Kabyle: New Testament

Welsh

Joel

1

1 Gair yr ARGLWYDD, a ddaeth at Joel fab Pethuel.
2 Clywch hyn, henuriaid, gwrandewch, holl drigolion y wlad. A ddigwyddodd peth fel hyn yn eich dyddiau chwi, neu yn nyddiau eich hynafiaid?
3 Dywedwch am hyn wrth eich plant, a dyweded eich plant wrth eu plant, a'u plant hwythau wrth y genhedlaeth nesaf.
4 Yr hyn a adawodd y cyw locust, fe'i bwytaodd y locust sydd ar ei dyfiant; yr hyn a adawodd y locust ar ei dyfiant, fe'i bwytaodd y locust mawr; a'r hyn a adawodd y locust mawr, fe'i bwytaodd y locust difaol.
5 Deffrowch feddwon, ac wylwch; galarwch, bob yfwr gwin, am y gwin newydd a dorrwyd ymaith o'ch genau.
6 Oherwydd daeth cenedl i oresgyn fy nhir, a honno'n un gref a dirifedi; dannedd llew yw ei dannedd, ac y mae ganddi gilddannedd llewes.
7 Maluriodd fy ngwinwydd, a darnio fy nghoed ffigys; rhwygodd ymaith y rhisgl yn llwyr, ac aeth y cangau'n wynion.
8 Galara di fel gwyryf yn gwisgo sachliain am ddyweddi ei hieuenctid.
9 Pallodd y bwydoffrwm a'r diodoffrwm yn nhu375?'r ARGLWYDD; y mae'r offeiriaid, gweinidogion yr ARGLWYDD, yn galaru.
10 Anrheithiwyd y tir, y mae'r ddaear yn galaru, oherwydd i'r grawn gael ei ddifa, ac i'r gwin ballu, ac i'r olew sychu.
11 Safwch mewn braw, amaethwyr, galarwch, winwyddwyr, am y gwenith a'r haidd; oherwydd difawyd cynhaeaf y maes.
12 Gwywodd y winwydden, a deifiwyd y ffigysbren. Y prennau pomgranad, y palmwydd a'r coed afalau � y mae holl brennau'r maes wedi gwywo. A diflannodd llawenydd o blith y bobl.
13 Gwisgwch sachliain a galaru, offeiriaid, codwch gwynfan, weinidogion yr allor. Ewch i dreulio'r nos mewn sachliain, weinidogion fy Nuw, oherwydd i'r bwydoffrwm a'r diodoffrwm gael eu hatal o du375? eich Duw.
14 Cyhoeddwch ympryd, galwch gynulliad. Chwi henuriaid, cynullwch holl drigolion y wlad i du375?'r ARGLWYDD eich Duw, a llefwch ar yr ARGLWYDD.
15 Och y fath ddiwrnod! Oherwydd y mae dydd yr ARGLWYDD yn agos; daw fel dinistr oddi wrth yr Hollalluog.
16 Oni ddiflannodd y bwyd o flaen ein llygaid, a dedwyddwch a llawenydd o du375? ein Duw?
17 Y mae'r had yn crebachu o dan y tywyrch, yr ysgubor wedi ei chwalu a'r granar yn adfeilion, am i'r grawn fethu.
18 Y fath alar gan yr anifeiliaid! Y mae'r gyrroedd gwartheg mewn dryswch am eu bod heb borfa; ac y mae'r diadelloedd defaid yn darfod.
19 Arnat ti, ARGLWYDD, yr wyf yn llefain, oherwydd difaodd t�n borfeydd yr anialwch, a llosgodd fflam holl goed y maes.
20 Y mae'r anifeiliaid gwylltion yn llefain arnat, oherwydd sychodd y nentydd a difaodd t�n borfeydd yr anialwch.