1הללו יה הללו את שם יהוה הללו עבדי יהוה׃
1 Molwch yr ARGLWYDD. Molwch enw'r ARGLWYDD, molwch ef, chwi weision yr ARGLWYDD,
2שעמדים בבית יהוה בחצרות בית אלהינו׃
2 sy'n sefyll yn nhu375?'r ARGLWYDD, yng nghynteddoedd ein Duw.
3הללו יה כי טוב יהוה זמרו לשמו כי נעים׃
3 Molwch yr ARGLWYDD, oherwydd da yw ef; canwch i'w enw, oherwydd y mae'n ddymunol.
4כי יעקב בחר לו יה ישראל לסגלתו׃
4 Dewisodd yr ARGLWYDD Jacob iddo'i hunan, ac Israel yn drysor arbennig iddo.
5כי אני ידעתי כי גדול יהוה ואדנינו מכל אלהים׃
5 Oherwydd fe wn i fod yr ARGLWYDD yn fawr, a bod ein Harglwydd ni yn rhagori ar yr holl dduwiau.
6כל אשר חפץ יהוה עשה בשמים ובארץ בימים וכל תהומות׃
6 Fe wna'r ARGLWYDD beth bynnag a ddymuna, yn y nefoedd ac ar y ddaear, yn y moroedd a'r holl ddyfnderau.
7מעלה נשאים מקצה הארץ ברקים למטר עשה מוצא רוח מאוצרותיו׃
7 P�r i gymylau godi o derfynau'r ddaear; fe wna fellt ar gyfer y glaw, a daw gwynt allan o'i ystordai.
8שהכה בכורי מצרים מאדם עד בהמה׃
8 Fe drawodd rai cyntafanedig yr Aifft, yn ddyn ac anifail;
9שלח אתות ומפתים בתוככי מצרים בפרעה ובכל עבדיו׃
9 anfonodd arwyddion a rhybuddion trwy ganol yr Aifft, yn erbyn Pharo a'i holl ddeiliaid.
10שהכה גוים רבים והרג מלכים עצומים׃
10 Fe drawodd genhedloedd mawrion, a lladd brenhinoedd cryfion �
11לסיחון מלך האמרי ולעוג מלך הבשן ולכל ממלכות כנען׃
11 Sihon brenin yr Amoriaid, Og brenin Basan, a holl dywysogion Canaan;
12ונתן ארצם נחלה נחלה לישראל עמו׃
12 rhoddodd eu tir yn etifeddiaeth, yn etifeddiaeth i'w bobl Israel.
13יהוה שמך לעולם יהוה זכרך לדר ודר׃
13 Y mae dy enw, O ARGLWYDD, am byth, a'th enwogrwydd o genhedlaeth i genhedlaeth.
14כי ידין יהוה עמו ועל עבדיו יתנחם׃
14 Oherwydd fe rydd yr ARGLWYDD gyfiawnder i'w bobl, a bydd yn trugarhau wrth ei weision.
15עצבי הגוים כסף וזהב מעשה ידי אדם׃
15 Arian ac aur yw delwau'r cenhedloedd, ac wedi eu gwneud � dwylo dynol.
16פה להם ולא ידברו עינים להם ולא יראו׃
16 Y mae ganddynt enau nad ydynt yn siarad, a llygaid nad ydynt yn gweld;
17אזנים להם ולא יאזינו אף אין יש רוח בפיהם׃
17 y mae ganddynt glustiau nad ydynt yn clywed, ac nid oes anadl yn eu ffroenau.
18כמוהם יהיו עשיהם כל אשר בטח בהם׃
18 Yn mae eu gwneuthurwyr yn mynd yn debyg iddynt, ac felly hefyd bob un sy'n ymddiried ynddynt.
19בית ישראל ברכו את יהוה בית אהרן ברכו את יהוה׃
19 Dylwyth Israel, bendithiwch yr ARGLWYDD; Dylwyth Aaron, bendithiwch yr ARGLWYDD.
20בית הלוי ברכו את יהוה יראי יהוה ברכו את יהוה׃
20 Dylwyth Lefi, bendithiwch yr ARGLWYDD; pob un sy'n ofni'r ARGLWYDD, bendithiwch yr ARGLWYDD.
21ברוך יהוה מציון שכן ירושלם הללו יה׃
21 Bendigedig yn Seion fyddo'r ARGLWYDD sydd yn trigo yn Jerwsalem. Molwch yr ARGLWYDD.