1ובעז עלה השער וישב שם והנה הגאל עבר אשר דבר בעז ויאמר סורה שבה פה פלני אלמני ויסר וישב׃
1 Aeth Boas i fyny i'r porth ac eistedd yno, a dyna'r perthynas yr oedd Boas wedi s�n amdano yn dod heibio. Galwodd Boas arno wrth ei enw a dweud, "Tyrd yma ac eistedd i lawr." Aeth yntau ac eistedd.
2ויקח עשרה אנשים מזקני העיר ויאמר שבו פה וישבו׃
2 Yna fe ddewisodd ddeg o henuriaid y dref a dweud, "Eisteddwch yma"; ac eisteddodd y rheini.
3ויאמר לגאל חלקת השדה אשר לאחינו לאלימלך מכרה נעמי השבה משדה מואב׃
3 Dywedodd wrth y perthynas, "Daeth Naomi yn �l o wlad Moab ac y mae am werthu'r darn tir oedd yn perthyn i'n brawd Elimelech,
4ואני אמרתי אגלה אזנך לאמר קנה נגד הישבים ונגד זקני עמי אם תגאל גאל ואם לא יגאל הגידה לי ואדע כי אין זולתך לגאול ואנכי אחריך ויאמר אנכי אגאל׃
4 a meddyliais y byddwn yn gadael i ti wybod; felly pryn ef yng ngu373?ydd henuriaid fy mhobl, sy'n eistedd yma. Os wyt ti am ei brynu'n �l, gwna hynny; ond os nad wyt am ei brynu, dywed wrthyf, imi gael gwybod; oherwydd gennyt ti y mae'r hawl i'w brynu, a chennyf finnau wedyn." Dywedodd yntau, "Fe'i prynaf."
5ויאמר בעז ביום קנותך השדה מיד נעמי ומאת רות המואביה אשת המת קניתי להקים שם המת על נחלתו׃
5 Yna meddai Boas, "Y diwrnod y pryni di'r tir gan Naomi, yr wyt hefyd yn cymryd Ruth y Foabes, gwraig gu373?r a fu farw, i gadw enw'r marw ar ei etifeddiaeth."
6ויאמר הגאל לא אוכל לגאול לי פן אשחית את נחלתי גאל לך אתה את גאלתי כי לא אוכל לגאל׃
6 Atebodd y perthynas, "Ni fedraf ei brynu heb ddifetha f'etifeddiaeth fy hun. Pryn di ef, oherwydd ni allaf fi."
7וזאת לפנים בישראל על הגאולה ועל התמורה לקים כל דבר שלף איש נעלו ונתן לרעהו וזאת התעודה בישראל׃
7 Erstalwm dyma fyddai'r arfer yn Israel wrth brynu'n �l a throsglwyddo eiddo: er mwyn cadarnhau unrhyw gytundeb byddai'r naill yn tynnu ei esgid ac yn ei rhoi i'r llall. Dyna oedd dull ardystio yn Israel.
8ויאמר הגאל לבעז קנה לך וישלף נעלו׃
8 Felly, pan ddywedodd y perthynas wrth Boas, "Pryn ef i ti dy hun", fe dynnodd ei esgid.
9ויאמר בעז לזקנים וכל העם עדים אתם היום כי קניתי את כל אשר לאלימלך ואת כל אשר לכליון ומחלון מיד נעמי׃
9 A dywedodd Boas wrth yr henuriaid a'r bobl i gyd, "Yr ydych chwi yn dystion fy mod i heddiw wedi prynu holl eiddo Elimelech a holl eiddo Chilion a Mahlon o law Naomi.
10וגם את רות המאביה אשת מחלון קניתי לי לאשה להקים שם המת על נחלתו ולא יכרת שם המת מעם אחיו ומשער מקומו עדים אתם היום׃
10 Yr wyf hefyd wedi prynu Ruth y Foabes, gweddw Mahlon, yn wraig imi i gadw enw'r marw ar ei etifeddiaeth, rhag i'w enw gael ei ddiddymu o fysg ei dylwyth ac o'i fro. Yr ydych chwi heddiw yn dystion o hyn."
11ויאמרו כל העם אשר בשער והזקנים עדים יתן יהוה את האשה הבאה אל ביתך כרחל וכלאה אשר בנו שתיהם את בית ישראל ועשה חיל באפרתה וקרא שם בבית לחם׃
11 Dywedodd pawb oedd yn y porth, a'r henuriaid hefyd, "Yr ydym yn dystion; bydded i'r ARGLWYDD beri i'r wraig sy'n dod i'th du375? fod fel Rachel a Lea, y ddwy a gododd du375? Israel; bydded iti lwyddo yn Effrata, ac ennill enw ym Methlehem.
12ויהי ביתך כבית פרץ אשר ילדה תמר ליהודה מן הזרע אשר יתן יהוה לך מן הנערה הזאת׃
12 Trwy'r plant y bydd yr ARGLWYDD yn eu rhoi i ti o'r eneth hon, bydded dy deulu fel teulu Peres a ddygodd Tamar i Jwda."
13ויקח בעז את רות ותהי לו לאשה ויבא אליה ויתן יהוה לה הריון ותלד בן׃
13 Wedi i Boas gymryd Ruth yn wraig iddo, aeth i mewn ati a pharodd yr ARGLWYDD iddi feichiogi, ac esgorodd ar fab.
14ותאמרנה הנשים אל נעמי ברוך יהוה אשר לא השבית לך גאל היום ויקרא שמו בישראל׃
14 Ac meddai'r gwragedd wrth Naomi, "Bendigedig fyddo'r ARGLWYDD am iddo beidio �'th adael heddiw heb berthynas; bydded ef yn enwog yn Israel.
15והיה לך למשיב נפש ולכלכל את שיבתך כי כלתך אשר אהבתך ילדתו אשר היא טובה לך משבעה בנים׃
15 Bydd ef yn adnewyddu dy fywyd ac yn dy gynnal yn dy henaint, oherwydd dy ferch-yng-nghyfraith, sy'n dy garu, yw ei fam; ac y mae hi'n well na saith o feibion i ti."
16ותקח נעמי את הילד ותשתהו בחיקה ותהי לו לאמנת׃
16 Cymerodd Naomi y bachgen a'i ddodi yn ei ch�l a'i fagu.
17ותקראנה לו השכנות שם לאמר ילד בן לנעמי ותקראנה שמו עובד הוא אבי ישי אבי דוד׃
17 Rhoddodd y cymdogesau enw iddo a dweud, "Ganwyd mab i Naomi." Galwasant ef Obed; ef oedd tad Jesse, tad Dafydd.
18ואלה תולדות פרץ פרץ הוליד את חצרון׃
18 Dyma achau Peres: Peres oedd tad Hesron,
19וחצרון הוליד את רם ורם הוליד את עמינדב׃
19 Hesron oedd tad Ram, Ram oedd tad Amminadab,
20ועמינדב הוליד את נחשון ונחשון הוליד את שלמה׃
20 Amminadab oedd tad Nahson, Nahson oedd tad Salmon,
21ושלמון הוליד את בעז ובעז הוליד את עובד׃
21 Salmon oedd tad Boas, Boas oedd tad Obed,
22ועבד הוליד את ישי וישי הוליד את דוד׃
22 Obed oedd tad Jesse, a Jesse oedd tad Dafydd.