1לשלמה אלהים משפטיך למלך תן וצדקתך לבן מלך׃
1 1 I Solomon.0 O Dduw, rho dy farnedigaeth i'r brenin, a'th gyfiawnder i fab y brenin.
2ידין עמך בצדק וענייך במשפט׃
2 Bydded iddo farnu dy bobl yn gyfiawn, a'th rai anghenus yn gywir.
3ישאו הרים שלום לעם וגבעות בצדקה׃
3 Doed y mynyddoedd � heddwch i'r bobl, a'r bryniau � chyfiawnder.
4ישפט עניי עם יושיע לבני אביון וידכא עושק׃
4 Bydded iddo amddiffyn achos tlodion y bobl, a gwaredu'r rhai anghenus, a dryllio'r gorthrymwr.
5ייראוך עם שמש ולפני ירח דור דורים׃
5 Bydded iddo fyw tra bo haul a chyhyd �'r lleuad, o genhedlaeth i genhedlaeth.
6ירד כמטר על גז כרביבים זרזיף ארץ׃
6 Bydded fel glaw yn disgyn ar gnwd, ac fel cawodydd yn dyfrhau'r ddaear.
7יפרח בימיו צדיק ורב שלום עד בלי ירח׃
7 Bydded cyfiawnder yn llwyddo yn ei ddyddiau, a heddwch yn ffynnu tra bo lleuad.
8וירד מים עד ים ומנהר עד אפסי ארץ׃
8 Bydded iddo lywodraethu o f�r i f�r, ac o'r Ewffrates hyd derfynau'r ddaear.
9לפניו יכרעו ציים ואיביו עפר ילחכו׃
9 Bydded i'w wrthwynebwyr blygu o'i flaen, ac i'w elynion lyfu'r llwch.
10מלכי תרשיש ואיים מנחה ישיבו מלכי שבא וסבא אשכר יקריבו׃
10 Bydded i frenhinoedd Tarsis a'r ynysoedd ddod ag anrhegion iddo, ac i frenhinoedd Sheba a Seba gyflwyno eu teyrnged.
11וישתחוו לו כל מלכים כל גוים יעבדוהו׃
11 Bydded i'r holl frenhinoedd ymostwng o'i flaen, ac i'r holl genhedloedd ei wasanaethu.
12כי יציל אביון משוע ועני ואין עזר לו׃
12 Oherwydd y mae'n gwaredu'r anghenus pan lefa, a'r tlawd pan yw heb gynorthwywr.
13יחס על דל ואביון ונפשות אביונים יושיע׃
13 Y mae'n tosturio wrth y gwan a'r anghenus, ac yn gwaredu bywyd y tlodion.
14מתוך ומחמס יגאל נפשם וייקר דמם בעיניו׃
14 Y mae'n achub eu bywyd rhag trais a gorthrwm, ac y mae eu gwaed yn werthfawr yn ei olwg.
15ויחי ויתן לו מזהב שבא ויתפלל בעדו תמיד כל היום יברכנהו׃
15 Hir oes fo iddo, a rhodder iddo aur o Sheba; aed gweddi i fyny ar ei ran yn wastad, a chaffed ei fendithio bob amser.
16יהי פסת בר בארץ בראש הרים ירעש כלבנון פריו ויציצו מעיר כעשב הארץ׃
16 Bydded digonedd o u375?d yn y wlad, yn tyfu hyd at bennau'r mynyddoedd; a bydded ei gnwd yn cynyddu fel Lebanon, a'i rawn fel gwellt y maes.
17יהי שמו לעולם לפני שמש ינין שמו ויתברכו בו כל גוים יאשרוהו׃
17 Bydded ei enw'n aros hyd byth, ac yn para cyhyd �'r haul; a'r holl genhedloedd yn cael bendith ynddo ac yn ei alw'n fendigedig.
18ברוך יהוה אלהים אלהי ישראל עשה נפלאות לבדו׃
18 Bendigedig fyddo'r ARGLWYDD, Duw Israel; ef yn unig sy'n gwneud rhyfeddodau.
19וברוך שם כבודו לעולם וימלא כבודו את כל הארץ אמן ואמן׃
19 Bendigedig fyddo'i enw gogoneddus hyd byth, a bydded yr holl ddaear yn llawn o'i ogoniant. Amen ac Amen.
20כלו תפלות דוד בן ישי׃
20 Diwedd gwedd�au Dafydd fab Jesse.