1וידבר יהוה אל משה בערבת מואב על ירדן ירחו לאמר׃
1 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses yng ngwastadedd Moab, gyferbyn � Jericho ger yr Iorddonen,
2צו את בני ישראל ונתנו ללוים מנחלת אחזתם ערים לשבת ומגרש לערים סביבתיהם תתנו ללוים׃
2 "Gorchymyn i bobl Israel roi o'r etifeddiaeth a g�nt ddinasoedd i'r Lefiaid i fyw ynddynt, a phorfeydd o amgylch y dinasoedd.
3והיו הערים להם לשבת ומגרשיהם יהיו לבהמתם ולרכשם ולכל חיתם׃
3 Caiff y Lefiaid fyw yn y dinasoedd, a bydd y porfeydd ar gyfer eu gwartheg, eu praidd, a'u holl anifeiliaid.
4ומגרשי הערים אשר תתנו ללוים מקיר העיר וחוצה אלף אמה סביב׃
4 Bydd porfeydd y dinasoedd a roddwch i'r Lefiaid yn ymestyn o fur y ddinas tuag allan am fil o gufyddau oddi amgylch.
5ומדתם מחוץ לעיר את פאת קדמה אלפים באמה ואת פאת נגב אלפים באמה ואת פאת ים אלפים באמה ואת פאת צפון אלפים באמה והעיר בתוך זה יהיה להם מגרשי הערים׃
5 Yr ydych i fesur, o'r tu allan i'r ddinas, ddwy fil o gufyddau ar yr ochr ddwyreiniol, dwy fil ar yr ochr ddeheuol, dwy fil ar yr ochr orllewinol, a dwy fil ar yr ochr ogleddol, a'r ddinas yn y canol; dyma borfeydd y dinasoedd fydd yn eiddo iddynt.
6ואת הערים אשר תתנו ללוים את שש ערי המקלט אשר תתנו לנס שמה הרצח ועליהם תתנו ארבעים ושתים עיר׃
6 "O'r dinasoedd a rowch i'r Lefiaid, bydd chwech yn ddinasoedd noddfa, lle caiff y lleiddiaid ffoi; yn ychwanegol at y rhain, rhowch iddynt bedwar deg a dwy o ddinasoedd.
7כל הערים אשר תתנו ללוים ארבעים ושמנה עיר אתהן ואת מגרשיהן׃
7 Felly byddwch yn rhoi i'r Lefiaid bedwar deg ac wyth o ddinasoedd i gyd, gyda'u porfeydd.
8והערים אשר תתנו מאחזת בני ישראל מאת הרב תרבו ומאת המעט תמעיטו איש כפי נחלתו אשר ינחלו יתן מעריו ללוים׃
8 o'r dinasoedd sy'n feddiant i bobl Israel cymerwch lawer oddi wrth y llwythau mawr, ond llai oddi wrth y llwythau bychain; y mae pob llwyth i roi dinasoedd i'r Lefiaid yn �l maint yr etifeddiaeth a gafodd."
9וידבר יהוה אל משה לאמר׃
9 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
10דבר אל בני ישראל ואמרת אלהם כי אתם עברים את הירדן ארצה כנען׃
10 "Dywed wrth bobl Israel, 'Pan fyddwch wedi mynd dros yr Iorddonen i mewn i wlad Canaan,
11והקריתם לכם ערים ערי מקלט תהיינה לכם ונס שמה רצח מכה נפש בשגגה׃
11 yr ydych i neilltuo i chwi eich hunain ddinasoedd i fod yn ddinasoedd noddfa, er mwyn i'r lleiddiad, a laddodd rywun yn anfwriadol, gael ffoi iddynt.
12והיו לכם הערים למקלט מגאל ולא ימות הרצח עד עמדו לפני העדה למשפט׃
12 Bydd y dinasoedd yn noddfa rhag y dialydd, fel na chaiff y lleiddiad ei ladd cyn iddo sefyll ei brawf o flaen y cynulliad.
13והערים אשר תתנו שש ערי מקלט תהיינה לכם׃
13 o'r chwe dinas a nodwch yn ddinasoedd noddfa,
14את שלש הערים תתנו מעבר לירדן ואת שלש הערים תתנו בארץ כנען ערי מקלט תהיינה׃
14 bydd tair yr ochr yma i'r Iorddonen, a thair yng ngwlad Canaan.
15לבני ישראל ולגר ולתושב בתוכם תהיינה שש הערים האלה למקלט לנוס שמה כל מכה נפש בשגגה׃
15 Bydd y chwe dinas hyn yn noddfa i bobl Israel, ac i'r dieithryn a'r ymwelydd yn eu plith, a chaiff pwy bynnag a laddodd rywun yn anfwriadol ffoi iddynt.
16ואם בכלי ברזל הכהו וימת רצח הוא מות יומת הרצח׃
16 "'Os bydd rhywun yn taro rhywun arall ag offeryn haearn, ac yntau'n marw, y mae'n llofrudd; rhodder y llofrudd i farwolaeth.
17ואם באבן יד אשר ימות בה הכהו וימת רצח הוא מות יומת הרצח׃
17 Os bydd yn ei daro � charreg yn ei law, a'r garreg yn debyg o ladd, ac yntau'n marw, y mae'n llofrudd; rhodder y llofrudd i farwolaeth.
18או בכלי עץ יד אשר ימות בו הכהו וימת רצח הוא מות יומת הרצח׃
18 Os bydd yn ei daro ag arf pren yn ei law, a'r arf yn debyg o ladd, ac yntau'n marw, y mae'n llofrudd; rhodder y llofrudd i farwolaeth.
19גאל הדם הוא ימית את הרצח בפגעו בו הוא ימיתנו׃
19 Caiff y sawl sy'n dial gwaed roi'r llofrudd i farwolaeth pan ddaw o hyd iddo.
20ואם בשנאה יהדפנו או השליך עליו בצדיה וימת׃
20 Os bydd rhywun yn gwanu rhywun arall mewn casineb, neu'n ymosod arno'n fwriadol, ac yntau'n marw;
21או באיבה הכהו בידו וימת מות יומת המכה רצח הוא גאל הדם ימית את הרצח בפגעו בו׃
21 neu ynteu'n taro rhywun �'i law mewn atgasedd, ac yntau'n marw, yna rhodder y sawl a'i trawodd i farwolaeth; y mae'n llofrudd, a chaiff y sawl sy'n dial gwaed ei roi i farwolaeth pan ddaw o hyd iddo.
22ואם בפתע בלא איבה הדפו או השליך עליו כל כלי בלא צדיה׃
22 "'Os bydd rhywun yn gwanu rhywun arall yn sydyn, a heb atgasedd, neu os bydd yn taflu rhywbeth ato'n anfwriadol,
23או בכל אבן אשר ימות בה בלא ראות ויפל עליו וימת והוא לא אויב לו ולא מבקש רעתו׃
23 neu ynteu heb edrych yn ei daro � charreg a fyddai'n debyg o'i ladd, ac yntau'n marw, yna, gan na fu gelyniaeth rhyngddynt a chan na fwriadodd ei niweidio,
24ושפטו העדה בין המכה ובין גאל הדם על המשפטים האלה׃
24 y mae'r cynulliad i farnu rhwng yr ymosodwr a'r dialydd gwaed, yn �l y deddfau hyn;
25והצילו העדה את הרצח מיד גאל הדם והשיבו אתו העדה אל עיר מקלטו אשר נס שמה וישב בה עד מות הכהן הגדל אשר משח אתו בשמן הקדש׃
25 a bydd y cynulliad yn arbed y lleiddiad rhag y dialydd gwaed ac yn ei roi'n �l yn y ddinas noddfa y ffodd iddi, a chaiff fyw yno nes marw'r archoffeiriad a eneiniwyd �'r olew cysegredig.
26ואם יצא יצא הרצח את גבול עיר מקלטו אשר ינוס שמה׃
26 Ond os �'r lleiddiad rywbryd y tu allan i derfynau'r ddinas noddfa y ffodd iddi,
27ומצא אתו גאל הדם מחוץ לגבול עיר מקלטו ורצח גאל הדם את הרצח אין לו דם׃
27 a'r dialydd gwaed yn ei ganfod a'i ladd, ni fydd yn euog o'i waed.
28כי בעיר מקלטו ישב עד מות הכהן הגדל ואחרי מות הכהן הגדל ישוב הרצח אל ארץ אחזתו׃
28 Rhaid i'r lleiddiad aros tu mewn i'w ddinas noddfa nes marw'r archoffeiriad; ond ar �l marw'r archoffeiriad, caiff ddychwelyd i'r tir sy'n feddiant iddo.
29והיו אלה לכם לחקת משפט לדרתיכם בכל מושבתיכם׃
29 "'Bydd hyn yn ddeddf ac yn gyfraith i chwi trwy eich cenedlaethau lle bynnag y byddwch yn byw.
30כל מכה נפש לפי עדים ירצח את הרצח ועד אחד לא יענה בנפש למות׃
30 Os bydd rhywun yn lladd rhywun arall, rhodder ef i farwolaeth ar dystiolaeth tystion; ond na rodder neb i farwolaeth ar dystiolaeth un tyst.
31ולא תקחו כפר לנפש רצח אשר הוא רשע למות כי מות יומת׃
31 Peidiwch � chymryd arian yn iawn am fywyd llofrudd a gafwyd yn euog o ladd; rhodder ef i farwolaeth.
32ולא תקחו כפר לנוס אל עיר מקלטו לשוב לשבת בארץ עד מות הכהן׃
32 Peidiwch � chymryd arian yn iawn gan y sawl a ffodd i'w ddinas noddfa, er mwyn iddo gael dychwelyd i fyw i'w dir ei hun cyn marw'r archoffeiriad.
33ולא תחניפו את הארץ אשר אתם בה כי הדם הוא יחניף את הארץ ולארץ לא יכפר לדם אשר שפך בה כי אם בדם שפכו׃
33 Peidiwch � halogi'r wlad yr ydych yn byw ynddi; y mae gwaed yn halogi'r wlad, ac ni ellir gwneud iawn am y wlad y tywalltwyd gwaed ynddi ond trwy waed y sawl a'i tywalltodd.
34ולא תטמא את הארץ אשר אתם ישבים בה אשר אני שכן בתוכה כי אני יהוה שכן בתוך בני ישראל׃
34 Peidiwch � gwneud y wlad yr ydych yn byw ynddi yn aflan, oherwydd yr wyf fi, yr ARGLWYDD, yn preswylio yn ei chanol ac ymysg pobl Israel.'"