World English Bible

Welsh

Ephesians

6

1Children, obey your parents in the Lord, for this is right.
1 Chwi blant, ufuddhewch i'ch rhieni yn yr Arglwydd, oherwydd hyn sydd iawn.
2“Honor your father and mother,” which is the first commandment with a promise:
2 "Anrhydedda dy dad a'th fam" � hwn yw'r gorchymyn cyntaf ac iddo addewid:
3“that it may be well with you, and you may live long on the earth.”
3 "er mwyn iti lwyddo a chael hir ddyddiau ar y ddaear."
4You fathers, don’t provoke your children to wrath, but nurture them in the discipline and instruction of the Lord.
4 Chwi dadau, peidiwch � chythruddo'ch plant, ond eu meithrin yn nisgyblaeth a hyfforddiant yr Arglwydd.
5Servants, be obedient to those who according to the flesh are your masters, with fear and trembling, in singleness of your heart, as to Christ;
5 Chwi gaethweision, ufuddhewch i'ch meistri daearol mewn ofn a dychryn, mewn unplygrwydd calon fel i Grist,
6not in the way of service only when eyes are on you, as men pleasers; but as servants of Christ, doing the will of God from the heart;
6 nid ag esgus o wasanaeth fel rhai sy'n ceisio plesio dynion, ond fel gweision Crist yn gwneud ewyllys Duw �'ch holl galon.
7with good will doing service, as to the Lord, and not to men;
7 Rhowch wasanaeth ewyllysgar fel i'r Arglwydd, nid i ddynion,
8knowing that whatever good thing each one does, he will receive the same again from the Lord, whether he is bound or free.
8 oherwydd fe wyddoch y bydd pob un, boed gaeth neu rydd, yn derbyn t�l gan yr Arglwydd am ba ddaioni bynnag a wna.
9You masters, do the same things to them, and give up threatening, knowing that he who is both their Master and yours is in heaven, and there is no partiality with him.
9 Chwi feistri, gwnewch yr un peth iddynt hwy, gan roi'r gorau i fygwth, oherwydd fe wyddoch fod eu Meistr hwy a chwithau yn y nefoedd, ac nad yw ef yn dangos ffafriaeth.
10Finally, be strong in the Lord, and in the strength of his might.
10 Yn olaf, ymgryfhewch yn yr Arglwydd ac yn nerth ei allu ef.
11Put on the whole armor of God, that you may be able to stand against the wiles of the devil.
11 Gwisgwch amdanoch holl arfogaeth Duw, er mwyn ichwi fedru sefyll yn gadarn yn erbyn cynllwynion y diafol.
12For our wrestling is not against flesh and blood, but against the principalities, against the powers, against the world’s rulers of the darkness of this age, and against the spiritual forces of wickedness in the heavenly places.
12 Nid � meidrolion yr ydym yn yr afael, ond � thywys-ogaethau ac awdurdodau, � llywod-raethwyr tywyllwch y byd hwn, � phwerau ysbrydol drygionus yn y nefolion leoedd.
13Therefore put on the whole armor of God, that you may be able to withstand in the evil day, and, having done all, to stand.
13 Gan hynny, ymarfogwch � holl arfogaeth Duw, er mwyn ichwi fedru gwrthsefyll yn y dydd drwg, ac wedi cyflawni pob peth, sefyll yn gadarn.
14Stand therefore, having the utility belt of truth buckled around your waist, and having put on the breastplate of righteousness,
14 Safwch, ynteu, � gwirionedd yn wregys am eich canol, a chyfiawnder yn arfwisg ar eich dwyfron,
15and having fitted your feet with the preparation of the Good News of peace;
15 a pharodrwydd i gyhoeddi Efengyl tangnefedd yn esgidiau am eich traed.
16above all, taking up the shield of faith, with which you will be able to quench all the fiery darts of the evil one.
16 Heblaw hyn oll, ymarfogwch � tharian ffydd; � hon byddwch yn gallu diffodd holl saethau tanllyd yr Un drwg.
17And take the helmet of salvation, and the sword of the Spirit, which is the word of God;
17 Derbyniwch helm iachawdwriaeth a chleddyf yr Ysbryd, sef gair Duw.
18with all prayer and requests, praying at all times in the Spirit, and being watchful to this end in all perseverance and requests for all the saints:
18 Ymrowch i weddi ac ymbil, gan wedd�o bob amser yn yr Ysbryd. I'r diben hwn, byddwch yn effro, gyda dyfalbarhad ym mhob math o ymbil dros y saint i gyd,
19on my behalf, that utterance may be given to me in opening my mouth, to make known with boldness the mystery of the Good News,
19 a gwedd�wch drosof finnau y bydd i Dduw roi i mi ymadrodd, ac agor fy ngenau, i hysbysu'n eofn ddirgelwch yr Efengyl.
20for which I am an ambassador in chains; that in it I may speak boldly, as I ought to speak.
20 Trosti hi yr wyf yn llysgennad mewn cadwynau. Ie, gwedd�wch ar i mi lefaru'n hy amdani, fel y dylwn lefaru.
21But that you also may know my affairs, how I am doing, Tychicus, the beloved brother and faithful servant in the Lord, will make known to you all things;
21 Er mwyn i chwithau wybod fy hanes, a beth yr wyf yn ei wneud, fe gewch y cwbl gan Tychicus, y brawd annwyl a'r gweinidog ffyddlon yn yr Arglwydd.
22whom I have sent to you for this very purpose, that you may know our state, and that he may comfort your hearts.
22 Yr wyf yn ei anfon atoch yn unswydd ichwi gael gwybod am ein hynt, ac er mwyn iddo ef eich calonogi.
23Peace be to the brothers, and love with faith, from God the Father and the Lord Jesus Christ.
23 Tangnefedd i'r cyfeillion, a chariad ynghyd � ffydd oddi wrth Dduw Dad a'r Arglwydd Iesu Grist.
24Grace be with all those who love our Lord Jesus Christ with incorruptible love. Amen.
24 Gras fyddo gyda phawb sy'n caru ein Harglwydd Iesu Grist � chariad anfarwol!