1 Pan welodd Athaleia, mam Ahaseia, fod ei mab wedi marw, aeth ati i ddifodi'r holl linach frenhinol.
2 Ond cymerwyd Joas fab Ahaseia gan Jehoseba, merch y Brenin Joram a chwaer Ahaseia, a'i ddwyn yn ddirgel o blith plant y brenin, a oedd i'w lladd. Rhoed ef a'i famaeth mewn ystafell wely, a'i guddio rhag Athaleia, ac ni laddwyd ef.
3 A bu ynghudd gyda hi yn nhu375?'r ARGLWYDD am chwe blynedd, tra oedd Athaleia'n rheoli'r wlad.
4 Ond yn y seithfed flwyddyn anfonodd Jehoiada am gapteiniaid y Cariaid a'r gwarchodlu, a'u dwyn ato i du375?'r ARGLWYDD. Gwnaeth gytundeb � hwy, a pharodd iddynt dyngu llw yn nhu375?'r ARGLWYDD; yna dangosodd iddynt fab y brenin,
5 a gorchymyn iddynt, "Dyma'r hyn a wnewch: y mae traean ohonoch yn dod i mewn ar y Saboth ac ar wyliadwriaeth yn y palas;
6 y mae'r ail draean ym mhorth Sur, a'r trydydd ym mhorth cefn y gwarchodlu, ac yn cymryd eu tro i warchod y palas.
7 Ond yn awr, y mae'r ddau gwmni sy'n rhydd ar y Saboth i warchod o gwmpas y brenin yn nhu375?'r ARGLWYDD.
8 Safwch o amgylch y brenin, pob un �'i arfau yn ei law, a lladdwch unrhyw un a ddaw'n agos at y rhengoedd; arhoswch gyda'r brenin ble bynnag yr �."
9 Gwnaeth y capteiniaid bopeth a orchmynnodd yr offeiriad Jehoiada, pob un yn cymryd ei gwmni, y rhai oedd ar ddyletswydd ar y Saboth, a'r rhai oedd yn rhydd, a dod at yr offeiriad Jehoiada.
10 Yna rhoddodd yr offeiriad i'r capteiniaid y gwaywffyn a'r tarianau a fu gan Ddafydd ac a oedd yn nhu375?'r ARGLWYDD.
11 Safodd y gwarchodlu i amgylchu'r brenin, pob un �'i arfau yn ei law, ar draws y tu375? o'r ochr dde i'r ochr chwith, o gwmpas yr allor a'r tu375?.
12 Yna dygwyd mab y brenin gerbron, a rhoi'r goron a'r warant iddo. Urddasant ef yn frenin, a'i eneinio, a churo dwylo a dweud, "Byw fyddo'r brenin!"
13 Clywodd Athaleia drwst y gwarchodlu a'r bobl, a daeth atynt i du375?'r ARGLWYDD.
14 Pan welodd hi y brenin yn sefyll wrth y golofn yn �l y ddefod, gyda'r capteiniaid a'r trwmpedau o amgylch y brenin, a holl bobl y wlad yn llawenhau ac yn canu trwmpedau, rhwygodd ei dillad a gweiddi, "Brad, brad!"
15 Gorchmynnodd yr offeiriad Jehoiada i'r capteiniaid, swyddogion y fyddin, "Ewch � hi y tu allan i gyffiniau'r tu375?, a lladdwch �'r cleddyf unrhyw un sy'n ei dilyn; ond peidier," meddai'r offeiriad, "�'i lladd yn nhu375?'r ARGLWYDD."
16 Felly daliasant hi a'i dwyn at fynedfa Porth y Meirch i'r palas, a'i lladd yno.
17 Gwnaeth Jehoiada gyfamod rhwng yr ARGLWYDD a'r brenin a'i bobl, iddynt fod yn bobl i'r ARGLWYDD; gwnaeth gyfamod hefyd rhwng y brenin a'r bobl.
18 Aeth holl bobl y wlad at deml Baal a'i thynnu i lawr, a dryllio'i hallorau a'i delwau'n chwilfriw, a lladd Mattan, offeiriad Baal, o flaen yr allorau; a phenododd yr offeiriad arolygwyr ar du375?'r ARGLWYDD.
19 Yna cymerodd Jehoiada y capteiniaid a'r Cariaid a'r gwarchodlu, a holl bobl y wlad, i hebrwng y brenin o du375?'r ARGLWYDD, a'i ddwyn trwy borth y gwarchodlu i'r palas a'i osod ar yr orsedd frenhinol.
20 Llawenhaodd holl bobl y wlad, a daeth llonyddwch i'r ddinas wedi lladd Athaleia �'r cleddyf yn y palas.
21 Saith oed oedd Jehoas pan ddaeth yn frenin.