1הללו יה הללו את יהוה מן השמים הללוהו במרומים׃
1 Molwch yr ARGLWYDD. Molwch yr ARGLWYDD o'r nefoedd, molwch ef yn yr uchelderau.
2הללוהו כל מלאכיו הללוהו כל צבאו׃
2 Molwch ef, ei holl angylion; molwch ef, ei holl luoedd.
3הללוהו שמש וירח הללוהו כל כוכבי אור׃
3 Molwch ef, haul a lleuad; molwch ef, yr holl s�r disglair.
4הללוהו שמי השמים והמים אשר מעל השמים׃
4 Molwch ef, nef y nefoedd, a'r dyfroedd sydd uwch y nefoedd.
5יהללו את שם יהוה כי הוא צוה ונבראו׃
5 Bydded iddynt foli enw'r ARGLWYDD, oherwydd ef a orchmynnodd, a chrewyd hwy;
6ויעמידם לעד לעולם חק נתן ולא יעבור׃
6 fe'u gwnaeth yn sicr fyth bythoedd; rhoes iddynt ddeddf nas torrir.
7הללו את יהוה מן הארץ תנינים וכל תהמות׃
7 Molwch yr ARGLWYDD o'r ddaear, chwi ddreigiau a'r holl ddyfnderau,
8אש וברד שלג וקיטור רוח סערה עשה דברו׃
8 t�n a chenllysg, eira a mwg, y gwynt stormus sy'n ufudd i'w air;
9ההרים וכל גבעות עץ פרי וכל ארזים׃
9 y mynyddoedd a'r holl fryniau, y coed ffrwythau a'r holl gedrwydd;
10החיה וכל בהמה רמש וצפור כנף׃
10 anifeiliaid gwyllt a'r holl rai dof, ymlusgiaid ac adar hedegog;
11מלכי ארץ וכל לאמים שרים וכל שפטי ארץ׃
11 brenhinoedd y ddaear a'r holl bobloedd, tywysogion a holl farnwyr y ddaear;
12בחורים וגם בתולות זקנים עם נערים׃
12 gwu375?r ifainc a gwyryfon, hynafgwyr a llanciau hefyd.
13יהללו את שם יהוה כי נשגב שמו לבדו הודו על ארץ ושמים׃
13 Bydded iddynt foli enw'r ARGLWYDD, oherwydd ei enw ef yn unig sydd ddyrchafedig, ac y mae ei ogoniant ef uwchlaw daear a nefoedd.
14וירם קרן לעמו תהלה לכל חסידיו לבני ישראל עם קרבו הללו יה׃
14 Y mae wedi dyrchafu corn ei bobl, ac ef yw moliant ei holl ffyddloniaid, pobl Israel, sy'n agos ato. Molwch yr ARGLWYDD.