1וידבר יהוה אל משה ואל אהרן לאמר׃
1 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses ac Aaron,
2איש על דגלו באתת לבית אבתם יחנו בני ישראל מנגד סביב לאהל מועד יחנו׃
2 "Bydd pobl Israel yn gwersyllu o amgylch pabell y cyfarfod, ychydig oddi wrthi, pob un dan ei faner ei hun a than arwydd tu375? ei dad.
3והחנים קדמה מזרחה דגל מחנה יהודה לצבאתם ונשיא לבני יהודה נחשון בן עמינדב׃
3 Ar ochr y dwyrain, tua chodiad haul, bydd minteioedd gwersyll Jwda yn gwersyllu o dan eu baner.
4וצבאו ופקדיהם ארבעה ושבעים אלף ושש מאות׃
4 Nahson fab Amminadab fydd arweinydd pobl Jwda, a nifer ei lu yn saith deg pedair o filoedd a chwe chant.
5והחנים עליו מטה יששכר ונשיא לבני יששכר נתנאל בן צוער׃
5 Llwyth Issachar fydd yn gwersyllu yn nesaf ato. Nethanel fab Suar fydd arweinydd pobl Issachar,
6וצבאו ופקדיו ארבעה וחמשים אלף וארבע מאות׃
6 a nifer ei lu yn bum deg pedair o filoedd a phedwar cant.
7מטה זבולן ונשיא לבני זבולן אליאב בן חלן׃
7 Yna llwyth Sabulon; Eliab fab Helon fydd arweinydd pobl Sabulon,
8וצבאו ופקדיו שבעה וחמשים אלף וארבע מאות׃
8 a nifer ei lu yn bum deg saith o filoedd a phedwar cant.
9כל הפקדים למחנה יהודה מאת אלף ושמנים אלף וששת אלפים וארבע מאות לצבאתם ראשנה יסעו׃
9 Cyfanswm gwersyll Jwda, yn �l eu minteioedd, fydd cant wyth deg chwech o filoedd a phedwar cant. Hwy fydd y rhai cyntaf i gychwyn ar y daith.
10דגל מחנה ראובן תימנה לצבאתם ונשיא לבני ראובן אליצור בן שדיאור׃
10 "Ar ochr y de bydd minteioedd gwersyll Reuben o dan eu baner. Elisur fab Sedeur fydd arweinydd pobl Reuben,
11וצבאו ופקדיו ששה וארבעים אלף וחמש מאות׃
11 a nifer ei lu yn bedwar deg chwech o filoedd a phum cant.
12והחונם עליו מטה שמעון ונשיא לבני שמעון שלמיאל בן צורי שדי׃
12 Llwyth Simeon fydd yn gwersyllu yn nesaf ato. Selumiel fab Suresadai fydd arweinydd pobl Simeon,
13וצבאו ופקדיהם תשעה וחמשים אלף ושלש מאות׃
13 a nifer ei lu yn bum deg naw o filoedd a thri chant.
14ומטה גד ונשיא לבני גד אליסף בן דעואל׃
14 Yna llwyth Gad; Eliasaff fab Reuel fydd arweinydd pobl Gad,
15וצבאו ופקדיהם חמשה וארבעים אלף ושש מאות וחמשים׃
15 a nifer ei lu yn bedwar deg pump o filoedd, chwe chant a phum deg.
16כל הפקדים למחנה ראובן מאת אלף ואחד וחמשים אלף וארבע מאות וחמשים לצבאתם ושנים יסעו׃
16 Cyfanswm gwersyll Reuben, yn �l eu minteioedd, fydd cant pum deg un o filoedd pedwar cant a phum deg. Hwy fydd yr ail i gychwyn allan.
17ונסע אהל מועד מחנה הלוים בתוך המחנת כאשר יחנו כן יסעו איש על ידו לדגליהם׃
17 "Yna bydd pabell y cyfarfod a gwersyll y Lefiaid yn cychwyn allan yng nghanol y gwersylloedd eraill. Byddant yn ymdeithio yn y drefn y byddant yn gwersyllu, pob un yn ei le a than ei faner ei hun.
18דגל מחנה אפרים לצבאתם ימה ונשיא לבני אפרים אלישמע בן עמיהוד׃
18 "Ar ochr y gorllewin bydd minteioedd gwersyll Effraim o dan eu baner. Elisama fab Ammihud fydd arweinydd pobl Effraim,
19וצבאו ופקדיהם ארבעים אלף וחמש מאות׃
19 a nifer ei lu yn bedwar deg o filoedd a phum cant.
20ועליו מטה מנשה ונשיא לבני מנשה גמליאל בן פדהצור׃
20 Yn nesaf ato bydd llwyth Manasse. Gamaliel fab Pedasur fydd arweinydd pobl Manasse,
21וצבאו ופקדיהם שנים ושלשים אלף ומאתים׃
21 a nifer ei lu yn dri deg dwy o filoedd a dau gant.
22ומטה בנימן ונשיא לבני בנימן אבידן בן גדעני׃
22 Yna llwyth Benjamin; Abidan fab Gideoni fydd arweinydd pobl Benjamin,
23וצבאו ופקדיהם חמשה ושלשים אלף וארבע מאות׃
23 a nifer ei lu yn dri deg pump o filoedd a phedwar cant.
24כל הפקדים למחנה אפרים מאת אלף ושמנת אלפים ומאה לצבאתם ושלשים יסעו׃
24 Cyfanswm gwersyll Effraim, yn �l eu minteioedd, fydd cant ac wyth o filoedd a chant. Hwy fydd y trydydd i gychwyn allan.
25דגל מחנה דן צפנה לצבאתם ונשיא לבני דן אחיעזר בן עמישדי׃
25 "Ar ochr y gogledd bydd minteioedd gwersyll Dan o dan eu baner. Ahieser fab Ammisadai fydd arweinydd pobl Dan,
26וצבאו ופקדיהם שנים וששים אלף ושבע מאות׃
26 a nifer ei lu yn chwe deg dwy o filoedd a saith gant.
27והחנים עליו מטה אשר ונשיא לבני אשר פגעיאל בן עכרן׃
27 Llwyth Aser fydd yn gwersyllu yn nesaf ato. Pagiel fab Ocran fydd arweinydd pobl Aser,
28וצבאו ופקדיהם אחד וארבעים אלף וחמש מאות׃
28 a nifer ei lu yn bedwar deg un o filoedd a phum cant.
29ומטה נפתלי ונשיא לבני נפתלי אחירע בן עינן׃
29 Yna llwyth Nafftali; Ahira fab Enan fydd arweinydd pobl Nafftali,
30וצבאו ופקדיהם שלשה וחמשים אלף וארבע מאות׃
30 a nifer ei lu yn bum deg tair o filoedd a phedwar cant.
31כל הפקדים למחנה דן מאת אלף ושבעה וחמשים אלף ושש מאות לאחרנה יסעו לדגליהם׃
31 Cyfanswm gwersyll Dan fydd cant pum deg saith o filoedd a chwe chant. Hwy fydd yr olaf i gychwyn allan, pob un dan ei faner ei hun."
32אלה פקודי בני ישראל לבית אבתם כל פקודי המחנת לצבאתם שש מאות אלף ושלשת אלפים וחמש מאות וחמשים׃
32 Dyma bobl Israel a gyfrifwyd yn �l eu teuluoedd. Cyfanswm y rhai a rifwyd yn eu gwersylloedd ac yn �l eu minteioedd oedd chwe chant a thair o filoedd pum cant a phum deg.
33והלוים לא התפקדו בתוך בני ישראל כאשר צוה יהוה את משה׃
33 Ond, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses, ni rifwyd y Lefiaid ymysg pobl Israel.
34ויעשו בני ישראל ככל אשר צוה יהוה את משה כן חנו לדגליהם וכן נסעו איש למשפחתיו על בית אבתיו׃
34 Gwnaeth pobl Israel y cyfan a orchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses, gan wersyllu dan eu baneri a chychwyn allan, fesul tylwyth, yn �l eu teuluoedd.