1הדו ליהוה כי טוב כי לעולם חסדו׃
1 Diolchwch i'r ARGLWYDD, oherwydd da yw, ac y mae ei gariad hyd byth.
2יאמרו גאולי יהוה אשר גאלם מיד צר׃
2 Fel yna dyweded y rhai a waredwyd gan yr ARGLWYDD, y rhai a waredodd ef o law'r gelyn,
3ומארצות קבצם ממזרח וממערב מצפון ומים׃
3 a'u cynnull ynghyd o'r gwledydd, o'r dwyrain a'r gorllewin, o'r gogledd a'r de.
4תעו במדבר בישימון דרך עיר מושב לא מצאו׃
4 Aeth rhai ar goll mewn anialdir a diffeithwch, heb gael ffordd at ddinas i fyw ynddi;
5רעבים גם צמאים נפשם בהם תתעטף׃
5 yr oeddent yn newynog ac yn sychedig, ac yr oedd eu nerth yn pallu.
6ויצעקו אל יהוה בצר להם ממצוקותיהם יצילם׃
6 Yna gwaeddasant ar yr ARGLWYDD yn eu cyfyngder, a gwaredodd hwy o'u hadfyd;
7וידריכם בדרך ישרה ללכת אל עיר מושב׃
7 arweiniodd hwy ar hyd ffordd union i fynd i ddinas i fyw ynddi.
8יודו ליהוה חסדו ונפלאותיו לבני אדם׃
8 Bydded iddynt ddiolch i'r ARGLWYDD am ei gariad, ac am ei ryfeddodau i ddynolryw.
9כי השביע נפש שקקה ונפש רעבה מלא טוב׃
9 Oherwydd rhoes eu digon i'r sychedig, a llenwi'r newynog � phethau daionus.
10ישבי חשך וצלמות אסירי עני וברזל׃
10 Yr oedd rhai yn eistedd mewn tywyllwch dudew, yn gaethion mewn gofid a haearn,
11כי המרו אמרי אל ועצת עליון נאצו׃
11 am iddynt wrthryfela yn erbyn geiriau Duw, a dirmygu cyngor y Goruchaf.
12ויכנע בעמל לבם כשלו ואין עזר׃
12 Llethwyd eu calon gan flinder; syrthiasant heb neb i'w hachub.
13ויזעקו אל יהוה בצר להם ממצקותיהם יושיעם׃
13 Yna gwaeddasant ar yr ARGLWYDD yn eu cyfyngder, a gwaredodd ef hwy o'u hadfyd;
14יוציאם מחשך וצלמות ומוסרותיהם ינתק׃
14 daeth � hwy allan o'r tywyllwch dudew, a drylliodd eu gefynnau.
15יודו ליהוה חסדו ונפלאותיו לבני אדם׃
15 Bydded iddynt ddiolch i'r ARGLWYDD am ei gariad, ac am ei ryfeddodau i ddynolryw.
16כי שבר דלתות נחשת ובריחי ברזל גדע׃
16 Oherwydd torrodd byrth pres, a drylliodd farrau heyrn.
17אולים מדרך פשעם ומעונתיהם יתענו׃
17 Yr oedd rhai yn ynfyd; oherwydd eu ffyrdd pechadurus a'u camwedd fe'u cystuddiwyd;
18כל אכל תתעב נפשם ויגיעו עד שערי מות׃
18 aethant i gas�u pob math o fwyd, a daethant yn agos at byrth angau.
19ויזעקו אל יהוה בצר להם ממצקותיהם יושיעם׃
19 Yna gwaeddasant ar yr ARGLWYDD yn eu cyfyngder, a gwaredodd ef hwy o'u hadfyd;
20ישלח דברו וירפאם וימלט משחיתותם׃
20 anfonodd ei air ac iachaodd hwy, a gwaredodd hwy o ddistryw.
21יודו ליהוה חסדו ונפלאותיו לבני אדם׃
21 Bydded iddynt ddiolch i'r ARGLWYDD am ei gariad, ac am ei ryfeddodau i ddynolryw.
22ויזבחו זבחי תודה ויספרו מעשיו ברנה׃
22 Bydded iddynt ddod ag offrymau diolch, a dweud am ei weithredoedd mewn gorfoledd.
23יורדי הים באניות עשי מלאכה במים רבים׃
23 Aeth rhai i'r m�r mewn llongau, a gwneud eu gorchwylion ar ddyfroedd mawr;
24המה ראו מעשי יהוה ונפלאותיו במצולה׃
24 gwelsant hwy weithredoedd yr ARGLWYDD, a'i ryfeddodau yn y dyfnder.
25ויאמר ויעמד רוח סערה ותרומם גליו׃
25 Pan lefarai ef, deuai gwynt stormus, a pheri i'r tonnau godi'n uchel.
26יעלו שמים ירדו תהומות נפשם ברעה תתמוגג׃
26 Cawsant eu codi i'r nefoedd a'u bwrw i'r dyfnder, a phallodd eu dewrder yn y trybini;
27יחוגו וינועו כשכור וכל חכמתם תתבלע׃
27 yr oeddent yn troi yn simsan fel meddwyn, ac wedi colli eu holl fedr.
28ויצעקו אל יהוה בצר להם וממצוקתיהם יוציאם׃
28 Yna gwaeddasant ar yr ARGLWYDD yn eu cyfyngder, a gwaredodd ef hwy o'u hadfyd;
29יקם סערה לדממה ויחשו גליהם׃
29 gwnaeth i'r storm dawelu, ac aeth y tonnau'n ddistaw;
30וישמחו כי ישתקו וינחם אל מחוז חפצם׃
30 yr oeddent yn llawen am iddi lonyddu, ac arweiniodd hwy i'r hafan a ddymunent.
31יודו ליהוה חסדו ונפלאותיו לבני אדם׃
31 Bydded iddynt ddiolch i'r ARGLWYDD am ei gariad, ac am ei ryfeddodau i ddynolryw.
32וירממוהו בקהל עם ובמושב זקנים יהללוהו׃
32 Bydded iddynt ei ddyrchafu yng nghynulleidfa'r bobl, a'i foliannu yng nghyngor yr henuriaid.
33ישם נהרות למדבר ומצאי מים לצמאון׃
33 Y mae ef yn troi afonydd yn ddiffeithwch, a ffynhonnau dyfroedd yn sychdir;
34ארץ פרי למלחה מרעת ישבי בה׃
34 y mae ef yn troi tir ffrwythlon yn grastir, oherwydd drygioni'r rhai sy'n byw yno.
35ישם מדבר לאגם מים וארץ ציה למצאי מים׃
35 Y mae ef yn troi diffeithwch yn llynnau du373?r, a thir sych yn ffynhonnau.
36ויושב שם רעבים ויכוננו עיר מושב׃
36 Gwna i'r newynog fyw yno, a sefydlant ddinas i fyw ynddi;
37ויזרעו שדות ויטעו כרמים ויעשו פרי תבואה׃
37 heuant feysydd a phlannu gwinwydd, a ch�nt gnydau toreithiog.
38ויברכם וירבו מאד ובהמתם לא ימעיט׃
38 Bydd ef yn eu bendithio ac yn eu hamlhau, ac ni fydd yn gadael i'w gwartheg leihau.
39וימעטו וישחו מעצר רעה ויגון׃
39 Pan fyddant yn lleihau ac wedi eu darostwng trwy orthrwm, helbul a gofid,
40שפך בוז על נדיבים ויתעם בתהו לא דרך׃
40 bydd ef yn tywallt gwarth ar dywysogion, ac yn peri iddynt grwydro trwy'r anialwch diarffordd.
41וישגב אביון מעוני וישם כצאן משפחות׃
41 Ond bydd yn codi'r tlawd o'i ofid, ac yn gwneud ei deulu fel praidd.
42יראו ישרים וישמחו וכל עולה קפצה פיה׃
42 Bydd yr uniawn yn gweld ac yn llawenhau, ond pob un drygionus yn atal ei dafod.
43מי חכם וישמר אלה ויתבוננו חסדי יהוה׃
43 Pwy bynnag sydd ddoeth, rhoed sylw i'r pethau hyn; bydded iddynt ystyried ffyddlondeb yr ARGLWYDD.