1הודו ליהוה כי טוב כי לעולם חסדו׃
1 Diolchwch i'r ARGLWYDD am mai da yw, oherwydd mae ei gariad hyd byth.
2הודו לאלהי האלהים כי לעולם חסדו׃
2 Diolchwch i Dduw y duwiau, oherwydd mae ei gariad hyd byth.
3הודו לאדני האדנים כי לעולם חסדו׃
3 Diolchwch i Arglwydd yr arglwyddi, oherwydd mae ei gariad hyd byth.
4לעשה נפלאות גדלות לבדו כי לעולם חסדו׃
4 Y mae'n gwneud rhyfeddodau mawrion ei hunan, oherwydd mae ei gariad hyd byth;
5לעשה השמים בתבונה כי לעולם חסדו׃
5 gwnaeth y nefoedd mewn doethineb, oherwydd mae ei gariad hyd byth;
6לרקע הארץ על המים כי לעולם חסדו׃
6 taenodd y ddaear dros y dyfroedd, oherwydd mae ei gariad hyd byth;
7לעשה אורים גדלים כי לעולם חסדו׃
7 gwnaeth oleuadau mawrion, oherwydd mae ei gariad hyd byth;
8את השמש לממשלת ביום כי לעולם חסדו׃
8 yr haul i reoli'r dydd, oherwydd mae ei gariad hyd byth,
9את הירח וכוכבים לממשלות בלילה כי לעולם חסדו׃
9 y lleuad a'r s�r i reoli'r nos, oherwydd mae ei gariad hyd byth.
10למכה מצרים בבכוריהם כי לעולם חסדו׃
10 Trawodd rai cyntafanedig yr Aifft, oherwydd mae ei gariad hyd byth,
11ויוצא ישראל מתוכם כי לעולם חסדו׃
11 a daeth ag Israel allan o'u canol, oherwydd mae ei gariad hyd byth;
12ביד חזקה ובזרוע נטויה כי לעולם חסדו׃
12 � llaw gref ac � braich estynedig, oherwydd mae ei gariad hyd byth.
13לגזר ים סוף לגזרים כי לעולם חסדו׃
13 Holltodd y M�r Coch yn ddau, oherwydd mae ei gariad hyd byth,
14והעביר ישראל בתוכו כי לעולם חסדו׃
14 a dygodd Israel trwy ei ganol, oherwydd mae ei gariad hyd byth,
15ונער פרעה וחילו בים סוף כי לעולם חסדו׃
15 ond taflodd Pharo a'i lu i'r M�r Coch, oherwydd mae ei gariad hyd byth.
16למוליך עמו במדבר כי לעולם חסדו׃
16 Arweiniodd ei bobl trwy'r anialwch, oherwydd mae ei gariad hyd byth,
17למכה מלכים גדלים כי לעולם חסדו׃
17 a tharo brenhinoedd mawrion, oherwydd mae ei gariad hyd byth.
18ויהרג מלכים אדירים כי לעולם חסדו׃
18 Lladdodd frenhinoedd cryfion, oherwydd mae ei gariad hyd byth;
19לסיחון מלך האמרי כי לעולם חסדו׃
19 Sihon brenin yr Amoriaid, oherwydd mae ei gariad hyd byth,
20ולעוג מלך הבשן כי לעולם חסדו׃
20 Og brenin Basan, oherwydd mae ei gariad hyd byth;
21ונתן ארצם לנחלה כי לעולם חסדו׃
21 rhoddodd eu tir yn etifeddiaeth, oherwydd mae ei gariad hyd byth,
22נחלה לישראל עבדו כי לעולם חסדו׃
22 yn etifeddiaeth i'w was Israel, oherwydd mae ei gariad hyd byth.
23שבשפלנו זכר לנו כי לעולם חסדו׃
23 Pan oeddem wedi'n darostwng, fe'n cofiodd, oherwydd mae ei gariad hyd byth,
24ויפרקנו מצרינו כי לעולם חסדו׃
24 a'n gwaredu oddi wrth ein gelynion, oherwydd mae ei gariad hyd byth.
25נתן לחם לכל בשר כי לעולם חסדו׃
25 Ef sy'n rhoi bwyd i bob creadur, oherwydd mae ei gariad hyd byth.
26הודו לאל השמים כי לעולם חסדו׃
26 Diolchwch i Dduw y nefoedd, oherwydd mae ei gariad hyd byth.