1הללו יה הללי נפשי את יהוה׃
1 Molwch yr ARGLWYDD. Fy enaid, mola'r ARGLWYDD.
2אהללה יהוה בחיי אזמרה לאלהי בעודי׃
2 Molaf yr ARGLWYDD tra byddaf byw, canaf fawl i'm Duw tra byddaf.
3אל תבטחו בנדיבים בבן אדם שאין לו תשועה׃
3 Peidiwch ag ymddiried mewn tywysogion, mewn unrhyw un na all waredu;
4תצא רוחו ישב לאדמתו ביום ההוא אבדו עשתנתיו׃
4 bydd ei anadl yn darfod ac yntau'n dychwelyd i'r ddaear, a'r diwrnod hwnnw derfydd am ei gynlluniau.
5אשרי שאל יעקב בעזרו שברו על יהוה אלהיו׃
5 Gwyn ei fyd y sawl y mae Duw Jacob yn ei gynorthwyo, ac y mae ei obaith yn yr ARGLWYDD ei Dduw,
6עשה שמים וארץ את הים ואת כל אשר בם השמר אמת לעולם׃
6 creawdwr nefoedd a daear a'r m�r, a'r cyfan sydd ynddynt. Y mae ef yn cadw'n ffyddlon hyd byth,
7עשה משפט לעשוקים נתן לחם לרעבים יהוה מתיר אסורים׃
7 ac yn gwneud barn �'r gorthrymedig; y mae'n rhoi bara i'r newynog. Y mae'r ARGLWYDD yn rhyddhau carcharorion;
8יהוה פקח עורים יהוה זקף כפופים יהוה אהב צדיקים׃
8 y mae'r ARGLWYDD yn rhoi golwg i'r deillion, ac yn codi pawb sydd wedi eu darostwng; y mae'r ARGLWYDD yn caru'r rhai cyfiawn.
9יהוה שמר את גרים יתום ואלמנה יעודד ודרך רשעים יעות׃
9 Y mae'r ARGLWYDD yn gwylio dros y dieithriaid, ac yn cynnal y weddw a'r amddifad; y mae'n difetha ffordd y drygionus.
10ימלך יהוה לעולם אלהיך ציון לדר ודר הללו יה׃
10 Bydd yr ARGLWYDD yn teyrnasu hyd byth, a'th Dduw di, O Seion, dros y cenedlaethau. Molwch yr ARGLWYDD.