1 Fel hyn y dangosodd yr Arglwydd DDUW i mi: dyma fasgedaid o ffrwythau haf,
2 a gofynnodd ef, "Beth a weli, Amos?" Atebais innau, "Basgedaid o ffrwythau haf." Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, "Daeth y diwedd ar fy mhobl Israel; nid af heibio iddynt byth eto.
3 Bydd cantorion y deml yn galarnadu yn y dydd hwnnw," medd yr Arglwydd DDUW, "bod y cyrff mor niferus fel y teflir hwy'n ddi-s�n ym mhob man."
4 Gwrandewch hyn, chwi sy'n sathru'r anghenus ac yn difa tlodion y wlad,
5 ac yn dweud, "Pa bryd y mae'r newydd-loer yn diweddu, inni gael gwerthu u375?d; a'r saboth, inni roi'r grawn ar werth, inni leihau'r effa a thrymhau'r sicl, inni gael twyllo � chloriannau anghywir,
6 inni gael prynu'r tlawd am arian a'r anghenus am b�r o sandalau, a gwerthu ysgubion yr u375?d?"
7 Tyngodd yr ARGLWYDD i falchder Jacob, "Ni allaf fyth anghofio'u gweithredoedd.
8 Onid am hyn y cryna'r ddaear nes y galara'i holl drigolion, ac y cwyd i gyd fel y Neil, a dygyfor a gostwng fel afon yr Aifft?"
9 "Y dydd hwnnw," medd yr Arglwydd DDUW, "gwnaf i'r haul fachlud am hanner dydd, a thywyllaf y ddaear gefn dydd golau.
10 Trof eich gwyliau yn alaru a'ch holl ganiadau yn wylofain; rhof sachliain am eich llwynau a moelni ar eich pennau. Fe'i gwnaf yn debyg i alar am unig fab; bydd ei ddiwedd yn ddiwrnod chwerw.
11 "Wele'r dyddiau yn dod," medd yr Arglwydd DDUW, "pan anfonaf newyn i'r wlad; nid newyn am fara, na syched am ddu373?r, ond am glywed geiriau'r ARGLWYDD.
12 Crwydrant o f�r i f�r ac o'r gogledd i'r dwyrain; �nt yn �l ac ymlaen i geisio gair yr ARGLWYDD, ond heb ei gael.
13 "Yn y dydd hwnnw, bydd gwyryfon teg a gwu375?r ifainc yn llewygu o syched.
14 Y rhai sy'n tyngu i Asima Samaria, ac yn dweud, 'Cyn wired � bod dy dduw yn fyw, Dan', neu, 'Cyn wired � bod dy dduw yn fyw, Beerseba' � fe syrthiant oll heb godi byth mwy."