Kabyle: New Testament

Welsh

Amos

9

1 Gwelais yr ARGLWYDD yn sefyll gerllaw'r allor, ac yn dweud, "Taro gapan y drws nes i'r rhiniogau ysgwyd, a maluria hwy ar eu pennau i gyd; y rhai a adewir, fe'u lladdaf �'r cleddyf; ni ffy yr un ohonynt ymaith, ni ddianc yr un ohonynt.
2 Pe baent yn cloddio hyd at Sheol, fe dynnai fy llaw hwy oddi yno; pe baent yn dringo i'r nefoedd, fe'u dygwn i lawr oddi yno.
3 Pe baent yn ymguddio ar ben Carmel, fe chwiliwn amdanynt, a'u cymryd oddi yno; pe baent yn cuddio o'm golwg yng ngwaelod y m�r, byddwn yn gorchymyn i'r ddraig eu brathu yno.
4 Pe bai eu gelynion yn eu dwyn ymaith i gaethglud, fe rown orchymyn i'm cleddyf eu lladd yno; cadwaf fy ngolwg arnynt, er drwg ac nid er da."
5 Yr Arglwydd, DUW y Lluoedd � ef sy'n cyffwrdd �'r ddaear, a hithau'n toddi, a'i holl drigolion yn galaru; bydd i gyd yn dygyfor fel y Neil, ac yn gostwng fel afon yr Aifft;
6 ef sy'n codi ei breswylfeydd yn y nefoedd ac yn sylfaenu ei gromen ar y ddaear; ef sy'n galw ar ddyfroedd y m�r ac yn eu tywallt dros y tir; yr ARGLWYDD yw ei enw.
7 "Onid ydych chwi fel pobl Ethiopia i mi, O bobl Israel?" medd yr ARGLWYDD. "Oni ddygais Israel i fyny o'r Aifft, a'r Philistiaid o Cafftor a'r Syriaid o Cir?
8 Wele, y mae llygaid yr Arglwydd DDUW ar y deyrnas bechadurus; fe'i dinistriaf oddi ar wyneb y ddaear; eto ni ddinistriaf du375? Jacob yn llwyr," medd yr ARGLWYDD.
9 "Wele, yr wyf yn gorchymyn, ac ysgydwaf du375? Israel ymhlith yr holl genhedloedd fel ysgwyd gogr, heb i'r un gronyn syrthio i'r ddaear.
10 Lleddir holl bechaduriaid fy mhobl �'r cleddyf, y rhai sy'n dweud, 'Ni chyffwrdd dinistr � ni, na dod yn agos atom.'
11 "Yn y dydd hwnnw, codaf furddun dadfeiliedig Dafydd; trwsiaf ei fylchau a chodaf ei adfeilion, a'i ailadeiladu fel yn y dyddiau gynt,
12 fel y gallant goncro gweddill Edom a'r holl genhedloedd y galwyd fy enw arnynt," medd yr ARGLWYDD. Ef a wna hyn.
13 "Wele'r dyddiau yn dod," medd yr ARGLWYDD, "pan fydd yr un sy'n aredig yn goddiweddyd y sawl sy'n medi, a'r sawl sy'n sathru'r grawnwin yn goddiweddyd y sawl sy'n hau'r had; bydd y mynyddoedd yn diferu gwin newydd, a phob bryn yn llifo ohono.
14 Adferaf lwyddiant fy mhobl Israel, ac adeiladant y dinasoedd adfeiliedig, a byw ynddynt; plannant winllannoedd ac yfed eu gwin, palant erddi a bwyta'u cynnyrch.
15 Fe'u plannaf yn eu gwlad, ac ni ddiwreiddir hwy byth eto o'r tir a rois iddynt," medd yr ARGLWYDD dy Dduw.