1 Yna, wedi i'r mur gael ei ailgodi, ac imi osod y dorau, ac i'r porthorion a'r cantorion a'r Lefiaid gael eu penodi,
2 rhoddais Jerwsalem yng ngofal Hanani fy mrawd a Hananeia arolygwr y palas, oherwydd yr oedd ef yn ddyn gonest ac yn parchu Duw'n fwy na'r mwyafrif.
3 A dywedais wrthynt, "Nid yw pyrth Jerwsalem i fod ar agor nes bod yr haul wedi codi; a chyn iddo fachlud rhaid cau'r dorau a'u cloi. Trefnwch drigolion Jerwsalem yn wylwyr, pob un i wylio yn ei dro, a phob un yn ymyl ei du375? ei hun."
4 Yr oedd y ddinas yn fawr ac yn eang, ond ychydig o bobl oedd ynddi, a'r tai heb eu hailgodi.
5 Rhoddodd Duw yn fy meddwl i gasglu ynghyd y pendefigion, y swyddogion a'r bobl i'w cofrestru. Deuthum o hyd i lyfr achau y rhai a ddaeth yn gyntaf o'r gaethglud, a dyma oedd wedi ei ysgrifennu ynddo:
6 Dyma bobl y dalaith a ddychwelodd o gaethiwed, o'r gaethglud a ddygwyd gan Nebuchadnesar brenin Babilon, ac a ddaeth yn �l i Jerwsalem ac i Jwda, pob un i'w dref ei hun.
7 Gyda Sorobabel yr oedd Jesua, Nehemeia, Asareia, Raameia, Nahmani, Mordecai, Bilsan, Mispereth, Bigfai, Nehum a Baana.
8 Rhestr teuluoedd pobl Israel: teulu Paros, dwy fil un cant saith deg a dau;
9 teulu Seffateia, tri chant saith deg a dau;
10 teulu Ara, chwe chant pum deg a dau;
11 teulu Pahath-moab, hynny yw teuluoedd Jesua a Joab, dwy fil wyth gant un deg ac wyth;
12 teulu Elam, mil dau gant pum deg a phedwar;
13 teulu Sattu, wyth gant pedwar deg a phump;
14 teulu Saccai, saith gant chwe deg;
15 teulu Binnui, chwe chant pedwar deg ac wyth;
16 teulu Bebai, chwe chant dau ddeg ac wyth;
17 teulu Asgad, dwy fil tri chant dau ddeg a dau;
18 teulu Adonicam, chwe chant chwe deg a saith;
19 teulu Bigfai, dwy fil chwe deg a saith;
20 teulu Adin, chwe chant pum deg a phump;
21 teulu Ater, hynny yw Heseceia, naw deg ac wyth;
22 teulu Hasum, tri chant dau ddeg ac wyth;
23 teulu Besai, tri chant dau ddeg a phedwar;
24 teulu Hariff, cant a deuddeg;
25 teulu Gibeon, naw deg a phump.
26 Gwu375?r Bethlehem a Netoffa, cant wyth deg ac wyth;
27 gwu375?r Anathoth, cant dau ddeg ac wyth;
28 gwu375?r Beth-asmafeth, pedwar deg a dau;
29 gwu375?r Ciriath-jearim a Ceffira a Beeroth, saith gant pedwar deg a thri;
30 gwu375?r Rama a Geba, chwe chant dau ddeg ac un;
31 gwu375?r Michmas, cant dau ddeg a dau;
32 gwu375?r Bethel ac Ai, cant dau ddeg a thri;
33 gwu375?r y Nebo arall, pum deg a dau.
34 Teulu'r Elam arall, mil dau gant pum deg a phedwar;
35 teulu Harim, tri chant dau ddeg;
36 teulu Jericho, tri chant pedwar deg a phump;
37 teulu Lod a Hadid ac Ono, saith gant dau ddeg ac un;
38 teulu Senaa, tair mil naw cant tri deg.
39 Yr offeiriaid: teulu Jedeia, o linach Jesua, naw cant saith deg a thri;
40 teulu Immer, mil pum deg a dau;
41 teulu Pasur, mil dau gant pedwar deg a saith;
42 teulu Harim, mil un deg a saith.
43 Y Lefiaid: teulu Jesua, hynny yw Cadmiel, o linach Hodefa, saith deg a phedwar.
44 Y cantorion: teulu Asaff, cant pedwar deg ac wyth.
45 Y porthorion: teuluoedd Salum, Ater, Talmon, Accub, Hatita a Sobai, cant tri deg ac wyth.
46 Gweision y deml: teuluoedd Siha, Hasuffa, Tabbaoth,
48 Lebana, Hagaba, Salmai,
52 Besai, Meunim, Neffisesim,
53 Bacbuc, Hacuffa, Harhur,
54 Baslith, Mehida, Harsa,
57 Disgynyddion gweision Solomon: teuluoedd Sotai, Soffereth, Perida,
59 Seffateia, Hattil, Pochereth o Sebaim, ac Amon.
60 Cyfanswm gweision y deml a disgynyddion gweision Solomon oedd tri chant naw deg a dau.
61 Daeth y rhai canlynol i fyny o Tel-mela, Tel-harsa, Cerub, Adon ac Immer, ond ni fedrent brofi mai o Israel yr oedd eu llinach a'u tras:
62 teuluoedd Delaia, Tobeia a Necoda, chwe chant pedwar deg a dau.
63 Ac o blith yr offeiriaid: teuluoedd Hobaia, Cos a'r Barsilai a briododd un o ferched Barsilai o Gilead a chymryd ei enw.
64 Chwiliodd y rhain am gofnod o'u hachau, ond methu ei gael; felly cawsant eu hatal o'r offeiriadaeth,
65 a gwaharddodd y llywodraethwr iddynt fwyta'r pethau mwyaf cysegredig nes y ceid offeiriad i ymgynghori �'r Wrim a'r Twmim.
66 Nifer y fintai gyfan oedd pedwar deg dwy o filoedd tri chant chwe deg,
67 heblaw eu gweision a'u morynion a oedd yn saith mil tri chant tri deg a saith. Yr oedd ganddynt hefyd ddau gant pedwar deg a phump o gantorion a chantoresau,
68 saith gant tri deg a chwech o geffylau, dau gant pedwar deg a phump o fulod,
69 pedwar cant tri deg a phump o gamelod, a chwe mil saith gant dau ddeg o asynnod.
70 Cyfrannodd rhai o'r pennau-teuluoedd tuag at y gwaith. Rhoddodd y llywodraethwr i'r drysorfa fil o ddracmonau aur, pum deg o gostrelau a phum cant tri deg o wisgoedd offeiriadol.
71 Rhoddodd rhai o'r pennau-teuluoedd i drysorfa'r gwaith ugain mil o ddracmonau aur a dwy fil dau gant o fin�u o arian.
72 A'r hyn a roddodd y gweddill o'r bobl oedd ugain mil o ddracmonau aur, a dwy fil o fin�u o arian, a chwe deg a saith o wisgoedd offeiriadol.
73 Cartrefodd yr offeiriaid a'r Lefiaid yn Jerwsalem; yr oedd y porthorion a'r cantorion a rhai o'r bobl a gweision y deml yn byw yn y cyffiniau, a'r Israeliaid eraill yn byw yn eu trefi eu hunain.