1למנצח מזמור לדוד שמע אלהים קולי בשיחי מפחד אויב תצר חיי׃
1 1 I'r Cyfarwyddwr: Salm. I Ddafydd.0 Clyw fy llais, O Dduw, wrth imi gwyno; achub fy mywyd rhag arswyd y gelyn,
2תסתירני מסוד מרעים מרגשת פעלי און׃
2 cuddia fi rhag cynllwyn rhai drygionus a rhag dichell gwneuthurwyr drygioni �
3אשר שננו כחרב לשונם דרכו חצם דבר מר׃
3 rhai sy'n hogi eu tafod fel cleddyf, ac yn anelu eu geiriau chwerw fel saethau,
4לירות במסתרים תם פתאם ירהו ולא ייראו׃
4 i saethu'r dieuog o'r dirgel, i saethu'n sydyn a di-ofn.
5יחזקו למו דבר רע יספרו לטמון מוקשים אמרו מי יראה למו׃
5 Y maent yn glynu wrth eu bwriad drwg, ac yn s�n am osod maglau o'r golwg, a dweud, "Pwy all ein gweld?"
6יחפשו עולת תמנו חפש מחפש וקרב איש ולב עמק׃
6 Y maent yn dyfeisio drygioni, ac yn cuddio'u dyfeisiadau; y mae'r galon a'r meddwl dynol yn ddwfn!
7וירם אלהים חץ פתאום היו מכותם׃
7 Ond bydd Duw'n eu saethu �'i saeth; yn sydyn y daw eu cwymp.
8ויכשילוהו עלימו לשונם יתנדדו כל ראה בם׃
8 Bydd yn eu dymchwel oherwydd eu tafod, a bydd pawb sy'n eu gweld yn ysgwyd eu pennau.
9וייראו כל אדם ויגידו פעל אלהים ומעשהו השכילו׃
9 Daw ofn ar bawb, a byddant yn adrodd am waith Duw, ac yn deall yr hyn a wnaeth.
10ישמח צדיק ביהוה וחסה בו ויתהללו כל ישרי לב׃
10 Bydded i'r cyfiawn lawenhau yn yr ARGLWYDD, a llochesu ynddo, a bydded i'r holl rai uniawn orfoleddu.