Uma: New Testament

Welsh

Job

8

1 Yna atebodd Bildad y Suhiad:
2 "Am ba hyd y lleferi fel hyn, a chymaint o ymffrost yn dy eiriau?
3 A yw Duw yn gwyrdroi barn? A yw'r Hollalluog yn gwyro cyfiawnder?
4 Pan bechodd dy feibion yn ei erbyn, fe'u trosglwyddodd i afael eu trosedd.
5 Os ceisi di Dduw yn ddyfal, ac ymbil ar yr Hollalluog,
6 ac os wyt yn bur ac uniawn, yna fe wylia ef drosot, a'th adfer i'th safle o gyfiawnder.
7 Pe byddai dy ddechreuad yn fychan, byddai dy ddiwedd yn fawr.
8 "Yn awr gofyn i'r oes a fu, ac ystyria'r hyn a ganfu'r hynafiaid.
9 Canys nid ydym ni ond er doe, ac anwybodus u375?m, a chysgod yw ein dyddiau ar y ddaear.
10 Oni fyddant hwy'n dy hyfforddi, a mynegi wrthyt, a rhoi atebion deallus?
11 A dyf brwyn lle nad oes cors? A ffynna hesg heb ddu373?r?
12 Er eu bod yn ir a heb eu torri, eto gwywant yn gynt na'r holl blanhigion.
13 Felly y mae tynged yr holl rai sy'n anghofio Duw, ac y derfydd gobaith yr annuwiol.
14 Edau frau yw ei hyder, a'i ymffrost fel gwe'r pryf copyn.
15 Pwysa ar ei du375?, ond ni saif; cydia ynddo, ond ni ddeil.
16 Bydd yn ir yn llygad yr haul, yn estyn ei frigau dros yr ardd;
17 ymbletha'i wraidd dros y pentwr cerrig, a daw i'r golwg rhwng y meini.
18 Ond os diwreiddir ef o'i le, fe'i gwedir: 'Ni welais di'.
19 Gwywo felly yw ei natur; ac yna tyf un arall o'r pridd.
20 "Wele, ni wrthyd Duw yr uniawn, ac ni chydia yn llaw y drygionus.
21 Lleinw eto dy enau � chwerthin, a'th wefusau � gorfoledd.
22 Gwisgir dy elynion � gwarth, a diflanna pabell y drygionus."