Kabyle: New Testament

Welsh

Micah

1

1 Gair yr ARGLWYDD a ddaeth at Micha o Moreseth yn nyddiau Jotham, Ahas a Heseceia, brenhinoedd Jwda. Dyma'i weledigaethau am Samaria a Jerwsalem.
2 Gwrandewch, bobloedd, bawb ohonoch; clyw dithau, ddaear, a phopeth ynddi. Y mae'r Arglwydd DDUW, yr Arglwydd o'i deml sanctaidd, yn dyst yn eich erbyn.
3 Wele'r ARGLWYDD yn dod allan o'i drigfan, yn dod i lawr ac yn troedio ar uchelderau'r ddaear.
4 Y mae'r mynyddoedd yn toddi dano, a'r dyffrynnoedd yn hollti'n agored, fel cwyr o flaen t�n, fel dyfroedd wedi eu tywallt ar oriwaered.
5 Am drosedd Jacob y mae hyn oll, ac am bechod tu375? Israel. Beth yw trosedd Jacob? Onid Samaria? Beth yw pechod tu375? Jwda? Onid Jerwsalem?
6 "Am hynny, gwnaf Samaria yn garnedd ar faes agored, yn lle i blannu gwinwydd; gwnaf i'w cherrig dreiglo i'r dyffryn, a dinoethaf ei sylfeini.
7 Malurir ei holl gerfddelwau, llosgir ei holl enillion yn y t�n, a gwnaf ddifrod o'i delwau; o enillion puteindra y casglodd hwy, ac yn d�l puteindra y dychwelant."
8 Am hyn y galaraf ac yr wylaf, a mynd yn noeth a heb esgidiau; galarnadaf fel y siacal, a llefain fel tylluanod yr anialwch,
9 am nad oes meddyginiaeth i'w chlwyf; oherwydd daeth hyd at Jwda, a chyrraedd at borth fy mhobl, hyd at Jerwsalem.
10 Peidiwch � chyhoeddi'r peth yn Gath, a pheidiwch ag wylo yn Baca; yn Beth-affra ymdreiglwch yn y llwch.
11 Ewch ymlaen, drigolion Saffir; onid mewn noethni a chywilydd yr � trigolion Saanan allan? Galar sydd yn Beth-esel, a pheidiodd � bod yn gynhaliaeth i chwi.
12 Mewn gwewyr am newydd da y mae trigolion Maroth, oherwydd i ddrygioni oddi wrth yr ARGLWYDD ddod hyd at borth Jerwsalem.
13 Harneisiwch y meirch wrth y cerbydau, drigolion Lachis; chwi oedd cychwyn pechod i ferch Seion, ac ynoch chwi y caed troseddau Israel.
14 Felly, rhodder anrheg ymadael i Moreseth-gath; y mae Beth-achsib yn dwyllodrus i frenhinoedd Israel.
15 Dygaf eto yr anrheithiwr at bobl Maresa, a bydd gogoniant Israel yn mynd i Adulam.
16 Eillia dy ben a gwna dy hun yn foel, am y plant a hoffaist; gwna dy hun yn foel fel eryr, am iddynt fynd oddi wrthyt i gaethglud.