Hebrew: Modern

Welsh

Psalms

140

1למנצח מזמור לדוד חלצני יהוה מאדם רע מאיש חמסים תנצרני׃
1 1 I'r Cyfarwyddwr: Salm. I Ddafydd.0 O ARGLWYDD, gwared fi rhag pobl ddrygionus; cadw fi rhag rhai sy'n gorthrymu,
2אשר חשבו רעות בלב כל יום יגורו מלחמות׃
2 rhai sy'n cynllunio drygioni yn eu calon, a phob amser yn codi cythrwfl.
3שננו לשונם כמו נחש חמת עכשוב תחת שפתימו סלה׃
3 Y mae eu tafod yn finiog fel sarff, ac y mae gwenwyn gwiber dan eu gwefusau. Sela.
4שמרני יהוה מידי רשע מאיש חמסים תנצרני אשר חשבו לדחות פעמי׃
4 O ARGLWYDD, arbed fi rhag dwylo'r drygionus; cadw fi rhag rhai sy'n gorthrymu, rhai sy'n cynllunio i faglu fy nhraed.
5טמנו גאים פח לי וחבלים פרשו רשת ליד מעגל מקשים שתו לי סלה׃
5 Bu rhai trahaus yn cuddio magl i mi, a rhai dinistriol yn taenu rhwyd, ac yn gosod maglau ar ymyl y ffordd. Sela.
6אמרתי ליהוה אלי אתה האזינה יהוה קול תחנוני׃
6 Dywedais wrth yr ARGLWYDD, "Fy Nuw wyt ti"; gwrando, O ARGLWYDD, ar lef fy ngweddi.
7יהוה אדני עז ישועתי סכתה לראשי ביום נשק׃
7 O ARGLWYDD Dduw, fy iachawdwriaeth gadarn, cuddiaist fy mhen yn nydd brwydr.
8אל תתן יהוה מאויי רשע זממו אל תפק ירומו סלה׃
8 O ARGLWYDD, paid � rhoi eu dymuniad i'r drygionus, paid � llwyddo eu bwriad. Sela.
9ראש מסבי עמל שפתימו יכסומו׃
9 Y mae rhai o'm hamgylch yn codi eu pen, ond bydded i ddrygioni eu gwefusau eu llethu.
10ימיטו עליהם גחלים באש יפלם במהמרות בל יקומו׃
10 Bydded i farwor tanllyd syrthio arnynt; bwrier hwy i ffosydd dyfnion heb allu codi.
11איש לשון בל יכון בארץ איש חמס רע יצודנו למדחפת׃
11 Na fydded lle i'r enllibus yn y wlad; bydded i ddrygioni ymlid y gorthrymwr yn ddiarbed.
12ידעת כי יעשה יהוה דין עני משפט אבינים׃
12 Gwn y gwna'r ARGLWYDD gyfiawnder �'r truan, ac y rhydd farn i'r anghenus.
13אך צדיקים יודו לשמך ישבו ישרים את פניך׃
13 Yn sicr bydd y cyfiawn yn clodfori dy enw; bydd yr uniawn yn byw yn dy bresenoldeb.