Hebrew: Modern

Welsh

Proverbs

31

1דברי למואל מלך משא אשר יסרתו אמו׃
1 Geiriau Lemuel brenin Massa, y rhai a ddysgodd ei fam iddo:
2מה ברי ומה בר בטני ומה בר נדרי׃
2 Beth yw hyn, fy mab, mab fy nghroth? Beth yw hyn, mab fy addunedau?
3אל תתן לנשים חילך ודרכיך למחות מלכין׃
3 Paid � threulio dy nerth gyda merched, na'th fywyd gyda'r rhai sy'n dinistrio brenhinoedd.
4אל למלכים למואל אל למלכים שתו יין ולרוזנים או שכר׃
4 Nid gweddus i frenhinoedd, O Lemuel, nid gweddus i frenhinoedd yfed gwin, ac nid gweddus i reolwyr flysio diod gadarn,
5פן ישתה וישכח מחקק וישנה דין כל בני עני׃
5 rhag iddynt yfed, ac anghofio'r hyn a ddeddfwyd, a gwyrdroi achos y rhai gorthrymedig i gyd.
6תנו שכר לאובד ויין למרי נפש׃
6 Rhowch ddiod gadarn i'r un sydd ar ddarfod, a gwin i'r chwerw ei ysbryd;
7ישתה וישכח רישו ועמלו לא יזכר עוד׃
7 c�nt hwy yfed ac anghofio'u tlodi, a pheidio � chofio'u gofid byth mwy.
8פתח פיך לאלם אל דין כל בני חלוף׃
8 Dadlau o blaid y mud, a thros achos yr holl rai diobaith.
9פתח פיך שפט צדק ודין עני ואביון׃
9 Siarad yn eglur, a rho farn gyfiawn; cefnoga achos yr anghenus a'r tlawd.
10אשת חיל מי ימצא ורחק מפנינים מכרה׃
10 Pwy a all ddod o hyd i wraig fedrus? Y mae hi'n fwy gwerthfawr na gemau.
11בטח בה לב בעלה ושלל לא יחסר׃
11 Y mae calon ei gu373?r yn ymddiried ynddi, ac ni fydd pall ar ei henillion.
12גמלתהו טוב ולא רע כל ימי חייה׃
12 Y mae'n gwneud daioni iddo yn hytrach na cholled, a hynny ar hyd ei hoes.
13דרשה צמר ופשתים ותעש בחפץ כפיה׃
13 Y mae'n ceisio gwl�n a llin, ac yn cael pleser o weithio �'i dwylo.
14היתה כאניות סוחר ממרחק תביא לחמה׃
14 Y mae, fel llongau masnachwr, yn dwyn ei hymborth o bell.
15ותקם בעוד לילה ותתן טרף לביתה וחק לנערתיה׃
15 Y mae'n codi cyn iddi ddyddio, yn darparu bwyd i'w thylwyth, ac yn trefnu gorchwylion ei morynion.
16זממה שדה ותקחהו מפרי כפיה נטע כרם׃
16 Ar �l ystyried yn fanwl, y mae'n prynu maes, ac yn plannu gwinllan �'i henillion.
17חגרה בעוז מתניה ותאמץ זרעותיה׃
17 Y mae'n gwregysu ei llwynau � nerth, ac yn dangos mor gryf yw ei breichiau.
18טעמה כי טוב סחרה לא יכבה בליל נרה׃
18 Y mae'n sicrhau bod ei busnes yn broffidiol, ac ni fydd ei lamp yn diffodd trwy'r nos.
19ידיה שלחה בכישור וכפיה תמכו פלך׃
19 Y mae'n gosod ei llaw ar y cogail, a'i dwylo'n gafael yn y werthyd.
20כפה פרשה לעני וידיה שלחה לאביון׃
20 Y mae'n estyn ei llaw i'r anghenus, a'i dwylo i'r tlawd.
21לא תירא לביתה משלג כי כל ביתה לבש שנים׃
21 Nid yw'n pryderu am ei thylwyth pan ddaw eira, oherwydd byddant i gyd wedi eu dilladu'n glyd.
22מרבדים עשתה לה שש וארגמן לבושה׃
22 Y mae'n gwneud cwrlidau iddi ei hun, ac y mae ei gwisg o liain main a phorffor.
23נודע בשערים בעלה בשבתו עם זקני ארץ׃
23 Y mae ei gu373?r yn adnabyddus yn y pyrth, pan yw'n eistedd gyda henuriaid yr ardal.
24סדין עשתה ותמכר וחגור נתנה לכנעני׃
24 Y mae'n gwneud gwisgoedd o liain ac yn eu gwerthu, ac yn darparu gwregysau i'r masnachwr.
25עז והדר לבושה ותשחק ליום אחרון׃
25 Y mae wedi ei gwisgo � nerth ac anrhydedd, ac yn wynebu'r dyfodol dan chwerthin.
26פיה פתחה בחכמה ותורת חסד על לשונה׃
26 Y mae'n siarad yn ddoeth, a cheir cyfarwyddyd caredig ar ei thafod.
27צופיה הליכות ביתה ולחם עצלות לא תאכל׃
27 Y mae'n cadw golwg ar yr hyn sy'n digwydd i'w theulu, ac nid yw'n bwyta bara segurdod.
28קמו בניה ויאשרוה בעלה ויהללה׃
28 Y mae ei phlant yn tyfu ac yn ei bendithio; a bydd ei gu373?r yn ei chanmol:
29רבות בנות עשו חיל ואת עלית על כלנה׃
29 "Y mae llawer o ferched wedi gweithio'n fedrus, ond yr wyt ti'n rhagori arnynt i gyd."
30שקר החן והבל היפי אשה יראת יהוה היא תתהלל׃
30 Y mae tegwch yn twyllo, a phrydferthwch yn darfod, ond y wraig sy'n ofni'r ARGLWYDD, y mae hon i'w chanmol.
31תנו לה מפרי ידיה ויהללוה בשערים מעשיה׃
31 Rhowch iddi o ffrwyth ei dwylo, a bydded i'w gwaith ei chanmol yn y pyrth.