1ותקרבנה בנות צלפחד בן חפר בן גלעד בן מכיר בן מנשה למשפחת מנשה בן יוסף ואלה שמות בנתיו מחלה נעה וחגלה ומלכה ותרצה׃
1 Yna daeth ynghyd ferched Seloffehad fab Heffer, fab Gilead, fab Machir, fab Manasse, o deuluoedd Manasse fab Joseff. Enwau ei ferched oedd Mala, Noa, Hogla, Milca a Tirsa.
2ותעמדנה לפני משה ולפני אלעזר הכהן ולפני הנשיאם וכל העדה פתח אהל מועד לאמר׃
2 Safasant wrth ddrws pabell y cyfarfod o flaen Moses ac Eleasar yr offeiriad, ac o flaen yr arweinwyr a'r holl gynulliad, a dweud,
3אבינו מת במדבר והוא לא היה בתוך העדה הנועדים על יהוה בעדת קרח כי בחטאו מת ובנים לא היו לו׃
3 "Bu farw ein tad yn yr anialwch; nid oedd ef ymhlith y rhai o gwmni Cora a ymgasglodd yn erbyn yr ARGLWYDD, ond bu ef farw oherwydd ei bechod ei hun, heb adael mab ar ei �l.
4למה יגרע שם אבינו מתוך משפחתו כי אין לו בן תנה לנו אחזה בתוך אחי אבינו׃
4 Pam y dylai enw ein tad gael ei ddileu o'i dylwyth am nad oedd ganddo fab? Rho inni etifeddiaeth ymhlith brodyr ein tad."
5ויקרב משה את משפטן לפני יהוה׃
5 Cyflwynodd Moses eu hachos o flaen yr ARGLWYDD,
6ויאמר יהוה אל משה לאמר׃
6 a dywedodd yr ARGLWYDD wrtho:
7כן בנות צלפחד דברת נתן תתן להם אחזת נחלה בתוך אחי אביהם והעברת את נחלת אביהן להן׃
7 "Y mae cais merched Seloffehad yn un cyfiawn; rho iddynt yr hawl i etifeddu ymhlith brodyr eu tad, a throsglwydda etifeddiaeth eu tad iddynt hwy.
8ואל בני ישראל תדבר לאמר איש כי ימות ובן אין לו והעברתם את נחלתו לבתו׃
8 Dywed wrth bobl Israel, 'Os bydd dyn farw heb fab, yr ydych i drosglwyddo ei etifeddiaeth i'w ferch.
9ואם אין לו בת ונתתם את נחלתו לאחיו׃
9 Os na fydd ganddo ferch, rhowch ei etifeddiaeth i'w frodyr.
10ואם אין לו אחים ונתתם את נחלתו לאחי אביו׃
10 Os na fydd ganddo frodyr, rhowch ei etifeddiaeth i frodyr ei dad.
11ואם אין אחים לאביו ונתתם את נחלתו לשארו הקרב אליו ממשפחתו וירש אתה והיתה לבני ישראל לחקת משפט כאשר צוה יהוה את משה׃
11 Os na fydd gan ei dad frodyr, rhowch ei etifeddiaeth i'w berthynas agosaf, er mwyn iddo ef gael meddiant ohono.'" Bu hyn yn ddeddf a chyfraith i bobl Israel, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses.
12ויאמר יהוה אל משה עלה אל הר העברים הזה וראה את הארץ אשר נתתי לבני ישראל׃
12 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, "Dringa'r mynydd hwn, sef Mynydd Abarim, ac edrych ar y wlad a roddais i bobl Israel.
13וראיתה אתה ונאספת אל עמיך גם אתה כאשר נאסף אהרן אחיך׃
13 Ar �l iti ei gweld, fe'th gesglir dithau at dy bobl, fel y casglwyd dy frawd Aaron,
14כאשר מריתם פי במדבר צן במריבת העדה להקדישני במים לעיניהם הם מי מריבת קדש מדבר צן׃
14 am i chwi wrthryfela yn erbyn fy ngorchymyn yn anialwch Sin, a gwrthod fy sancteiddio yng ngu373?ydd y cynulliad pan fu cynnen yn eu plith wrth y dyfroedd." Dyfroedd Meriba-cades yn anialwch Sin oedd y rhain.
15וידבר משה אל יהוה לאמר׃
15 Dywedodd Moses wrth yr ARGLWYDD,
16יפקד יהוה אלהי הרוחת לכל בשר איש על העדה׃
16 "Boed i'r ARGLWYDD, Duw ysbryd pob peth byw, benodi rhywun dros y cynulliad
17אשר יצא לפניהם ואשר יבא לפניהם ואשר יוציאם ואשר יביאם ולא תהיה עדת יהוה כצאן אשר אין להם רעה׃
17 i'w harwain a'u tywys wrth iddynt fynd a dod, rhag i gynulliad yr ARGLWYDD fod fel defaid heb fugail."
18ויאמר יהוה אל משה קח לך את יהושע בן נון איש אשר רוח בו וסמכת את ידך עליו׃
18 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, "Cymer Josua fab Nun, dyn sydd �'r ysbryd ynddo, a gosod dy law arno;
19והעמדת אתו לפני אלעזר הכהן ולפני כל העדה וצויתה אתו לעיניהם׃
19 p�r iddo sefyll o flaen Eleasar yr offeiriad ac o flaen yr holl gynulliad, a rho iddo siars yn eu gu373?ydd hwy.
20ונתתה מהודך עליו למען ישמעו כל עדת בני ישראל׃
20 Rho iddo gyfran o'th awdurdod di, er mwyn i holl gynulliad pobl Israel ufuddhau iddo.
21ולפני אלעזר הכהן יעמד ושאל לו במשפט האורים לפני יהוה על פיו יצאו ועל פיו יבאו הוא וכל בני ישראל אתו וכל העדה׃
21 Y mae i sefyll o flaen Eleasar yr offeiriad, a bydd yntau'n ymgynghori ar ei ran gerbron yr ARGLWYDD trwy'r Wrim; ar ei orchymyn ef, bydd holl gynulliad pobl Israel yn mynd allan ac yn dod i mewn."
22ויעש משה כאשר צוה יהוה אתו ויקח את יהושע ויעמדהו לפני אלעזר הכהן ולפני כל העדה׃
22 Gwnaeth Moses fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD iddo; cymerodd Josua, a pheri iddo sefyll o flaen Eleasar yr offeiriad ac o flaen yr holl gynulliad,
23ויסמך את ידיו עליו ויצוהו כאשר דבר יהוה ביד משה׃
23 a gosododd ei ddwylo arno, a rhoi iddo'r siars, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi cyfarwyddo Moses.