1 Canwch utgorn yn Seion, bloeddiwch ar fy mynydd sanctaidd. Cryned holl drigolion y wlad am fod dydd yr ARGLWYDD yn dyfod; y mae yn agos �
2 dydd o dywyllwch ac o gaddug, dydd o gymylau ac o dd�wch. Fel cysgod yn ymdaenu dros y mynyddoedd, wele luoedd mawr a chryf; ni fu eu bath erioed, ac ni fydd ar eu h�l ychwaith am genedlaethau dirifedi.
3 Ysa t�n o'u blaen a llysg fflam ar eu h�l. Y mae'r wlad o'u blaen fel gardd Eden, ond ar eu h�l yn anialwch diffaith, ac ni ddianc dim rhagddo.
4 Y maent yn ymddangos fel ceffylau, ac yn carlamu fel meirch rhyfel.
5 Fel torf o gerbydau neidiant ar bennau'r mynyddoedd; fel su373?n fflamau t�n yn ysu sofl, fel byddin gref yn barod i ryfel.
6 Arswyda'r cenhedloedd rhagddynt, a gwelwa pob wyneb.
7 Rhuthrant fel milwyr, dringant y mur fel rhyfelwyr; cerdda pob un yn ei flaen heb wyro o'i reng.
8 Ni wthiant ar draws ei gilydd, dilyn pob un ei lwybr ei hun; er y saethau, ymosodant ac ni ellir eu hatal.
9 Rhuthrant yn erbyn y ddinas, rhedant dros ei muriau, dringant i fyny i'r tai, �nt i mewn trwy'r ffenestri fel lladron.
10 Ysgwyd y ddaear o'u blaen a chryna'r nefoedd. Bydd yr haul a'r lleuad yn tywyllu a'r s�r yn atal eu goleuni.
11 Cwyd yr ARGLWYDD ei lef ar flaen ei fyddin; y mae ei lu yn fawr iawn, a'r un sy'n cyflawni ei air yn gryf. Oherwydd mawr yw dydd yr ARGLWYDD, ac ofnadwy, a phwy a'i deil?
12 "Yn awr," medd yr ARGLWYDD, "dychwelwch ataf �'ch holl galon, ag ympryd, wylofain a galar.
13 Rhwygwch eich calon, nid eich dillad, a dychwelwch at yr ARGLWYDD eich Duw." Graslon a thrugarog yw ef, araf i ddigio, a mawr ei ffyddlondeb, ac yn edifar ganddo wneud niwed.
14 Pwy a u373?yr na thry a thosturio, a gadael bendith ar ei �l � bwydoffrwm a diodoffrwm i'r ARGLWYDD eich Duw?
15 Canwch utgorn yn Seion, cyhoeddwch ympryd, galwch gymanfa,
16 cynullwch y bobl. Neilltuwch y gynulleidfa, cynullwch yr henuriaid, casglwch y plant, hyd yn oed y babanod. Doed y priodfab o'i ystafell a'r briodferch o'i siambr.
17 Rhwng y porth a'r allor wyled yr offeiriaid, gweinidogion yr ARGLWYDD, a dweud, "Arbed dy bobl, O ARGLWYDD. Paid � gwneud dy etifeddiaeth yn warth ac yn gyff gwawd ymysg y cenhedloedd. Pam y dywedir ymysg y bobloedd, 'Ple mae eu Duw?'"
18 Yna aeth yr ARGLWYDD yn eiddigeddus dros ei dir, a thrugarhau wrth ei bobl.
19 Atebodd yr ARGLWYDD a dweud wrth ei bobl, "Yr wyf yn anfon i chwi rawn a gwin ac olew nes eich digoni; ac ni wnaf chwi eto'n warth ymysg y cenhedloedd.
20 Symudaf y gelyn o'r gogledd ymhell oddi wrthych, a'i yrru i dir sych a diffaith, �'i reng flaen at f�r y dwyrain a'i reng �l at f�r y gorllewin; bydd ei arogl drwg a'i ddrewdod yn codi, am iddo ymorchestu."
21 Paid ag ofni, ddaear; bydd lawen a gorfoledda, oherwydd fe wnaeth yr ARGLWYDD bethau mawrion.
22 Peidiwch ag ofni, anifeiliaid gwylltion, oherwydd bydd porfeydd yr anialwch yn wyrddlas; bydd y coed yn dwyn ffrwyth, a'r coed ffigys a'r gwinwydd yn rhoi eu cnwd yn helaeth.
23 Blant Seion, byddwch lawen, gorfoleddwch yn yr ARGLWYDD eich Duw; oherwydd rhydd ef ichwi law cynnar digonol; fe dywallt y glawogydd ichwi, y rhai cynnar a'r rhai diweddar fel o'r blaen.
24 Bydd y llawr dyrnu yn llawn o u375?d a'r cafnau yn orlawn o win ac olew.
25 "Ad-dalaf ichwi am y blynyddoedd a ddifaodd y locust ar ei dyfiant a'r locust mawr, y locust difaol a'r cyw locust, fy llu mawr, a anfonais i'ch mysg.
26 "Fe fwytewch yn helaeth, nes eich digoni, a moliannu enw'r ARGLWYDD eich Duw, a wnaeth ryfeddod � chwi. Ni wneir fy mhobl yn waradwydd mwyach.
27 Cewch wybod fy mod i yng nghanol Israel, ac mai myfi, yr ARGLWYDD, yw eich Duw, ac nid neb arall. Ni wneir fy mhobl yn waradwydd mwyach.
28 "Ar �l hyn tywalltaf fy ysbryd ar bawb; bydd eich meibion a'ch merched yn proffwydo, bydd eich hynafgwyr yn gweld breuddwydion, a'ch gwu375?r ifainc yn cael gweledigaethau.
29 Hyd yn oed ar y gweision a'r morynion fe dywalltaf fy ysbryd yn y dyddiau hynny.
30 "Rhof argoelion yn y nefoedd ac ar y ddaear, gwaed a th�n a cholofnau mwg.
31 Troir yr haul yn dywyllwch a'r lleuad yn waed cyn i ddydd mawr ac ofnadwy yr ARGLWYDD ddod.
32 A bydd pob un sy'n galw ar enw'r ARGLWYDD yn cael ei achub, oherwydd ar Fynydd Seion ac yn Jerwsalem bydd rhai dihangol, fel y dywedodd yr ARGLWYDD, ac ymysg y gwaredigion rai a elwir gan yr ARGLWYDD.