Uma: New Testament

Welsh

2 Kings

10

1 Yr oedd gan Ahab ddeg a thrigain o feibion yn Samaria. Ysgrifennodd Jehu lythyrau a'u hanfon i Samaria at swyddogion y ddinas, yr henuriaid a'r rhai oedd yn gofalu am blant Ahab, gan ddweud,
2 "Cyn gynted ag y cewch y llythyr hwn, gan fod meibion eich arglwydd gyda chwi, a bod gennych gerbydau a meirch a dinas gaerog ac arfau,
3 dewiswch y gorau a'r cymhwysaf o feibion eich arglwydd a'i osod ar orsedd ei dad, ac ymladdwch dros dylwyth eich arglwydd."
4 Ond cawsant ofn mawr a dweud, "Gwelwch, methodd dau frenin ei wrthsefyll; sut y safwn ni?"
5 Yna anfonodd goruchwyliwr y palas a llywodraethwr y ddinas a'r henuriaid a'r gwarcheidwaid at Jehu a dweud, "Dy weision di ydym, a gwnawn bopeth a ddywedi wrthym; nid ydym am ddewis neb yn frenin; gwna di'r hyn sydd orau gennyt."
6 Ysgrifennodd ail lythyr atynt, gan ddweud, "Os ydych o'm plaid ac am ufuddhau imi, cymerwch bennau holl feibion eich arglwydd, a dewch ataf i Jesreel tua'r amser hwn yfory." Yr oedd meibion y brenin, deg a thrigain ohonynt, yn cael eu magu gydag uchelwyr y ddinas.
7 Ar �l iddynt dderbyn y llythyr, cymerasant feibion y brenin, a lladd y deg a thrigain a rhoi eu pennau mewn cewyll a'u hanfon ato i Jesreel.
8 Pan ddaeth y cennad a'i hysbysu eu bod wedi dod � phennau meibion y brenin, dywedodd, "Gos-odwch hwy yn ddau bentwr o flaen y porth hyd y bore."
9 Aeth yntau allan yn y bore a sefyll yno a dweud wrth yr holl bobl, "Yr ydych chwi'n bobl deg. Edrychwch, gwneuthum i gynllwyn yn erbyn f'arglwydd a'i ladd, ond pwy a laddodd y rhain i gyd?
10 Gwelwch felly nad yw'r un gair o'r hyn a lefarodd yr ARGLWYDD yn erbyn teulu Ahab wedi methu; y mae'r ARGLWYDD wedi gwneud yr hyn a addawodd drwy ei was Elias."
11 Lladdodd Jehu bawb oedd ar �l o deulu Ahab yn Jesreel, a'i holl uchelwyr a'i gyfeillion a'i offeiriaid, heb adael neb.
12 Yna ymadawodd Jehu i fynd i Samaria; ac yn ymyl Beth-eced y Bugeiliaid
13 cyfarfu � brodyr Ahaseia brenin Jwda, a gofyn, "Pwy ydych chwi?" Atebasant, "Brodyr Ahaseia, ac yr ydym yn mynd i gyfarch plant y brenin a phlant y fam frenhines."
14 Ar hynny dywedodd, "Daliwch hwy'n fyw." Ac wedi iddynt eu dal, lladdasant hwy wrth bydew Beth-eced, dau a deugain ohonynt, heb arbed yr un.
15 Wedi iddo ymadael oddi yno, gwelodd Jehonadab fab Rechab yn dod i'w gyfarfod. Cyfarchodd ef a gofyn, "A wyt ti mor ddiffuant gyda mi ag yr wyf fi gyda thi?" Atebodd Jehonadab, "Ydwyf." Yna dywedodd Jehu, "Os wyt, estyn dy law." Estynnodd ei law, a chymerodd yntau ef ato i'r cerbyd,
16 a dweud wrtho, "Tyrd gyda mi, a gw�l fy s�l dros yr ARGLWYDD."
17 Aeth ag ef yn ei gerbyd, a phan ddaeth i Samaria, lladdodd bawb oedd yn weddill o deulu Ahab yn Samaria, a'u difa, yn �l y gair a lefarodd yr ARGLWYDD wrth Elias.
18 Casglodd Jehu yr holl bobl a dweud wrthynt, "Yr oedd Ahab yn addoli Baal ychydig; bydd Jehu yn ei addoli lawer.
19 Felly galwch ataf holl broffwydi Baal, ei holl addolwyr a'i holl offeiriaid, heb adael yr un ar �l, oherwydd rwyf am gynnal aberth mawr i Baal, ac ni chaiff neb fydd yn absennol fyw." Ond gweithredu'n gyfrwys yr oedd Jehu, er mwyn difa addolwyr Baal.
20 Gorch-mynnodd Jehu, "Cyhoeddwch gynulliad sanctaidd i Baal." Gwnaethant hynny,
21 ac anfonodd Jehu drwy holl Israel, a daeth holl addolwyr Baal yno, heb adael neb ar �l, a daethant i deml Baal a'i llenwi i'r ymylon.
22 Yna dywedodd wrth yr un oedd yn gofalu am y gwisgoedd, "Dwg allan wisg i bob un o addolwyr Baal." A dygodd yntau'r gwisgoedd iddynt.
23 Yna daeth Jehu a Jehonadab fab Rechab at deml Baal, a dweud wrth addolwyr Baal, "Chwiliwch yn fanwl rhag bod neb o addolwyr yr ARGLWYDD yna gyda chwi, dim ond addolwyr Baal yn unig."
24 A phan aethant i offrymu aberthau a phoethoffrymau, gosododd Jehu bedwar ugain o'i ddynion y tu allan a dweud, "Os bydd un o'r bobl a roddais yn eich llaw yn dianc, cymeraf fywyd un ohonoch chwi yn ei le."
25 Ar �l gorffen poethoffrymu, dywedodd Jehu wrth y gwarchodlu a'r swyddogion, "Dewch, lladdwch hwy heb adael i neb ddianc," a lladdasant hwy �'r cleddyf. Yna rhuthrodd y gwarchodlu a'r swyddogion at du373?r teml Baal,
26 a dwyn allan y golofn o deml Baal a'i llosgi,
27 ac yna distrywio colofn Baal a difrodi teml Baal a'i throi'n geudy, fel y mae hyd heddiw.
28 Er i Jehu ddileu Baal o Israel,
29 ni throdd oddi wrth bechodau Jeroboam fab Nebat, a wnaeth i Israel bechu, sef oddi wrth y lloi aur oedd ym Methel a Dan.
30 Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Jehu, "Gan dy fod wedi rhagori mewn gwneud yr hyn sy'n iawn yn fy ngolwg, a gwneud y cyfan oedd yn fy mwriad yn erbyn teulu Ahab, bydd plant i ti hyd y bedwaredd genhedlaeth yn eistedd ar orsedd Israel."
31 Ond ni ofalodd Jehu am rodio yng nghyfraith yr ARGLWYDD, Duw Israel, �'i holl galon; ni throdd oddi wrth bechodau Jeroboam, a barodd i Israel bechu.
32 Yr adeg honno y dechreuodd yr ARGLWYDD gyfyngu terfynau Israel, a bu Hasael yn ymosod ar holl oror Israel
33 i'r tu dwyrain o'r Iorddonen, gwlad Gilead i gyd, tir Gad, Reuben a Manasse, i fyny o Aroer sydd wrth nant Arnon, sef Gilead a Basan.
34 Am weddill hanes Jehu, a'i holl wrhydri a'r cwbl a wnaeth, onid yw wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhin-oedd Israel?
35 Bu farw Jehu, a chladdwyd ef yn Samaria, a daeth ei fab Jehoahas yn frenin yn ei le.
36 Wyth mlynedd ar hugain y bu Jehu yn frenin ar Israel yn Samaria.