Hebrew: Modern

Welsh

Psalms

95

1לכו נרננה ליהוה נריעה לצור ישענו׃
1 Dewch, canwn yn llawen i'r ARGLWYDD, rhown floedd o orfoledd i graig ein hiachawdwriaeth.
2נקדמה פניו בתודה בזמרות נריע לו׃
2 Down i'w bresenoldeb � diolch, gorfoleddwn ynddo � chaneuon mawl.
3כי אל גדול יהוה ומלך גדול על כל אלהים׃
3 Oherwydd Duw mawr yw'r ARGLWYDD, a brenin mawr goruwch yr holl dduwiau.
4אשר בידו מחקרי ארץ ותועפות הרים לו׃
4 Yn ei law ef y mae dyfnderau'r ddaear, ac eiddo ef yw uchelderau'r mynyddoedd.
5אשר לו הים והוא עשהו ויבשת ידיו יצרו׃
5 Eiddo ef yw'r m�r, ac ef a'i gwnaeth; ei ddwylo ef a greodd y sychdir.
6באו נשתחוה ונכרעה נברכה לפני יהוה עשנו׃
6 Dewch, addolwn ac ymgrymwn, plygwn ein gliniau gerbron yr ARGLWYDD a'n gwnaeth.
7כי הוא אלהינו ואנחנו עם מרעיתו וצאן ידו היום אם בקלו תשמעו׃
7 Oherwydd ef yw ein Duw, a ninnau'n bobl iddo a defaid ei borfa; heddiw cewch wybod ei rym, os gwrandewch ar ei lais.
8אל תקשו לבבכם כמריבה כיום מסה במדבר׃
8 Peidiwch � chaledu'ch calonnau, fel yn Meriba, fel ar ddiwrnod Massa yn yr anialwch,
9אשר נסוני אבותיכם בחנוני גם ראו פעלי׃
9 pan fu i'ch hynafiaid fy herio a'm profi, er iddynt weld fy ngwaith.
10ארבעים שנה אקוט בדור ואמר עם תעי לבב הם והם לא ידעו דרכי׃
10 Am ddeugain mlynedd y ffieiddiais y genhedlaeth honno, a dweud, "Pobl �'u calonnau'n cyfeiliorni ydynt, ac nid ydynt yn gwybod fy ffyrdd."
11אשר נשבעתי באפי אם יבאון אל מנוחתי׃
11 Felly tyngais yn fy nig na chaent ddyfod i'm gorffwysfa.