1למנצח על יונת אלם רחקים לדוד מכתם באחז אתו פלשתים בגת חנני אלהים כי שאפני אנוש כל היום לחם ילחצני׃
1 1 I'r Cyfarwyddwr: ar Golomen y Derw Pell. Michtam. I Ddafydd, pan ddaliodd y Philistiaid ef yn Gath.0 Bydd drugarog wrthyf, O Dduw, oherwydd y mae pobl yn gwasgu arnaf, ac ymosodwyr yn fy ngorthrymu drwy'r dydd;
2שאפו שוררי כל היום כי רבים לחמים לי מרום׃
2 y mae fy ngelynion yn gwasgu arnaf drwy'r dydd, a llawer yw'r rhai sy'n ymladd yn f'erbyn.
3יום אירא אני אליך אבטח׃
3 Cod fi i fyny yn nydd fy ofn; yr wyf yn ymddiried ynot ti.
4באלהים אהלל דברו באלהים בטחתי לא אירא מה יעשה בשר לי׃
4 Yn Nuw, yr un y molaf ei air, yn Nuw yr wyf yn ymddiried heb ofni; beth a all pobl ei wneud imi?
5כל היום דברי יעצבו עלי כל מחשבתם לרע׃
5 Trwy'r dydd y maent yn ystumio fy ngeiriau, ac y mae eu holl fwriadau i'm drygu.
6יגורו יצפינו המה עקבי ישמרו כאשר קוו נפשי׃
6 Ymgasglant at ei gilydd a llechu, ac y maent yn gwylio fy nghamre.
7על און פלט למו באף עמים הורד אלהים׃
7 Fel y disgwyliant am fy mywyd, t�l iddynt am eu trosedd; yn dy ddig, O Dduw, darostwng bobloedd.
8נדי ספרתה אתה שימה דמעתי בנאדך הלא בספרתך׃
8 Yr wyt ti wedi cofnodi fy ocheneidiau, ac wedi costrelu fy nagrau � onid ydynt yn dy lyfr?
9אז ישובו אויבי אחור ביום אקרא זה ידעתי כי אלהים לי׃
9 Yna troir fy ngelynion yn eu h�l yn y dydd y galwaf arnat. Hyn a wn: fod Duw o'm tu.
10באלהים אהלל דבר ביהוה אהלל דבר׃
10 Yn Nuw, yr un y molaf ei air, yn yr ARGLWYDD, y molaf ei air,
11באלהים בטחתי לא אירא מה יעשה אדם לי׃
11 yn Nuw yr wyf yn ymddiried heb ofni; beth a all pobl ei wneud imi?
12עלי אלהים נדריך אשלם תודת לך׃
12 Gwneuthum addunedau i ti, O Dduw; fe'u talaf i ti ag offrymau diolch.
13כי הצלת נפשי ממות הלא רגלי מדחי להתהלך לפני אלהים באור החיים׃
13 Oherwydd gwaredaist fy mywyd rhag angau, a'm camau, yn wir, rhag llithro, er mwyn imi rodio gerbron Duw yng ngoleuni'r bywyd.