1שיר מזמור לבני קרח למנצח על מחלת לענות משכיל להימן האזרחי יהוה אלהי ישועתי יום צעקתי בלילה נגדך׃
1 1 C�n. Salm. I feibion Cora. I'r Cyfarwyddwr: ar Mahalath Leannoth. Masc�l. I Heman yr Esrahead.0 O ARGLWYDD, Duw fy iachawdwriaeth, liw dydd galwaf arnat, gyda'r nos deuaf atat.
2תבוא לפניך תפלתי הטה אזנך לרנתי׃
2 Doed fy ngweddi hyd atat, tro dy glust at fy llef.
3כי שבעה ברעות נפשי וחיי לשאול הגיעו׃
3 Yr wyf yn llawn helbulon, ac y mae fy mywyd yn ymyl Sheol.
4נחשבתי עם יורדי בור הייתי כגבר אין איל׃
4 Ystyriwyd fi gyda'r rhai sy'n disgyn i'r pwll, ac euthum fel un heb nerth,
5במתים חפשי כמו חללים שכבי קבר אשר לא זכרתם עוד והמה מידך נגזרו׃
5 fel un wedi ei adael gyda'r meirw, fel y lladdedigion sy'n gorffwys mewn bedd � rhai nad wyt yn eu cofio bellach am eu bod wedi eu torri ymaith o'th afael.
6שתני בבור תחתיות במחשכים במצלות׃
6 Gosodaist fi yn y pwll isod, yn y mannau tywyll a'r dyfnderau.
7עלי סמכה חמתך וכל משבריך ענית סלה׃
7 Daeth dy ddigofaint yn drwm arnaf, a llethaist fi �'th holl donnau. Sela.
8הרחקת מידעי ממני שתני תועבות למו כלא ולא אצא׃
8 Gwnaethost i'm cydnabod bellhau oddi wrthyf, a'm gwneud yn ffiaidd iddynt. Yr wyf wedi fy nghaethiwo ac ni allaf ddianc;
9עיני דאבה מני עני קראתיך יהוה בכל יום שטחתי אליך כפי׃
9 y mae fy llygaid yn pylu gan gystudd. Galwaf arnat ti bob dydd, O ARGLWYDD, ac y mae fy nwylo'n ymestyn atat.
10הלמתים תעשה פלא אם רפאים יקומו יודוך סלה׃
10 A wnei di ryfeddodau i'r meirw? A yw'r cysgodion yn codi i'th foliannu? Sela.
11היספר בקבר חסדך אמונתך באבדון׃
11 A fynegir dy gariad yn y bedd, a'th wirionedd yn nhir Abadon?
12היודע בחשך פלאך וצדקתך בארץ נשיה׃
12 A yw dy ryfeddodau'n wybyddus yn y tywyllwch, a'th fuddugoliaethau yn nhir angof?
13ואני אליך יהוה שועתי ובבקר תפלתי תקדמך׃
13 Ond yr wyf fi yn llefain arnat ti am gymorth, O ARGLWYDD, ac yn y bore daw fy ngweddi atat.
14למה יהוה תזנח נפשי תסתיר פניך ממני׃
14 O ARGLWYDD, pam yr wyt yn fy ngwrthod, ac yn cuddio dy wyneb oddi wrthyf?
15עני אני וגוע מנער נשאתי אמיך אפונה׃
15 Anghenus wyf, ac ar drengi o'm hieuenctid; dioddefais dy ddychrynfeydd, ac yr wyf mewn dryswch.
16עלי עברו חרוניך בעותיך צמתותני׃
16 Aeth dy ddigofaint drosof, ac y mae dy ymosodiadau yn fy nifetha.
17סבוני כמים כל היום הקיפו עלי יחד׃
17 Y maent yn f'amgylchu fel llif trwy'r dydd, ac yn cau'n gyfan gwbl amdanaf.
18הרחקת ממני אהב ורע מידעי מחשך׃
18 Gwnaethost i g�r a chyfaill bellhau oddi wrthyf, a thywyllwch yw fy nghydnabod.