1 Pan glywodd Sanbalat a Tobeia a Gesem yr Arabiad a'r gweddill o'n gelynion fy mod wedi ailgodi'r mur ac nad oedd yr un bwlch ar �l ynddo � er nad oeddwn y pryd hwnnw wedi gosod dorau ar y pyrth �
2 fe anfonodd Sanbalat a Gesem ataf a dweud, "Tyrd i'n cyfarfod yn un o'r pentrefi yn nyffryn Ono." Ond eu bwriad oedd gwneud niwed imi.
3 Anfonais negeswyr atynt gyda'r ateb, "Y mae gennyf waith pwysig ar dro, felly ni allaf ddod i lawr. Pam y dylai'r gwaith gael ei atal tra wyf fi yn ei adael ac yn dod i lawr atoch chwi?"
4 Anfonasant ataf i'r un perwyl bedair gwaith, a phob tro rhoddais yr un ateb.
5 Y pumed tro anfonodd Sanbalat ei was ei hun ataf gyda llythyr agored
6 yn cynnwys y neges hon: "Yn �l Gasmu y mae si ymysg y cenhedloedd dy fod ti a'r Iddewon yn bwriadu gwrthryfela, ac mai dyna pam yr wyt yn ailgodi'r mur. Dywedir hefyd dy fod ti dy hun am fod yn frenin arnynt,
7 a'th fod wedi penodi proffwydi i gyhoeddi yn Jerwsalem a dweud, 'Y mae brenin yn Jwda.' Bydd y brenin yn sicr o glywed am hyn; felly tyrd, a gad i ni ymgynghori �'n gilydd."
8 Anfonais air yn �l ato a dweud, "Nid yw'r hyn a ddywedi di yn wir; ti dy hun sydd wedi ei ddychmygu."
9 Yr oeddent oll yn ceisio'n dychryn, gan dybio y byddem yn digalonni, ac na fyddai'r gwaith yn cael ei orffen. Ond yn awr cryfha fi!
10 Pan euthum i du375? Semaia fab Delaia, fab Mehetabel, oedd wedi ei gaethiwo i'w gartref, dywedodd wrthyf, "Gad i ni gyfarfod yn nhu375? Dduw, y tu mewn i'r cysegr, a chau drysau'r deml, oherwydd y maent yn dod i'th ladd, yn dod i'th ladd liw nos."
11 Atebais innau, "A ddylai dyn fel fi ffoi? A yw un fel fi i fynd i mewn i'r deml er mwyn achub ei fywyd? Nid af i mewn."
12 Yna sylweddolais nad Duw oedd wedi ei anfon, ond ei fod wedi proffwydo fel hyn yn ein herbyn am fod Tobeia a Sanbalat wedi ei lwgrwobrwyo.
13 Yr oedd wedi cael ei dalu i godi ofn arnaf a pheri imi bechu trwy wneud hyn; yna fe gaent esgus i roi enw drwg imi, a'm gwaradwyddo.
14 Fy Nuw, cofia Tobeia a Sanbalat am iddynt wneud hyn, a hefyd Noadeia y broffwydes a'r proffwydi eraill oedd am fy nychryn.
15 Gorffennwyd y mur mewn deuddeg diwrnod a deugain, ar y pumed ar hugain o Elul.
16 Pan glywodd ein holl elynion, a phan welodd yr holl genhedloedd o'n hamgylch, yr oedd y peth yn rhyfeddol yn eu golwg, a daethant i ddeall mai trwy gymorth ein Duw y cafodd y gwaith hwn ei wneud.
17 Yn ystod y cyfnod hwn anfonodd pendefigion Jwda nifer o lythyrau at Tobeia, a daeth llythyrau oddi wrth Tobeia atynt hwythau;
18 oherwydd yr oedd llawer yn Jwda mewn cynghrair ag ef am ei fod yn fab-yng-nghyfraith i Sechaneia fab Ara, a'i fab Jehohanan wedi priodi merch Mesulam fab Berecheia.
19 Byddent yn s�n wrthyf am ei ragoriaethau ac yn ailadrodd fy ngeiriau innau wrtho ef. Ysgrifennodd Tobeia hefyd lythyrau ataf i'm dychryn.