1The elder, to the chosen lady and her children, whom I love in truth; and not I only, but also all those who know the truth;
1 Yr henuriad at yr arglwyddes etholedig a'i phlant. Yr wyf fi, ac nid myfi yn unig, ond pawb sydd wedi dod i wybod y gwirionedd, yn eich caru yn y gwirionedd,
2for the truth’s sake, which remains in us, and it will be with us forever:
2 er mwyn y gwirionedd sydd yn aros ynom ni, ac a fydd gyda ni am byth.
3Grace, mercy, and peace will be with us, from God the Father, and from the Lord Jesus Christ, the Son of the Father, in truth and love.
3 Bydd gras, trugaredd a thangnefedd gyda ni, oddi wrth Dduw y Tad ac oddi wrth Iesu Grist, Mab y Tad, mewn gwirionedd a chariad.
4I rejoice greatly that I have found some of your children walking in truth, even as we have been commanded by the Father.
4 Bu'n llawenydd mawr i mi gael rhai o'th blant di yn rhodio yn y gwirionedd, fel y cawsom orchymyn gan y Tad.
5Now I beg you, dear lady, not as though I wrote to you a new commandment, but that which we had from the beginning, that we love one another.
5 Ac yn awr yr wyf yn erfyn arnat, arglwyddes, ond nid fel un yn ysgrifennu iti orchymyn newydd; gorchymyn a oedd gennym o'r dechrau ydyw, sef ein bod i garu ein gilydd.
6This is love, that we should walk according to his commandments. This is the commandment, even as you heard from the beginning, that you should walk in it.
6 A hyn yw cariad: ein bod yn rhodio yn �l ei orchmynion ef. A'r gorchymyn hwn, fel y clywsoch o'r dechreuad, yw eich bod i rodio mewn cariad.
7For many deceivers have gone out into the world, those who don’t confess that Jesus Christ came in the flesh. This is the deceiver and the Antichrist.
7 Oherwydd aeth twyllwyr lawer allan i'r byd, y rhai nad ydynt yn cyffesu bod Iesu Grist wedi dod yn y cnawd; dyma'r twyllwr a'r Anghrist.
8Watch yourselves, that we don’t lose the things which we have accomplished, but that we receive a full reward.
8 Gwyliwch eich hunain, rhag ichwi golli ffrwyth ein llafur, ond derbyn eich gwobr yn gyflawn.
9Whoever transgresses and doesn’t remain in the teaching of Christ, doesn’t have God. He who remains in the teaching, the same has both the Father and the Son.
9 Pob un sy'n mynd rhagddo heb aros yn nysgeidiaeth Crist, nid yw Duw ganddo; y sawl sydd yn aros yn y ddysgeidiaeth, y mae'r Tad a'r Mab ganddo.
10If anyone comes to you, and doesn’t bring this teaching, don’t receive him into your house, and don’t welcome him,
10 Os daw rhywun atoch heb ddod �'r ddysgeidiaeth hon, peidiwch �'i dderbyn i'ch tu375? na'i gyfarch ef,
11for he who welcomes him participates in his evil works.
11 oherwydd y mae'r sawl sy'n ei gyfarch yn gyfrannog o'i weithredoedd drygionus.
12Having many things to write to you, I don’t want to do so with paper and ink, but I hope to come to you, and to speak face to face, that our joy may be made full.
12 Er bod gennyf lawer o bethau i'w hysgrifennu atoch, gwell gennyf beidio �'u hysgrifennu � phapur ac inc; rwy'n gobeithio dod atoch, a siarad � chwi wyneb yn wyneb, ac yna bydd ein llawenydd yn gyflawn.
13The children of your chosen sister greet you. Amen.
13 Y mae plant dy chwaer etholedig yn dy gyfarch di.