Hebrew: Modern

Welsh

Psalms

111

1הללו יה אודה יהוה בכל לבב בסוד ישרים ועדה׃
1 Molwch yr ARGLWYDD. Diolchaf i'r ARGLWYDD �'m holl galon yng nghwmni'r uniawn, yn y gynulleidfa.
2גדלים מעשי יהוה דרושים לכל חפציהם׃
2 Mawr yw gweithredoedd yr ARGLWYDD, fe'u harchwilir gan bawb sy'n ymhyfrydu ynddynt.
3הוד והדר פעלו וצדקתו עמדת לעד׃
3 Llawn anrhydedd a mawredd yw ei waith, a saif ei gyfiawnder am byth.
4זכר עשה לנפלאתיו חנון ורחום יהוה׃
4 Gwnaeth inni gofio ei ryfeddodau; graslon a thrugarog yw'r ARGLWYDD.
5טרף נתן ליראיו יזכר לעולם בריתו׃
5 Mae'n rhoi bwyd i'r rhai sy'n ei ofni, ac yn cofio ei gyfamod am byth.
6כח מעשיו הגיד לעמו לתת להם נחלת גוים׃
6 Dangosodd i'w bobl rym ei weithredoedd trwy roi iddynt etifeddiaeth y cenhedloedd.
7מעשי ידיו אמת ומשפט נאמנים כל פקודיו׃
7 Y mae gwaith ei ddwylo yn gywir a chyfiawn, a'i holl orchmynion yn ddibynadwy;
8סמוכים לעד לעולם עשוים באמת וישר׃
8 y maent wedi eu sefydlu hyd byth, ac wedi eu llunio o wirionedd ac uniondeb.
9פדות שלח לעמו צוה לעולם בריתו קדוש ונורא שמו׃
9 Rhoes waredigaeth i'w bobl, a gorchymyn ei gyfamod dros byth. Sanctaidd ac ofnadwy yw ei enw.
10ראשית חכמה יראת יהוה שכל טוב לכל עשיהם תהלתו עמדת לעד׃
10 Dechrau doethineb yw ofn yr ARGLWYDD; y mae deall da gan bawb sy'n ufudd. Y mae ei foliant yn para byth.