1ותאמר לה נעמי חמותה בתי הלא אבקש לך מנוח אשר ייטב לך׃
1 Yna dywedodd ei mam-yng-nghyfraith Naomi wrthi, "Fy merch, oni ddylwn i chwilio am gartref iti, er dy les?
2ועתה הלא בעז מדעתנו אשר היית את נערותיו הנה הוא זרה את גרן השערים הלילה׃
2 Yn awr, onid perthynas i ni yw Boas, y buost gyda'i lancesau?
3ורחצת וסכת ושמת שמלתך עליך וירדתי הגרן אל תודעי לאיש עד כלתו לאכל ולשתות׃
3 Edrych, y mae ef yn mynd i nithio haidd yn y llawr dyrnu heno. Wedi iti ymolchi ac ymbincio a rhoi dy wisg orau amdanat, dos at y llawr dyrnu, ond paid � gadael iddo d'adnabod nes iddo orffen bwyta ac yfed.
4ויהי בשכבו וידעת את המקום אשר ישכב שם ובאת וגלית מרגלתיו ושכבתי והוא יגיד לך את אשר תעשין׃
4 Pan � i orwedd, sylwa ymhle y mae'n cysgu, yna dos a chodi'r dillad o gwmpas ei draed a gorwedd i lawr. Wedyn fe ddywed ef wrthyt beth i'w wneud."
5ותאמר אליה כל אשר תאמרי אעשה׃
5 Cytunodd hithau i wneud y cwbl a ddywedodd Naomi wrthi.
6ותרד הגרן ותעש ככל אשר צותה חמותה׃
6 Aeth at y llawr dyrnu, a gwneud yn union fel yr oedd ei mam-yng-nghyfraith wedi gorchymyn iddi.
7ויאכל בעז וישת וייטב לבו ויבא לשכב בקצה הערמה ותבא בלט ותגל מרגלתיו ותשכב׃
7 Wedi i Boas fwyta ac yfed, yr oedd yn teimlo'n hapus, ac aeth i gysgu yng nghwr y pentwr u375?d. Daeth hithau'n ddistaw a chodi'r dillad o gwmpas ei draed, a gorwedd i lawr.
8ויהי בחצי הלילה ויחרד האיש וילפת והנה אשה שכבת מרגלתיו׃
8 Tua hanner nos cyffr�dd y dyn a throi, ac yno'n gorwedd wrth ei draed yr oedd merch.
9ויאמר מי את ותאמר אנכי רות אמתך ופרשת כנפך על אמתך כי גאל אתה׃
9 "Pwy wyt ti?" gofynnodd. Atebodd hithau, "Dy forwyn Ruth; taena gwr dy fantell dros dy forwyn, oherwydd yr wyt ti'n berthynas agos."
10ויאמר ברוכה את ליהוה בתי היטבת חסדך האחרון מן הראשון לבלתי לכת אחרי הבחורים אם דל ואם עשיר׃
10 Yna dywedodd wrthi, "Bendith yr ARGLWYDD arnat, fy merch; y mae'r teyrngarwch olaf hwn gennyt yn rhagori ar y cyntaf, am iti beidio � mynd ar �l y dynion ifainc, boent dlawd neu gyfoethog.
11ועתה בתי אל תיראי כל אשר תאמרי אעשה לך כי יודע כל שער עמי כי אשת חיל את׃
11 Yn awr, fy merch, paid ag ofni; fe wnaf iti bopeth yr wyt yn ei ddweud, oherwydd y mae pawb o'm cymdogion yn gwybod dy fod yn ferch deilwng.
12ועתה כי אמנם כי אם גאל אנכי וגם יש גאל קרוב ממני׃
12 Yn awr, y mae'n hollol wir fy mod yn berthynas agos, ond y mae un arall sy'n nes na mi.
13ליני הלילה והיה בבקר אם יגאלך טוב יגאל ואם לא יחפץ לגאלך וגאלתיך אנכי חי יהוה שכבי עד הבקר׃
13 Aros yma heno; ac yfory, os bydd ef am weithredu fel perthynas, popeth yn iawn; gwnaed hynny. Ond os nad yw'n barod i wneud hynny, yna fe wnaf fi, cyn wired � bod yr ARGLWYDD yn fyw. Cwsg tan y bore."
14ותשכב מרגלתו עד הבקר ותקם בטרום יכיר איש את רעהו ויאמר אל יודע כי באה האשה הגרן׃
14 Cysgodd hithau wrth ei draed tan y bore; yna fe gododd, cyn y gallai neb adnabod ei gilydd. Yr oedd ef wedi gorchymyn nad oedd neb i wybod bod y ferch wedi dod i'r llawr dyrnu.
15ויאמר הבי המטפחת אשר עליך ואחזי בה ותאחז בה וימד שש שערים וישת עליה ויבא העיר׃
15 Ac meddai wrthi, "Estyn y fantell sydd amdanat, a dal hi." A thra oedd hi yn ei dal, mesurodd yntau iddi chwe mesur o haidd a'i osod ar ei hysgwydd, ac aeth hithau i'r dref.
16ותבוא אל חמותה ותאמר מי את בתי ותגד לה את כל אשר עשה לה האיש׃
16 Wedi iddi gyrraedd gofynnodd ei mam-yng-nghyfraith, "Sut y bu hi gyda thi, fy merch?" Adroddodd hithau wrthi'r cwbl a wnaeth y dyn iddi.
17ותאמר שש השערים האלה נתן לי כי אמר אל תבואי ריקם אל חמותך׃
17 Dywedodd, "Rhoddodd imi'r chwe mesur hyn o haidd oherwydd, meddai wrthyf, 'Ni chei fynd yn waglaw at dy fam-yng-nghyfraith'."
18ותאמר שבי בתי עד אשר תדעין איך יפל דבר כי לא ישקט האיש כי אם כלה הדבר היום׃
18 Yna dywedodd Naomi, "Aros, fy merch, nes y cei wybod sut y try pethau; oherwydd ni fydd y dyn yna'n gorffwys cyn gorffen y mater heddiw."