Kabyle: New Testament

Welsh

Micah

3

1 Yna dywedais, "Clywch, benaethiaid Jacob, arweinwyr tu375? Israel! Oni ddylech chwi wybod beth sy'n iawn?
2 Yr ydych yn cas�u daioni ac yn caru drygioni, yn rhwygo'u croen oddi ar fy mhobl, a'u cnawd oddi ar eu hesgyrn;
3 yr ydych yn bwyta'u cnawd, yn blingo'u croen oddi amdanynt, yn dryllio'u hesgyrn, yn eu malu fel cnawd i badell ac fel cig i grochan.
4 Yna fe waeddant ar yr ARGLWYDD, ond ni fydd yn eu hateb; bydd yn cuddio'i wyneb oddi wrthynt yr amser hwnnw, am fod eu gweithredoedd mor ddrygionus."
5 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am y proffwydi sy'n arwain fy mhobl ar gyfeiliorn, y rhai os c�nt rywbeth i'w fwyta sy'n cyhoeddi heddwch, ond pan na rydd neb ddim iddynt sy'n cyhoeddi rhyfel yn ei erbyn:
6 "Am hyn bydd yn nos heb weledigaeth arnoch, ac yn dywyllwch heb ddim dewiniaeth; bydd yr haul yn machlud ar y proffwydi, a'r dydd yn tywyllu o'u cwmpas."
7 Bydd y gweledyddion mewn gwarth a'r dewiniaid mewn cywilydd; byddant i gyd yn gorchuddio'u genau, am nad oes ateb oddi wrth Dduw.
8 Ond amdanaf fi, rwy'n llawn grym ac ysbryd yr ARGLWYDD, a chyfiawnder a nerth, i gyhoeddi ei drosedd i Jacob, a'i bechod i Israel.
9 Clywch hyn, benaethiaid Jacob, arweinwyr tu375? Israel, chwi sy'n cas�u cyfiawnder ac yn gwyrdroi pob uniondeb,
10 yn adeiladu Seion trwy dywallt gwaed a Jerwsalem trwy dwyll.
11 Y mae ei phenaethiaid yn barnu yn �l y t�l, ei hoffeiriaid yn cyfarwyddo yn �l y wobr, ei phroffwydi yn cyflwyno neges yn �l yr arian; ac eto, pwysant ar yr ARGLWYDD, a dweud, "Onid yw'r ARGLWYDD yn ein mysg? Ni ddaw drwg arnom."
12 Am hynny, o'ch achos chwi bydd Seion yn faes wedi ei aredig, a Jerwsalem yn garneddau, a mynydd y deml yn fynydd-dir coediog.