל דבר כזבי בת נשיא מדין אחתם המכה ביום המגפה על דבר פעור׃
18 oherwydd buont hwy'n eich poenydio chwi trwy eu dichell yn yr achos ynglu375?n � Peor, ac yn yr achos ynglu375?n �'u chwaer Cosbi, merch pennaeth o Midian, a drywanwyd yn nydd y pla o achos Peor."