Hebrew: Modern

Welsh

Psalms

71

1בך יהוה חסיתי אל אבושה לעולם׃
1 Ynot ti, ARGLWYDD, y ceisiais loches; na fydded cywilydd arnaf byth.
2בצדקתך תצילני ותפלטני הטה אלי אזנך והושיעני׃
2 Yn dy gyfiawnder gwared ac achub fi, tro dy glust ataf ac arbed fi.
3היה לי לצור מעון לבוא תמיד צוית להושיעני כי סלעי ומצודתי אתה׃
3 Bydd yn graig noddfa i mi, yn amddiffynfa i'm cadw, oherwydd ti yw fy nghraig a'm hamddiffynfa.
4אלהי פלטני מיד רשע מכף מעול וחומץ׃
4 O fy Nuw, gwared fi o law'r drygionus, o afael yr anghyfiawn a'r creulon.
5כי אתה תקותי אדני יהוה מבטחי מנעורי׃
5 Oherwydd ti, Arglwydd, yw fy ngobaith, fy ymddiriedaeth o'm hieuenctid, O ARGLWYDD.
6עליך נסמכתי מבטן ממעי אמי אתה גוזי בך תהלתי תמיד׃
6 Arnat ti y b�m yn pwyso o'm genedigaeth; ti a'm tynnodd allan o groth fy mam. Amdanat ti y bydd fy mawl yn wastad.
7כמופת הייתי לרבים ואתה מחסי עז׃
7 B�m fel pe'n rhybudd i lawer; ond ti yw fy noddfa gadarn.
8ימלא פי תהלתך כל היום תפארתך׃
8 Y mae fy ngenau'n llawn o'th foliant ac o'th ogoniant bob amser.
9אל תשליכני לעת זקנה ככלות כחי אל תעזבני׃
9 Paid �'m bwrw ymaith yn amser henaint; paid �'m gadael pan fydd fy nerth yn pallu.
10כי אמרו אויבי לי ושמרי נפשי נועצו יחדו׃
10 Oherwydd y mae fy ngelynion yn siarad amdanaf, a'r rhai sy'n gwylio am fy einioes yn trafod gyda'i gilydd,
11לאמר אלהים עזבו רדפו ותפשוהו כי אין מציל׃
11 ac yn dweud, "Y mae Duw wedi ei adael; ewch ar ei �l a'i ddal, oherwydd nid oes gwaredydd."
12אלהים אל תרחק ממני אלהי לעזרתי חישה׃
12 O Dduw, paid � phellhau oddi wrthyf; O fy Nuw, brysia i'm cynorthwyo.
13יבשו יכלו שטני נפשי יעטו חרפה וכלמה מבקשי רעתי׃
13 Doed cywilydd a gwarth ar fy ngwrthwynebwyr, a gwaradwydd yn orchudd dros y rhai sy'n ceisio fy nrygu.
14ואני תמיד איחל והוספתי על כל תהלתך׃
14 Ond byddaf fi'n disgwyl yn wastad, ac yn dy foli'n fwy ac yn fwy.
15פי יספר צדקתך כל היום תשועתך כי לא ידעתי ספרות׃
15 Bydd fy ngenau'n mynegi dy gyfiawnder a'th weithredoedd achubol trwy'r amser, oherwydd ni wn eu nifer.
16אבוא בגברות אדני יהוה אזכיר צדקתך לבדך׃
16 Dechreuaf gyda'r gweithredoedd grymus, O Arglwydd DDUW; soniaf am dy gyfiawnder di yn unig.
17אלהים למדתני מנעורי ועד הנה אגיד נפלאותיך׃
17 O Dduw, dysgaist fi o'm hieuenctid, ac yr wyf yn dal i gyhoeddi dy ryfeddodau;
18וגם עד זקנה ושיבה אלהים אל תעזבני עד אגיד זרועך לדור לכל יבוא גבורתך׃
18 a hyd yn oed pan wyf yn hen a phenwyn, O Dduw, paid �'m gadael, nes imi fynegi dy rym i'r cenedlaethau sy'n codi.
19וצדקתך אלהים עד מרום אשר עשית גדלות אלהים מי כמוך׃
19 Y mae dy gryfder a'th gyfiawnder, O Dduw, yn cyrraedd i'r uchelder, oherwydd iti wneud pethau mawr. O Dduw, pwy sydd fel tydi?
20אשר הראיתנו צרות רבות ורעות תשוב תחיינו ומתהמות הארץ תשוב תעלני׃
20 Ti, a wnaeth imi weld cyfyngderau mawr a chwerw, fydd yn fy adfywio drachefn; ac o ddyfnderau'r ddaear fe'm dygi i fyny unwaith eto.
21תרב גדלתי ותסב תנחמני׃
21 Byddi'n ychwanegu at fy anrhydedd, ac yn troi i'm cysuro.
22גם אני אודך בכלי נבל אמתך אלהי אזמרה לך בכנור קדוש ישראל׃
22 Byddaf finnau'n dy foliannu �'r nabl am dy ffyddlondeb, O fy Nuw; byddaf yn canu i ti �'r delyn, O Sanct Israel.
23תרננה שפתי כי אזמרה לך ונפשי אשר פדית׃
23 Bydd fy ngwefusau'n gweiddi'n llawen � oherwydd canaf i ti � a hefyd yr enaid a waredaist.
24גם לשוני כל היום תהגה צדקתך כי בשו כי חפרו מבקשי רעתי׃
24 Bydd fy nhafod beunydd yn s�n am dy gyfiawnder; oherwydd daeth cywilydd a gwaradwydd ar y rhai a fu'n ceisio fy nrygu.