Hebrew: Modern

Welsh

Numbers

3

1ואלה תולדת אהרן ומשה ביום דבר יהוה את משה בהר סיני׃
1 Dyma ddisgynyddion Aaron a Moses yr adeg y llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses ar Fynydd Sinai.
2ואלה שמות בני אהרן הבכור נדב ואביהוא אלעזר ואיתמר׃
2 Enwau meibion Aaron oedd: Nadab y cyntafanedig, Abihu, Eleasar ac Ithamar.
3אלה שמות בני אהרן הכהנים המשחים אשר מלא ידם לכהן׃
3 Dyma oedd enwau meibion Aaron a eneiniwyd ac a gysegrwyd i wasanaethu fel offeiriaid.
4וימת נדב ואביהוא לפני יהוה בהקרבם אש זרה לפני יהוה במדבר סיני ובנים לא היו להם ויכהן אלעזר ואיתמר על פני אהרן אביהם׃
4 Bu farw Nadab ac Abihu wedi iddynt offrymu ar d�n halogedig o flaen yr ARGLWYDD yn anialwch Sinai. Nid oedd gan y naill na'r llall ohonynt feibion; felly Eleasar ac Ithamar a fu'n gwasanaethu fel offeiriaid yng ngu373?ydd eu tad Aaron.
5וידבר יהוה אל משה לאמר׃
5 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
6הקרב את מטה לוי והעמדת אתו לפני אהרן הכהן ושרתו אתו׃
6 "Tyrd � llwyth Lefi yma, a'u penodi i wasanaethu Aaron yr offeiriad.
7ושמרו את משמרתו ואת משמרת כל העדה לפני אהל מועד לעבד את עבדת המשכן׃
7 Byddant yn gweini arno ef a'r holl gynulliad o flaen pabell y cyfarfod, ac yn gwasanaethu yn y tabernacl.
8ושמרו את כל כלי אהל מועד ואת משמרת בני ישראל לעבד את עבדת המשכן׃
8 Hwy fydd yn gofalu am ddodrefn pabell y cyfarfod ac yn gweini ar bobl Israel trwy wasanaethu yn y tabernacl.
9ונתתה את הלוים לאהרן ולבניו נתונם נתונם המה לו מאת בני ישראל׃
9 Yr wyt i roi'r Lefiaid i Aaron a'i feibion; hwy yn unig o blith pobl Israel a gyflwynir yn arbennig iddo ef.
10ואת אהרן ואת בניו תפקד ושמרו את כהנתם והזר הקרב יומת׃
10 Yr wyt i urddo Aaron a'i feibion i wasanaethu fel offeiriaid; ond rhodder i farwolaeth bwy bynnag arall a ddaw'n agos."
11וידבר יהוה אל משה לאמר׃
11 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
12ואני הנה לקחתי את הלוים מתוך בני ישראל תחת כל בכור פטר רחם מבני ישראל והיו לי הלוים׃
12 "Edrych, yr wyf wedi neilltuo'r Lefiaid o blith pobl Israel yn lle pob cyntafanedig a ddaw allan o'r groth; bydd y Lefiaid yn eiddo i mi,
13כי לי כל בכור ביום הכתי כל בכור בארץ מצרים הקדשתי לי כל בכור בישראל מאדם עד בהמה לי יהיו אני יהוה׃
13 oherwydd eiddof fi yw pob cyntafanedig. Ar y dydd y trewais bob cyntafanedig yng ngwlad yr Aifft, cysegrais i mi fy hun bob cyntafanedig yn Israel, yn ddyn ac anifail; eiddof fi ydynt. Myfi yw'r ARGLWYDD."
14וידבר יהוה אל משה במדבר סיני לאמר׃
14 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses yn anialwch Sinai,
15פקד את בני לוי לבית אבתם למשפחתם כל זכר מבן חדש ומעלה תפקדם׃
15 "Yr wyt i gyfrif meibion Lefi yn �l eu teuluoedd a'u tylwythau; gwna gyfrif o bob gwryw mis oed a throsodd."
16ויפקד אתם משה על פי יהוה כאשר צוה׃
16 Felly cyfrifodd Moses hwy yn union fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo.
17ויהיו אלה בני לוי בשמתם גרשון וקהת ומררי׃
17 Enwau meibion Lefi oedd: Gerson, Cohath a Merari.
18ואלה שמות בני גרשון למשפחתם לבני ושמעי׃
18 Dyma enwau meibion Gerson yn �l eu tylwythau: Libni a Simei.
19ובני קהת למשפחתם עמרם ויצהר חברון ועזיאל׃
19 Meibion Cohath yn �l eu tylwythau: Amram, Ishar, Hebron ac Ussiel.
20ובני מררי למשפחתם מחלי ומושי אלה הם משפחת הלוי לבית אבתם׃
20 Meibion Merari yn �l eu tylwythau: Mahli a Musi. Dyma dylwythau'r Lefiaid, yn �l eu teuluoedd.
21לגרשון משפחת הלבני ומשפחת השמעי אלה הם משפחת הגרשני׃
21 O Gerson y daeth tylwyth y Libniaid a thylwyth y Simiaid; dyma dylwythau'r Gersoniaid.
22פקדיהם במספר כל זכר מבן חדש ומעלה פקדיהם שבעת אלפים וחמש מאות׃
22 Ar �l rhifo pob gwryw mis oed a throsodd, eu cyfanswm oedd saith mil a phum cant.
23משפחת הגרשני אחרי המשכן יחנו ימה׃
23 Yr oedd teuluoedd y Gersoniaid i wersyllu i'r gorllewin, y tu �l i'r tabernacl.
24ונשיא בית אב לגרשני אליסף בן לאל׃
24 Eliasaff fab Lael oedd penteulu'r Gersoniaid.
25ומשמרת בני גרשון באהל מועד המשכן והאהל מכסהו ומסך פתח אהל מועד׃
25 Ym mhabell y cyfarfod yr oedd meibion Gerson yn gofalu am y tabernacl a'i babell, y llenni, y gorchudd dros ddrws pabell y cyfarfod,
26וקלעי החצר ואת מסך פתח החצר אשר על המשכן ועל המזבח סביב ואת מיתריו לכל עבדתו׃
26 llenni'r cyntedd, y gorchudd dros ddrws y cyntedd sydd o amgylch y tabernacl, yr allor a'r rhaffau, a phopeth ynglu375?n �'u gwasanaeth.
27ולקהת משפחת העמרמי ומשפחת היצהרי ומשפחת החברני ומשפחת העזיאלי אלה הם משפחת הקהתי׃
27 O Cohath y daeth tylwythau'r Amramiaid, yr Ishariaid, yr Hebroniaid a'r Ussieliaid; dyma dylwythau'r Cohathiaid.
28במספר כל זכר מבן חדש ומעלה שמנת אלפים ושש מאות שמרי משמרת הקדש׃
28 Ar �l rhifo pob gwryw mis oed a throsodd, eu cyfanswm oedd wyth mil a chwe chant, a hwy oedd yn gofalu am wasanaeth y cysegr.
29משפחת בני קהת יחנו על ירך המשכן תימנה׃
29 Yr oedd tylwythau'r Cohathiaid i wersyllu i'r de o'r tabernacl.
30ונשיא בית אב למשפחת הקהתי אליצפן בן עזיאל׃
30 Elisaffan fab Ussiel oedd penteulu'r Cohathiaid.
31ומשמרתם הארן והשלחן והמנרה והמזבחת וכלי הקדש אשר ישרתו בהם והמסך וכל עבדתו׃
31 Yr oeddent hwy i ofalu am yr arch, y bwrdd, y canhwyllbren, yr allorau, y llestri a ddefnyddid yn y cysegr, y gorchudd, a phopeth ynglu375?n �'u gwasanaeth.
32ונשיא נשיאי הלוי אלעזר בן אהרן הכהן פקדת שמרי משמרת הקדש׃
32 Prif arweinydd y Lefiaid oedd Eleasar fab Aaron yr offeiriad, ac ef oedd yn goruchwylio'r rhai oedd yn gofalu am y cysegr.
33למררי משפחת המחלי ומשפחת המושי אלה הם משפחת מררי׃
33 O Merari y daeth tylwythau'r Mahliaid a'r Musiaid; dyma dylwythau Merari.
34ופקדיהם במספר כל זכר מבן חדש ומעלה ששת אלפים ומאתים׃
34 Ar �l cyfrif pob gwryw mis oed a throsodd, eu cyfanswm oedd chwe mil a dau gant.
35ונשיא בית אב למשפחת מררי צוריאל בן אביחיל על ירך המשכן יחנו צפנה׃
35 Suriel fab Abihael oedd penteulu Merari; yr oeddent i wersyllu i'r gogledd o'r tabernacl.
36ופקדת משמרת בני מררי קרשי המשכן ובריחיו ועמדיו ואדניו וכל כליו וכל עבדתו׃
36 Y Merariaid oedd i ofalu am fframiau'r tabernacl, y barrau, y colofnau, y traed, yr offer i gyd, a phopeth ynglu375?n �'u gwasanaeth;
37ועמדי החצר סביב ואדניהם ויתדתם ומיתריהם׃
37 hefyd am golofnau'r cyntedd o amgylch, ynghyd �'r traed, yr hoelion a'r rhaffau.
38והחנים לפני המשכן קדמה לפני אהל מועד מזרחה משה ואהרן ובניו שמרים משמרת המקדש למשמרת בני ישראל והזר הקרב יומת׃
38 Yr oedd Moses ac Aaron a'i feibion i wersyllu i'r dwyrain o'r tabernacl, tua chodiad haul, sef o flaen pabell y cyfarfod. Hwy oedd i ofalu am wasanaeth y cysegr a gweini ar bobl Israel; ond yr oedd pwy bynnag arall a dd�i'n agos i'w roi i farwolaeth.
39כל פקודי הלוים אשר פקד משה ואהרן על פי יהוה למשפחתם כל זכר מבן חדש ומעלה שנים ועשרים אלף׃
39 Cyfanswm y Lefiaid a gyfrifodd Moses ac Aaron yn �l eu tylwythau ar orchymyn yr ARGLWYDD, gan gynnwys pob gwryw mis oed a throsodd, oedd dwy fil ar hugain.
40ויאמר יהוה אל משה פקד כל בכר זכר לבני ישראל מבן חדש ומעלה ושא את מספר שמתם׃
40 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, "Yr wyt i gyfrif pob gwryw cyntafanedig o blith pobl Israel sy'n fis oed a throsodd, a'u rhestru yn �l eu henwau.
41ולקחת את הלוים לי אני יהוה תחת כל בכר בבני ישראל ואת בהמת הלוים תחת כל בכור בבהמת בני ישראל׃
41 Yna, neilltua'r Lefiaid i mi yn lle pob cyntafanedig o blith pobl Israel, ac anifeiliaid y Lefiaid yn lle'r cyntafanedig o'u hanifeiliaid hwy; myfi yw'r ARGLWYDD."
42ויפקד משה כאשר צוה יהוה אתו את כל בכר בבני ישראל׃
42 Felly cyfrifodd Moses bob cyntafanedig o blith pobl Israel, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo.
43ויהי כל בכור זכר במספר שמות מבן חדש ומעלה לפקדיהם שנים ועשרים אלף שלשה ושבעים ומאתים׃
43 Ar �l cyfrif pob gwryw cyntafanedig mis oed a throsodd, a'u rhestru wrth eu henwau, yr oedd eu cyfanswm yn ddwy fil ar hugain dau gant saith deg a thri.
44וידבר יהוה אל משה לאמר׃
44 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
45קח את הלוים תחת כל בכור בבני ישראל ואת בהמת הלוים תחת בהמתם והיו לי הלוים אני יהוה׃
45 "Neilltua'r Lefiaid yn lle pob cyntafanedig o blith yr Israeliaid, ac anifeiliaid y Lefiaid yn lle eu hanifeiliaid hwy. Bydd y Lefiaid yn eiddo i mi; myfi yw'r ARGLWYDD.
46ואת פדויי השלשה והשבעים והמאתים העדפים על הלוים מבכור בני ישראל׃
46 Yn iawn am y plant cyntafanedig sy'n eiddo i bobl Israel, sef y dau gant saith deg a thri sy'n rhagor nag eiddo'r Lefiaid,
47ולקחת חמשת חמשת שקלים לגלגלת בשקל הקדש תקח עשרים גרה השקל׃
47 cymer am bob un ohonynt bum sicl, yn �l sicl y cysegr sy'n pwyso ugain gera;
48ונתתה הכסף לאהרן ולבניו פדויי העדפים בהם׃
48 yna rho'r arian sy'n iawn drostynt i Aaron a'i feibion."
49ויקח משה את כסף הפדיום מאת העדפים על פדויי הלוים׃
49 Felly cymerodd Moses yr arian oedd yn iawn dros y rhai oedd yn ychwanegol at y nifer a brynwyd trwy'r Lefiaid,
50מאת בכור בני ישראל לקח את הכסף חמשה וששים ושלש מאות ואלף בשקל הקדש׃
50 ac am blant cyntafanedig Israel cafodd fil tri chant chwe deg a phump o siclau, yn �l sicl y cysegr.
51ויתן משה את כסף הפדים לאהרן ולבניו על פי יהוה כאשר צוה יהוה את משה׃
51 Yna rhoddodd Moses i Aaron a'i feibion yr arian a gymerodd yn iawn, yn union fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo.