2 "Gwn yn sicr fod hyn yn wir, na all neb ei gyfiawnhau ei hun gyda Duw.
3 Os myn ymryson ag ef, nid etyb ef unwaith mewn mil.
4 Y mae'n ddoeth a chryf; pwy a ystyfnigodd yn ei erbyn yn llwyddiannus?
5 Y mae'n symud mynyddoedd heb iddynt wybod, ac yn eu dymchwel yn ei lid.
6 Y mae'n ysgwyd y ddaear o'i lle, a chryna'i cholofnau.
7 Y mae'n gorchymyn i'r haul beidio � chodi, ac yn gosod s�l ar y s�r.
8 Taenodd y nefoedd ei hunan, a sathrodd grib y m�r.
9 Creodd yr Arth ac Orion, Pleiades a chylch S�r y De.
10 Gwna weithredoedd mawr ac anchwiliadwy, a rhyfeddodau dirifedi.
11 "Pan � heibio imi, nis gwelaf, a diflanna heb i mi ddirnad.
12 Os cipia, pwy a'i rhwystra? Pwy a ddywed wrtho, 'Beth a wnei?'?
13 Ni thry Duw ei lid ymaith; ymgreinia cynorthwywyr Rahab wrth ei draed.
14 Pa faint llai yr atebwn i ef, a dadlau gair am air ag ef?
15 Hyd yn oed pe byddwn gyfiawn, ni'm hatebid, dim ond ymbil am drugaredd gan fy marnwr.
16 Pe gwysiwn ef ac yntau'n ateb, ni chredwn y gwrandawai arnaf.
17 Canys heb reswm y mae'n fy nryllio, ac yn amlhau f'archollion yn ddiachos.
18 Nid yw'n rhoi cyfle imi gymryd fy anadl, ond y mae'n fy llenwi � chwerwder.
19 "Os cryfder a geisir, wele ef yn gryf; os barn, pwy a'i geilw i drefn?
20 Pe bawn gyfiawn, condemniai fi �'m geiriau fy hun; pe bawn ddi-fai, dangosai imi gyfeiliorni.
21 Di-fai wyf, ond nid wyf yn malio amdanaf fy hun; yr wyf yn ffieiddio fy mywyd.
22 Yr un dynged sydd i bawb; am hynny dywedaf ei fod ef yn difetha'r di-fai a'r drygionus.
23 Os dinistr a ladd yn ddisymwth, fe chwardd am drallod y diniwed.
24 Os rhoddir gwlad yng ngafael y drygionus, fe daena orchudd tros wyneb ei barnwyr. Os nad ef, pwy yw?
25 "Y mae fy nyddiau'n gyflymach na rhedwr; y maent yn diflannu heb weld daioni.
26 Y maent yn gwibio fel llongau o frwyn, fel eryr yn disgyn ar gelain.
27 Os dywedaf, 'Anghofiaf fy nghwyn, newidiaf fy mhryd a byddaf lawen',
28 eto arswydaf rhag fy holl ofidiau; gwn na'm hystyri'n ddieuog.
29 A bwrw fy mod yn euog, pam y llafuriaf yn ofer?
30 Os ymolchaf � sebon, a golchi fy nwylo � soda,
31 yna tefli fi i'r ffos, a gwna fy nillad fi'n ffiaidd.
32 "Nid dyn yw ef fel fi, fel y gallaf ei ateb, ac y gallwn ddod ynghyd i ymgyfreithio.
33 O na fyddai un i dorri'r ddadl rhyngom, ac i osod ei law arnom ein dau,
34 fel y symudai ei wialen oddi arnaf, ac fel na'm dychrynid gan ei arswyd!
35 Yna llefarwn yn eofn. Ond nid felly y caf fy hun.