Hebrew: Modern

Welsh

Psalms

145

1תהלה לדוד ארוממך אלוהי המלך ואברכה שמך לעולם ועד׃
1 1 Emyn Mawl. I Ddafydd.0 Dyrchafaf di, fy Nuw, O Frenin, a bendithiaf dy enw byth bythoedd.
2בכל יום אברכך ואהללה שמך לעולם ועד׃
2 Bob dydd bendithiaf di, a moliannu dy enw byth bythoedd.
3גדול יהוה ומהלל מאד ולגדלתו אין חקר׃
3 Mawr yw'r ARGLWYDD, a theilwng iawn o fawl, ac y mae ei fawredd yn anchwiliadwy.
4דור לדור ישבח מעשיך וגבורתיך יגידו׃
4 Molianna'r naill genhedlaeth dy waith wrth y llall, a mynegi dy weithredoedd nerthol.
5הדר כבוד הודך ודברי נפלאותיך אשיחה׃
5 Am ysblander gogoneddus dy fawredd y dywedant, a myfyrio ar dy ryfeddodau.
6ועזוז נוראתיך יאמרו וגדולתיך אספרנה׃
6 Cyhoeddant rym dy weithredoedd ofnadwy, ac adrodd am dy fawredd.
7זכר רב טובך יביעו וצדקתך ירננו׃
7 Dygant i gof dy ddaioni helaeth, a chanu am dy gyfiawnder.
8חנון ורחום יהוה ארך אפים וגדל חסד׃
8 Graslon a thrugarog yw'r ARGLWYDD, araf i ddigio, a llawn ffyddlondeb.
9טוב יהוה לכל ורחמיו על כל מעשיו׃
9 Y mae'r ARGLWYDD yn dda wrth bawb, ac y mae ei drugaredd tuag at ei holl waith.
10יודוך יהוה כל מעשיך וחסידיך יברכוכה׃
10 Y mae dy holl waith yn dy foli, ARGLWYDD, a'th saint yn dy fendithio.
11כבוד מלכותך יאמרו וגבורתך ידברו׃
11 Dywedant am ogoniant dy deyrnas, a s�n am dy nerth,
12להודיע לבני האדם גבורתיו וכבוד הדר מלכותו׃
12 er mwyn dangos i bobl dy weithredoedd nerthol ac ysblander gogoneddus dy deyrnas.
13מלכותך מלכות כל עלמים וממשלתך בכל דור ודור׃
13 Teyrnas dragwyddol yw dy deyrnas, a saif dy lywodraeth byth bythoedd. Y mae'r ARGLWYDD yn ffyddlon yn ei holl eiriau, ac yn drugarog yn ei holl weithredoedd.
14סומך יהוה לכל הנפלים וזוקף לכל הכפופים׃
14 Fe gynnal yr ARGLWYDD bawb sy'n syrthio, a chodi pawb sydd wedi eu darostwng.
15עיני כל אליך ישברו ואתה נותן להם את אכלם בעתו׃
15 Try llygaid pawb mewn gobaith atat ti, ac fe roi iddynt eu bwyd yn ei bryd;
16פותח את ידך ומשביע לכל חי רצון׃
16 y mae dy law yn agored, ac yr wyt yn diwallu popeth byw yn �l d'ewyllys.
17צדיק יהוה בכל דרכיו וחסיד בכל מעשיו׃
17 Y mae'r ARGLWYDD yn gyfiawn yn ei holl ffyrdd ac yn ffyddlon yn ei holl weithredoedd.
18קרוב יהוה לכל קראיו לכל אשר יקראהו באמת׃
18 Y mae'r ARGLWYDD yn agos at bawb sy'n galw arno, at bawb sy'n galw arno mewn gwirionedd.
19רצון יראיו יעשה ואת שועתם ישמע ויושיעם׃
19 Gwna ddymuniad y rhai sy'n ei ofni; gwrendy ar eu cri, a gwareda hwy.
20שומר יהוה את כל אהביו ואת כל הרשעים ישמיד׃
20 Gofala'r ARGLWYDD am bawb sy'n ei garu, ond y mae'n distrywio'r holl rai drygionus.
21תהלת יהוה ידבר פי ויברך כל בשר שם קדשו לעולם ועד׃
21 Llefara fy ngenau foliant yr ARGLWYDD, a bydd pob creadur yn bendithio'i enw sanctaidd byth bythoedd.