1Finally then, brothers, we beg and exhort you in the Lord Jesus, that as you received from us how you ought to walk and to please God, that you abound more and more.
1 Bellach, gyfeillion, fel y cawsoch eich hyfforddi gennym ni pa fodd y dylech fyw er mwyn boddhau Duw (ac felly, yn wir, yr ydych yn byw), yr ydym yn gofyn ichwi, ac yn deisyf arnoch yn yr Arglwydd Iesu, i ragori fwyfwy.
2For you know what instructions we gave you through the Lord Jesus.
2 Oherwydd gwyddoch pa gyfarwyddyd a roddasom ichwi oddi wrth yr Arglwydd Iesu.
3For this is the will of God: your sanctification, that you abstain from sexual immorality,
3 Oherwydd hyn yw ewyllys Duw, ichwi gael eich sancteiddio: yr ydych i ymgadw oddi wrth anfoesoldeb rhywiol;
4that each one of you know how to possess himself of his own vessel in sanctification and honor,
4 y mae pob un ohonoch i wybod sut i gadw ei gorff ei hun mewn sancteiddrwydd a pharch,
5not in the passion of lust, even as the Gentiles who don’t know God;
5 ac nid yn nwyd trachwant, fel y cenhedloedd nad ydynt yn adnabod Duw;
6that no one should take advantage of and wrong a brother or sister in this matter; because the Lord is an avenger in all these things, as also we forewarned you and testified.
6 nid yw neb i gam-drin ei gyd-grediniwr, na manteisio arno yn ei ymwneud ag ef, oherwydd, fel y dywedasom wrthych o'r blaen, a'ch rhybuddio, y mae'r Arglwydd yn dial am yr holl bethau hyn.
7For God called us not for uncleanness, but in sanctification.
7 Oherwydd galwodd Duw ni, nid i amhurdeb ond i sancteiddrwydd.
8Therefore he who rejects this doesn’t reject man, but God, who has also given his Holy Spirit to you.
8 Gan hynny, y mae'r sawl sydd yn diystyru hyn yn diystyru neb ond Duw, yr hwn sy'n rhoi ei Ysbryd Gl�n i chwi.
9But concerning brotherly love, you have no need that one write to you. For you yourselves are taught by God to love one another,
9 Ynglu375?n � chariad at eich gilydd, nid oes arnoch angen i neb ysgrifennu atoch; oherwydd yr ydych chwi eich hunain wedi eich dysgu gan Dduw i garu eich gilydd.
10for indeed you do it toward all the brothers who are in all Macedonia. But we exhort you, brothers, that you abound more and more;
10 Ac yn wir, yr ydych yn gwneud hyn i bawb o'r credinwyr trwy Facedonia gyfan; ond yr ydym yn eich annog, gyfeillion, i ragori fwyfwy:
11and that you make it your ambition to lead a quiet life, and to do your own business, and to work with your own hands, even as we instructed you;
11 i roi eich bryd ar fyw yn dawel, a dilyn eich gorchwylion eich hunain, a gweithio �'ch dwylo eich hunain, fel y gorchmynasom ichwi.
12that you may walk properly toward those who are outside, and may have need of nothing.
12 Felly byddwch yn ymddwyn yn weddaidd yng ngolwg y rhai sydd y tu allan, ac ni fydd angen dim arnoch.
13But we don’t want you to be ignorant, brothers, concerning those who have fallen asleep, so that you don’t grieve like the rest, who have no hope.
13 Yr ydym am ichwi wybod, gyfeillion, am y rhai sydd yn huno, rhag ichwi fod yn drallodus, fel y rhelyw sydd heb ddim gobaith.
14For if we believe that Jesus died and rose again, even so God will bring with him those who have fallen asleep in Jesus.
14 Os ydym yn credu i Iesu farw ac atgyfodi, felly hefyd bydd Duw, gydag ef, yn dod �'r rhai a hunodd drwy Iesu.
15For this we tell you by the word of the Lord, that we who are alive, who are left to the coming of the Lord, will in no way precede those who have fallen asleep.
15 Hyn yr ydym yn ei ddweud wrthych ar air yr Arglwydd: ni fyddwn ni, y rhai byw a adewir hyd ddyfodiad yr Arglwydd, yn rhagflaenu dim ar y rhai sydd wedi huno.
16For the Lord himself will descend from heaven with a shout, with the voice of the archangel, and with God’s trumpet. The dead in Christ will rise first,
16 Oherwydd pan floeddir y gorchymyn, pan fydd yr archangel yn galw ac utgorn Duw yn seinio, bydd yr Arglwydd ei hun yn disgyn o'r nef; bydd y meirw yng Nghrist yn atgyfodi yn gyntaf,
17then we who are alive, who are left, will be caught up together with them in the clouds, to meet the Lord in the air. So we will be with the Lord forever.
17 ac yna byddwn ni, y rhai byw a fydd wedi eu gadael, yn cael ein cipio i fyny gyda hwy yn y cymylau, i gyfarfod �'r Arglwydd yn yr awyr; ac felly byddwn gyda'r Arglwydd yn barhaus.
18Therefore comfort one another with these words.
18 Calonogwch eich gilydd, felly, �'r geiriau hyn.