1משכיל לאיתן האזרחי חסדי יהוה עולם אשירה לדר ודר אודיע אמונתך בפי׃
1 1 Masc�l. I Ethan yr Esrahead.0 Canaf byth am dy gariad, O ARGLWYDD, ac �'m genau mynegaf dy ffyddlondeb dros y cenedlaethau;
2כי אמרתי עולם חסד יבנה שמים תכן אמונתך בהם׃
2 oherwydd y mae dy gariad wedi ei sefydlu dros byth, a'th ffyddlondeb mor sicr �'r nefoedd.
3כרתי ברית לבחירי נשבעתי לדוד עבדי׃
3 Dywedaist, "Gwneuthum gyfamod �'m hetholedig, a thyngu wrth Ddafydd fy ngwas,
4עד עולם אכין זרעך ובניתי לדר ודור כסאך סלה׃
4 'Gwnaf dy had yn sefydlog am byth, a sicrhau dy orsedd dros y cenedlaethau.'" Sela.
5ויודו שמים פלאך יהוה אף אמונתך בקהל קדשים׃
5 Bydded i'r nefoedd foliannu dy ryfeddodau, O ARGLWYDD, a'th ffyddlondeb yng nghynulliad y rhai sanctaidd.
6כי מי בשחק יערך ליהוה ידמה ליהוה בבני אלים׃
6 Oherwydd pwy yn y nefoedd a gymherir �'r ARGLWYDD? Pwy ymysg y duwiau sy'n debyg i'r ARGLWYDD,
7אל נערץ בסוד קדשים רבה ונורא על כל סביביו׃
7 yn Dduw a ofnir yng nghyngor y rhai sanctaidd, yn fawr ac ofnadwy goruwch pawb o'i amgylch?
8יהוה אלהי צבאות מי כמוך חסין יה ואמונתך סביבותיך׃
8 O ARGLWYDD Dduw y lluoedd, pwy sydd nerthol fel tydi, O ARGLWYDD, gyda'th ffyddlondeb o'th amgylch?
9אתה מושל בגאות הים בשוא גליו אתה תשבחם׃
9 Ti sy'n llywodraethu ymchwydd y m�r; pan gyfyd ei donnau, yr wyt ti'n eu gostegu.
10אתה דכאת כחלל רהב בזרוע עזך פזרת אויביך׃
10 Ti a ddrylliodd Rahab yn gelain; gwasgeraist dy elynion � nerth dy fraich.
11לך שמים אף לך ארץ תבל ומלאה אתה יסדתם׃
11 Eiddot ti yw'r nefoedd, a'r ddaear hefyd; ti a seiliodd y byd a'r cyfan sydd ynddo.
12צפון וימין אתה בראתם תבור וחרמון בשמך ירננו׃
12 Ti a greodd ogledd a de; y mae Tabor a Hermon yn moliannu dy enw.
13לך זרוע עם גבורה תעז ידך תרום ימינך׃
13 Y mae gennyt ti fraich nerthol; y mae dy law yn gref, dy ddeheulaw wedi ei chodi.
14צדק ומשפט מכון כסאך חסד ואמת יקדמו פניך׃
14 Cyfiawnder a barn yw sylfaen dy orsedd; y mae cariad a gwirionedd yn mynd o'th flaen.
15אשרי העם יודעי תרועה יהוה באור פניך יהלכון׃
15 Gwyn eu byd y bobl sydd wedi dysgu dy glodfori, sy'n rhodio, ARGLWYDD, yng ngoleuni dy wyneb,
16בשמך יגילון כל היום ובצדקתך ירומו׃
16 sy'n gorfoleddu bob amser yn dy enw, ac yn llawenhau yn dy gyfiawnder.
17כי תפארת עזמו אתה וברצנך תרים קרננו׃
17 Oherwydd ti yw gogoniant eu nerth, a thrwy dy ffafr di y dyrchefir ein corn.
18כי ליהוה מגננו ולקדוש ישראל מלכנו׃
18 Oherwydd y mae ein tarian yn eiddo i'r ARGLWYDD, a'n brenin i Sanct Israel.
19אז דברת בחזון לחסידיך ותאמר שויתי עזר על גבור הרימותי בחור מעם׃
19 Gynt lleferaist mewn gweledigaeth wrth dy ffyddloniaid a dweud, "Gosodais goron ar un grymus, a dyrchafu un a ddewiswyd o blith y bobl.
20מצאתי דוד עבדי בשמן קדשי משחתיו׃
20 Cefais Ddafydd, fy ngwas, a'i eneinio �'m holew sanctaidd;
21אשר ידי תכון עמו אף זרועי תאמצנו׃
21 bydd fy llaw yn gadarn gydag ef, a'm braich yn ei gryfhau.
22לא ישא אויב בו ובן עולה לא יעננו׃
22 Ni fydd gelyn yn drech nag ef, na'r drygionus yn ei ddarostwng.
23וכתותי מפניו צריו ומשנאיו אגוף׃
23 Drylliaf ei elynion o'i flaen, a thrawaf y rhai sy'n ei gas�u.
24ואמונתי וחסדי עמו ובשמי תרום קרנו׃
24 Bydd fy ffyddlondeb a'm cariad gydag ef, ac yn fy enw i y dyrchefir ei gorn.
25ושמתי בים ידו ובנהרות ימינו׃
25 Gosodaf ei law ar y m�r, a'i ddeheulaw ar yr afonydd.
26הוא יקראני אבי אתה אלי וצור ישועתי׃
26 Bydd yntau'n galw arnaf, 'Fy nhad wyt ti, fy Nuw a chraig fy iachawdwriaeth.'
27אף אני בכור אתנהו עליון למלכי ארץ׃
27 A gwnaf finnau ef yn gyntafanedig, yn uchaf o frenhinoedd y ddaear.
28לעולם אשמור לו חסדי ובריתי נאמנת לו׃
28 Cadwaf fy ffyddlondeb iddo hyd byth, a bydd fy nghyfamod ag ef yn sefydlog.
29ושמתי לעד זרעו וכסאו כימי שמים׃
29 Rhof iddo linach am byth, a'i orsedd fel dyddiau'r nefoedd.
30אם יעזבו בניו תורתי ובמשפטי לא ילכון׃
30 Os bydd ei feibion yn gadael fy nghyfraith, a heb rodio yn fy marnau,
31אם חקתי יחללו ומצותי לא ישמרו׃
31 os byddant yn torri fy ordeiniadau, a heb gadw fy ngorchmynion,
32ופקדתי בשבט פשעם ובנגעים עונם׃
32 fe gosbaf eu pechodau � gwialen, a'u camweddau � fflangellau;
33וחסדי לא אפיר מעמו ולא אשקר באמונתי׃
33 ond ni throf fy nghariad oddi wrtho, na phallu yn fy ffyddlondeb.
34לא אחלל בריתי ומוצא שפתי לא אשנה׃
34 Ni thorraf fy nghyfamod, na newid gair a aeth o'm genau.
35אחת נשבעתי בקדשי אם לדוד אכזב׃
35 Unwaith am byth y tyngais i'm sancteiddrwydd, ac ni fyddaf yn twyllo Dafydd.
36זרעו לעולם יהיה וכסאו כשמש נגדי׃
36 Fe barha ei linach am byth, a'i orsedd cyhyd �'r haul o'm blaen.
37כירח יכון עולם ועד בשחק נאמן סלה׃
37 Bydd wedi ei sefydlu am byth fel y lleuad, yn dyst ffyddlon yn y nef." Sela.
38ואתה זנחת ותמאס התעברת עם משיחך׃
38 Ond eto yr wyt wedi gwrthod, a throi heibio, a digio wrth dy eneiniog.
39נארתה ברית עבדך חללת לארץ נזרו׃
39 Yr wyt wedi dileu'r cyfamod �'th was, wedi halogi ei goron a'i thaflu i'r llawr.
40פרצת כל גדרתיו שמת מבצריו מחתה׃
40 Yr wyt wedi dryllio ei holl furiau, a gwneud ei geyrydd yn adfeilion.
41שסהו כל עברי דרך היה חרפה לשכניו׃
41 Y mae pawb sy'n mynd heibio yn ei ysbeilio; aeth yn warth i'w gymdogion.
42הרימות ימין צריו השמחת כל אויביו׃
42 Dyrchefaist ddeheulaw ei wrthwynebwyr, a gwneud i'w holl elynion lawenhau.
43אף תשיב צור חרבו ולא הקימתו במלחמה׃
43 Yn wir, troist yn �l fin ei gleddyf, a pheidio �'i gynnal yn y frwydr.
44השבת מטהרו וכסאו לארץ מגרתה׃
44 Drylliaist ei deyrnwialen o'i law, a bwrw ei orsedd i'r llawr.
45הקצרת ימי עלומיו העטית עליו בושה סלה׃
45 Yr wyt wedi byrhau dyddiau ei ieuenctid, ac wedi ei orchuddio � chywilydd. Sela.
46עד מה יהוה תסתר לנצח תבער כמו אש חמתך׃
46 Am ba hyd, ARGLWYDD? A fyddi'n ymguddio am byth, a'th eiddigedd yn llosgi fel t�n?
47זכר אני מה חלד על מה שוא בראת כל בני אדם׃
47 Cofia mor feidrol ydwyf fi; ai yn ofer y creaist yr holl bobloedd?
48מי גבר יחיה ולא יראה מות ימלט נפשו מיד שאול סלה׃
48 Pwy fydd byw heb weld marwolaeth? Pwy a arbed ei fywyd o afael Sheol? Sela.
49איה חסדיך הראשנים אדני נשבעת לדוד באמונתך׃
49 O Arglwydd, ple mae dy gariad gynt, a dyngaist yn dy ffyddlondeb i Ddafydd?
50זכר אדני חרפת עבדיך שאתי בחיקי כל רבים עמים׃
50 Cofia, O Arglwydd, ddirmyg dy was, fel yr wyf yn cario yn fy mynwes sarhad y bobloedd,
51אשר חרפו אויביך יהוה אשר חרפו עקבות משיחך׃
51 fel y bu i'th elynion, ARGLWYDD, ddirmygu a gwawdio camre dy eneiniog.
52ברוך יהוה לעולם אמן ואמן׃
52 Bendigedig fyddo'r ARGLWYDD am byth! Amen ac Amen.