World English Bible

Welsh

James

4

1Where do wars and fightings among you come from? Don’t they come from your pleasures that war in your members?
1 O ble y daeth ymrafaelion a chwerylon yn eich plith? Onid o'r chwantau sy'n milwrio yn eich aelodau?
2You lust, and don’t have. You kill, covet, and can’t obtain. You fight and make war. You don’t have, because you don’t ask.
2 Yr ydych yn chwennych ac yn methu cael; yr ydych yn llofruddio ac eiddigeddu ac yn methu meddiannu; yr ydych yn ymladd a rhyfela. Nid ydych yn cael am nad ydych yn gofyn.
3You ask, and don’t receive, because you ask with wrong motives, so that you may spend it for your pleasures.
3 A phan fyddwch yn gofyn, nid ydych yn derbyn, a hynny am eich bod yn gofyn ar gam, �'ch bryd ar wario yr hyn a gewch ar eich pleserau.
4You adulterers and adulteresses, don’t you know that friendship with the world is enmity with God? Whoever therefore wants to be a friend of the world makes himself an enemy of God.
4 Chwi rai anffyddlon, oni wyddoch fod cyfeillgarwch �'r byd yn elyniaeth tuag at Dduw? Y mae unrhyw un sy'n mynnu bod yn gyfaill i'r byd yn ei wneud ei hun yn elyn i Dduw.
5Or do you think that the Scripture says in vain, “The Spirit who lives in us yearns jealously”?
5 Neu a ydych yn tybio nad oes ystyr i'r Ysgrythur sy'n dweud, "Y mae Duw'n dyheu hyd at eiddigedd am yr ysbryd a osododd i drigo ynom."
6But he gives more grace. Therefore it says, “God resists the proud, but gives grace to the humble.”
6 A gras mwy y mae ef yn ei roi. Oherwydd y mae'r Ysgrythur yn dweud: "Y mae Duw'n gwrthwynebu'r beilchion, ond i'r gostyngedig y mae'n rhoi gras."
7Be subject therefore to God. But resist the devil, and he will flee from you.
7 Felly, ymddarostyngwch i Dduw. Gwrthsafwch y diafol, ac fe ffy oddi wrthych.
8Draw near to God, and he will draw near to you. Cleanse your hands, you sinners; and purify your hearts, you double-minded.
8 Nesewch at Dduw, ac fe nes� ef atoch chwi. Glanhewch eich dwylo, chwi bechaduriaid, a phurwch eich calonnau, chwi bobl ddau feddwl.
9Lament, mourn, and weep. Let your laughter be turned to mourning, and your joy to gloom.
9 Tristewch a galarwch ac wylwch. Bydded i'ch chwerthin droi'n alar a'ch llawenydd yn brudd-der.
10Humble yourselves in the sight of the Lord, and he will exalt you.
10 Ymostyngwch o flaen yr Arglwydd, a bydd ef yn eich dyrchafu chwi.
11Don’t speak against one another, brothers. He who speaks against a brother and judges his brother, speaks against the law and judges the law. But if you judge the law, you are not a doer of the law, but a judge.
11 Peidiwch � dilorni eich gilydd, gyfeillion; y mae'r sawl sy'n dilorni rhywun arall, neu'n ei farnu, yn dilorni'r Gyfraith ac yn barnu'r Gyfraith. Ac os wyt ti yn barnu'r Gyfraith, yna nid gwneuthurwr y Gyfraith mohonot, ond ei barnwr hi.
12Only one is the lawgiver, who is able to save and to destroy. But who are you to judge another?
12 Nid oes ond un deddfroddwr a barnwr, sef yr un sy'n abl i achub a dinistrio. Pwy wyt ti i eistedd mewn barn ar dy gymydog?
13Come now, you who say, “Today or tomorrow let’s go into this city, and spend a year there, trade, and make a profit.”
13 Clywch yn awr, chwi sy'n dweud, "Heddiw neu yfory, byddwn yn mynd i'r ddinas a'r ddinas, ac fe dreuliwn flwyddyn yno yn marchnata ac yn gwneud arian."
14Whereas you don’t know what your life will be like tomorrow. For what is your life? For you are a vapor, that appears for a little time, and then vanishes away.
14 Nid oes gan rai fel chwi ddim syniad sut y bydd hi ar eich bywyd yfory. Nid ydych ond tarth, sy'n cael ei weld am ychydig, ac yna'n diflannu.
15For you ought to say, “If the Lord wills, we will both live, and do this or that.”
15 Dylech ddweud, yn hytrach, "Os yr Arglwydd a'i myn, byddwn yn fyw ac fe wnawn hyn neu'r llall."
16But now you glory in your boasting. All such boasting is evil.
16 Ond yn lle hynny, ymffrostio yr ydych yn eich honiadau balch. Y mae pob ymffrost o'r fath yn ddrwg.
17To him therefore who knows to do good, and doesn’t do it, to him it is sin.
17 Ac felly, pechod yw i rywun beidio � gwneud y daioni y mae'n gwybod y dylai ei wneud.