1 Gwae'r rhai sy'n dyfeisio niwed, ac yn llunio drygioni yn eu gwelyau, ac ar doriad dydd yn ei wneud, cyn gynted ag y bydd o fewn eu gallu.
2 Y maent yn chwenychu meysydd ac yn eu cipio, a thai, ac yn eu meddiannu; y maent yn treisio perchennog a'i du375?, dyn a'i etifeddiaeth.
3 Felly, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Wele fi'n dyfeisio yn erbyn y tylwyth hwn y fath ddrwg na all eich gwarrau ei osgoi; ni fyddwch yn cerdded yn dorsyth, oherwydd bydd yn amser drwg.
4 Yn y dydd hwnnw, gwneir dychan ohonoch, a chenir galargan chwerw a dweud, 'Yr ydym wedi'n difa'n llwyr; y mae cyfran fy mhobl yn newid dwylo. Sut y gall neb adfer i mi ein meysydd sydd wedi eu rhannu?'"
5 Am hyn, ni bydd neb i fesur i ti trwy fwrw coelbren yng nghynulleidfa'r ARGLWYDD.
6 Fel hyn y proffwydant: "Peidiwch � phroffwydo; peidied neb � phroffwydo am hyn; ni ddaw cywilydd arnom.
7 A ddywedir hyn am du375? Jacob? A yw'r ARGLWYDD yn ddiamynedd? Ai ei waith ef yw hyn? Onid yw fy ngeiriau'n gwneud daioni i'r sawl sy'n cerdded yn uniawn?
8 "Ond yr ydych chwi'n codi yn erbyn fy mhobl fel gelyn yn cipio ymaith fantell yr heddychol, ac yn dwyn dinistr rhyfel ar y rhai sy'n rhodio'n ddiofal.
9 Yr ydych yn troi gwragedd fy mhobl o'u tai dymunol, ac yn dwyn eu llety oddi ar eu plant am byth.
10 Codwch! Ewch! Nid oes yma orffwysfa i chwi, oherwydd yr aflendid sy'n dinistrio � dinistr creulon.
11 Pe byddai rhywun mewn ysbryd twyll a chelwydd yn dweud, 'Proffwydaf i chwi am win a diod gadarn', c�i fod yn broffwyd i'r bobl hyn."
12 "Yn wir, fe gasglaf y cyfan ohonot, Jacob, a chynullaf ynghyd weddill Israel; gosodaf hwy gyda'i gilydd, fel defaid Bosra, fel diadell yn ei phorfa yn tyrru o Edom.
13 Fe �'r un a agorodd y bwlch i fyny o'u blaen; torrant hwythau trwy'r porth a rhuthro allan. � eu brenin o'u blaenau, a bydd yr ARGLWYDD yn eu harwain."