Hebrew: Modern

Welsh

Psalms

34

1לדוד בשנותו את טעמו לפני אבימלך ויגרשהו וילך אברכה את יהוה בכל עת תמיד תהלתו בפי׃
1 1 I Ddafydd, pan newidiodd ei wedd o flaen Abimelech, a chael ei yrru ymaith a mynd.0 Bendithiaf yr ARGLWYDD bob amser; bydd ei foliant yn wastad yn fy ngenau.
2ביהוה תתהלל נפשי ישמעו ענוים וישמחו׃
2 Yn yr ARGLWYDD yr ymhyfrydaf; bydded i'r gostyngedig glywed a llawenychu.
3גדלו ליהוה אתי ונרוממה שמו יחדו׃
3 Mawrygwch yr ARGLWYDD gyda mi, a dyrchafwn ei enw gyda'n gilydd.
4דרשתי את יהוה וענני ומכל מגורותי הצילני׃
4 Ceisiais yr ARGLWYDD, ac atebodd fi a'm gwaredu o'm holl ofnau.
5הביטו אליו ונהרו ופניהם אל יחפרו׃
5 Y mae'r rhai sy'n edrych arno'n gloywi, ac ni ddaw cywilydd i'w hwynebau.
6זה עני קרא ויהוה שמע ומכל צרותיו הושיעו׃
6 Dyma un isel a waeddodd, a'r ARGLWYDD yn ei glywed ac yn ei waredu o'i holl gyfyngderau.
7חנה מלאך יהוה סביב ליראיו ויחלצם׃
7 Gwersylla angel yr ARGLWYDD o amgylch y rhai sy'n ei ofni, ac y mae'n eu gwaredu.
8טעמו וראו כי טוב יהוה אשרי הגבר יחסה בו׃
8 Profwch, a gwelwch mai da yw'r ARGLWYDD. Gwyn ei fyd y sawl sy'n llochesu ynddo.
9יראו את יהוה קדשיו כי אין מחסור ליראיו׃
9 Ofnwch yr ARGLWYDD, ei saint ef, oherwydd nid oes eisiau ar y rhai a'i hofna.
10כפירים רשו ורעבו ודרשי יהוה לא יחסרו כל טוב׃
10 Y mae'r anffyddwyr yn dioddef angen ac yn newynu, ond nid yw'r rhai sy'n ceisio'r ARGLWYDD yn brin o ddim da.
11לכו בנים שמעו לי יראת יהוה אלמדכם׃
11 Dewch, blant, gwrandewch arnaf, dysgaf ichwi ofn yr ARGLWYDD.
12מי האיש החפץ חיים אהב ימים לראות טוב׃
12 Pwy ohonoch sy'n dymuno bywyd ac a garai fyw'n hir i fwynhau daioni?
13נצר לשונך מרע ושפתיך מדבר מרמה׃
13 Cadw dy dafod rhag drygioni a'th wefusau rhag llefaru celwydd.
14סור מרע ועשה טוב בקש שלום ורדפהו׃
14 Tro oddi wrth ddrygioni a gwna dda, ceisia heddwch a'i ddilyn.
15עיני יהוה אל צדיקים ואזניו אל שועתם׃
15 Y mae llygaid yr ARGLWYDD ar y cyfiawn, a'i glustiau'n agored i'w cri.
16פני יהוה בעשי רע להכרית מארץ זכרם׃
16 Y mae wyneb yr ARGLWYDD yn erbyn y rhai sy'n gwneud drwg, i ddileu eu coffa o'r ddaear.
17צעקו ויהוה שמע ומכל צרותם הצילם׃
17 Pan waedda'r cyfiawn am gymorth, fe glyw'r ARGLWYDD a'u gwaredu o'u holl gyfyngderau.
18קרוב יהוה לנשברי לב ואת דכאי רוח יושיע׃
18 Y mae'r ARGLWYDD yn agos at y drylliedig o galon ac yn gwaredu'r briwedig o ysbryd.
19רבות רעות צדיק ומכלם יצילנו יהוה׃
19 Llawer o adfyd a gaiff y cyfiawn, ond gwareda'r ARGLWYDD ef o'r cyfan.
20שמר כל עצמותיו אחת מהנה לא נשברה׃
20 Ceidw ei holl esgyrn, ac ni thorrir yr un ohonynt.
21תמותת רשע רעה ושנאי צדיק יאשמו׃
21 Y mae adfyd yn lladd y drygionus, a chosbir y rhai sy'n cas�u'r cyfiawn.
22פודה יהוה נפש עבדיו ולא יאשמו כל החסים בו׃
22 Y mae'r ARGLWYDD yn gwaredu ei weision, ac ni chosbir y rhai sy'n llochesu ynddo.