1But concerning the times and the seasons, brothers, you have no need that anything be written to you.
1 Ynglu375?n �'r amseroedd a'r prydiau, gyfeillion, nid oes arnoch angen i neb ysgrifennu atoch.
2For you yourselves know well that the day of the Lord comes like a thief in the night.
2 Oherwydd yr ydych yn gwybod yn iawn mai fel lleidr yn y nos y daw Dydd yr Arglwydd.
3For when they are saying, “Peace and safety,” then sudden destruction will come on them, like birth pains on a pregnant woman; and they will in no way escape.
3 Pan fydd pobl yn dweud, "Dyma dangnefedd a diogelwch", dyna'r pryd y daw dinistr disymwth ar eu gwarthaf fel gwewyr esgor ar wraig feichiog, ac ni fydd dim dianc iddynt.
4But you, brothers, aren’t in darkness, that the day should overtake you like a thief.
4 Ond nid ydych chwi, gyfeillion, mewn tywyllwch, i'r Dydd eich goddiweddyd fel lleidr;
5You are all children of light, and children of the day. We don’t belong to the night, nor to darkness,
5 pobl y goleuni, pobl y dydd, ydych chwi oll. Nid ydym yn perthyn i'r nos nac i'r tywyllwch.
6so then let’s not sleep, as the rest do, but let’s watch and be sober.
6 Am hynny, rhaid inni beidio � chysgu, fel y rhelyw, ond bod yn effro a sobr.
7For those who sleep, sleep in the night, and those who are drunk are drunk in the night.
7 Y rhai sydd yn cysgu, yn y nos y maent yn cysgu, a'r rhai sydd yn meddwi, yn y nos y maent yn meddwi.
8But let us, since we belong to the day, be sober, putting on the breastplate of faith and love, and, for a helmet, the hope of salvation.
8 Ond gan ein bod ni'n perthyn i'r dydd, gadewch inni fod yn sobr, gan wisgo amdanom ffydd a chariad yn ddwyfronneg, a gobaith iachawdwriaeth yn helm.
9For God didn’t appoint us to wrath, but to the obtaining of salvation through our Lord Jesus Christ,
9 Oherwydd nid i ddigofaint y penododd Duw ni, ond i feddu iachawdwriaeth drwy ein Harglwydd Iesu Grist,
10who died for us, that, whether we wake or sleep, we should live together with him.
10 yr hwn a fu farw drosom, er mwyn inni gael byw gydag ef, prun bynnag ai yn effro ai yn cysgu y byddwn.
11Therefore exhort one another, and build each other up, even as you also do.
11 Am hynny, calonogwch eich gilydd, ac adeiladwch bob un ei gilydd � fel, yn wir, yr ydych yn gwneud.
12But we beg you, brothers, to know those who labor among you, and are over you in the Lord, and admonish you,
12 Yr ydym yn gofyn ichwi, gyfeillion, barchu'r rhai sydd yn llafurio yn eich plith, yn arweinwyr arnoch yn yr Arglwydd, ac yn eich cynghori,
13and to respect and honor them in love for their work’s sake. Be at peace among yourselves.
13 a synio'n uchel iawn amdanynt mewn cariad, ar gyfrif eu gwaith. Byddwch yn heddychlon yn eich plith eich hunain.
14We exhort you, brothers, admonish the disorderly, encourage the fainthearted, support the weak, be patient toward all.
14 Ac yr ydym yn eich annog, gyfeillion, ceryddwch y segurwyr, cysurwch y gwangalon, cynorthwywch y rhai eiddil, byddwch yn amyneddgar wrth bawb.
15See that no one returns evil for evil to anyone, but always follow after that which is good, for one another, and for all.
15 Gwyliwch na fydd neb yn talu drwg am ddrwg i neb, ond ceisiwch bob amser les eich gilydd a lles pawb.
16Rejoice always.
16 Llawenhewch bob amser.
17Pray without ceasing.
17 Gwedd�wch yn ddi-baid.
18In everything give thanks, for this is the will of God in Christ Jesus toward you.
18 Ym mhob dim rhowch ddiolch, oherwydd hyn yw ewyllys Duw yng Nghrist Iesu i chwi.
19Don’t quench the Spirit.
19 Peidiwch � diffodd yr Ysbryd;
20Don’t despise prophesies.
20 peidiwch � dirmygu proffwyd-oliaethau.
21Test all things, and hold firmly that which is good.
21 Ond rhowch brawf ar bob peth, a glynwch wrth yr hyn sydd dda.
22Abstain from every form of evil.
22 Ymgadwch rhag pob math o ddrygioni.
23May the God of peace himself sanctify you completely. May your whole spirit, soul, and body be preserved blameless at the coming of our Lord Jesus Christ.
23 Bydded i Dduw'r tangnefedd ei hun eich sancteiddio chwi yn gyfan gwbl, a chadw eich ysbryd a'ch enaid a'ch corff yn gwbl iach a di-fai hyd ddyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist!
24He who calls you is faithful, who will also do it.
24 Y mae'r hwn sy'n eich galw yn ffyddlon, ac fe gyflawna ef hyn.
25Brothers, pray for us.
25 Gyfeillion, gwedd�wch drosom ninnau.
26Greet all the brothers with a holy kiss.
26 Cyfarchwch y cyfeillion i gyd � chusan sanctaidd.
27I solemnly command you by the Lord that this letter be read to all the holy brothers.
27 Yn enw'r Arglwydd, parwch ddarllen y llythyr hwn i'r holl gynulleidfa.
28The grace of our Lord Jesus Christ be with you. Amen.
28 Gras ein Harglwydd Iesu Grist fyddo gyda chwi!