1The men of Ephraim said to him, “Why have you treated us this way, that you didn’t call us, when you went to fight with Midian?” They rebuked him sharply.
1 Dywedodd gwu375?r Effraim wrtho, "Beth yw hyn yr wyt wedi ei wneud i ni, drwy beidio �'n galw pan aethost i ymladd yn erbyn Midian?" A buont yn dadlau'n chwyrn ag ef.
2He said to them, “What have I now done in comparison with you? Isn’t the gleaning of the grapes of Ephraim better than the vintage of Abiezer?
2 Ond dywedodd ef wrthynt, "Yn awr, beth a wneuthum i o'i gymharu �'r hyn a wnaethoch chwi? Onid yw lloffion Effraim yn well na chynhaeaf Abieser?
3God has delivered into your hand the princes of Midian, Oreb and Zeeb! What was I able to do in comparison with you?” Then their anger was abated toward him, when he had said that.
3 Yn eich dwylo chwi y rhoddodd Duw Oreb a Seeb, arweinwyr Midian. Beth a fedrais i ei wneud o'i gymharu �'r hyn a wnaethoch chwi?" Wedi iddo ddweud hyn, fe dawelodd eu dig tuag ato.
4Gideon came to the Jordan, and passed over, he, and the three hundred men who were with him, faint, yet pursuing.
4 Aeth Gideon tua'r Iorddonen a'i chroesi gyda'r tri chant, yn lluddedig ond yn para i erlid.
5He said to the men of Succoth, “Please give loaves of bread to the people who follow me; for they are faint, and I am pursuing after Zebah and Zalmunna, the kings of Midian.”
5 Dywedodd wrth bobl Succoth, "Os gwelwch yn dda, rhowch dipyn o fara i'r fyddin sy'n fy nilyn, oherwydd maent yn lluddedig, ac yr wyf finnau'n erlid ar �l Seba a Salmunna, brenhinoedd Midian."
6The princes of Succoth said, “Are the hands of Zebah and Zalmunna now in your hand, that we should give bread to your army?”
6 Ond dywedodd arweinwyr Succoth, "A wyt eisoes yn cydio yn sodlau Seba a Salmunna, fel ein bod i roi bwyd i'th fintai?"
7Gideon said, “Therefore when Yahweh has delivered Zebah and Zalmunna into my hand, then I will tear your flesh with the thorns of the wilderness and with briers.”
7 Ac meddai Gideon, "Am hynny, pan fydd yr ARGLWYDD wedi rhoi Seba a Salmunna yn fy llaw, fe ffustiaf eich cyrff � drain a mieri'r anialwch."
8He went up there to Penuel, and spoke to them in the same way; and the men of Penuel answered him as the men of Succoth had answered.
8 Wedyn aeth oddi yno i Penuel, a gofyn yr un fath iddynt hwy; ac atebodd pobl Penuel ef yn yr un modd � phobl Succoth.
9He spoke also to the men of Penuel, saying, “When I come again in peace, I will break down this tower.”
9 Felly dywedodd wrth bobl Penuel, "Pan ddof yn �l yn llwyddiannus, fe dynnaf i lawr y tu373?r hwn."
10Now Zebah and Zalmunna were in Karkor, and their armies with them, about fifteen thousand men, all who were left of all the army of the children of the east; for there fell one hundred twenty thousand men who drew sword.
10 Yr oedd Seba a Salmunna wedi cyrraedd Carcor, ac yr oedd eu byddin gyda hwy, tua phymtheng mil, sef pawb a adawyd o fyddin y dwyreinwyr, oherwydd yr oedd cant ac ugain o filoedd o wu375?r arfog wedi syrthio.
11Gideon went up by the way of those who lived in tents on the east of Nobah and Jogbehah, and struck the army; for the army was secure.
11 Aeth Gideon ar hyd llwybr y preswylwyr pebyll, o'r tu dwyrain i Noba a Jogbeha, a tharo'r fyddin yn annisgwyl.
12Zebah and Zalmunna fled; and he pursued after them; and he took the two kings of Midian, Zebah and Zalmunna, and confused all the army.
12 Ffodd Seba a Salmunna, ond aeth Gideon ar eu h�l, a dal dau frenin Midian a gwasgaru'r holl fyddin mewn braw.
13Gideon the son of Joash returned from the battle from the ascent of Heres.
13 Fel yr oedd Gideon fab Joas yn dychwelyd o'r frwydr heibio i allt Heres,
14He caught a young man of the men of Succoth, and inquired of him: and he described for him the princes of Succoth, and its elders, seventy-seven men.
14 daliodd un o fechgyn Succoth; wedi iddo'i holi, ysgrifennodd hwnnw iddo restr yn cynnwys saith deg a saith o arweinwyr a henuriaid Succoth.
15He came to the men of Succoth, and said, “See Zebah and Zalmunna, concerning whom you taunted me, saying, ‘Are the hands of Zebah and Zalmunna now in your hand, that we should give bread to your men who are weary?’”
15 Pan ddaeth at bobl Succoth, dywedodd, "Dyma Seba a Salmunna, y buoch yn eu dannod imi, gan ofyn, 'A wyt eisoes yn cydio yn sodlau Seba a Salmunna, fel ein bod i roi bwyd i'th ddynion lluddedig?'"
16He took the elders of the city, and thorns of the wilderness and briers, and with them he taught the men of Succoth.
16 Yna cymerodd henuriaid y dref, a dysgodd wers i bobl Succoth � drain a mieri'r anialwch.
17He broke down the tower of Penuel, and killed the men of the city.
17 Tynnodd i lawr du373?r Penuel, a lladdodd bobl y dref.
18Then he said to Zebah and Zalmunna, “What kind of men were they whom you killed at Tabor?” They answered, “They were like you. Each one resembled the children of a king.”
18 Pan holodd ef Seba a Salmunna, "Sut rai oedd y dynion a laddasoch yn Tabor?", eu hateb oedd: "Yr oedd pob un ohonynt yr un ffunud � thi, yn edrych fel plant brenin."
19He said, “They were my brothers, the sons of my mother. As Yahweh lives, if you had saved them alive, I would not kill you.”
19 Ac meddai Gideon, "Fy mrodyr i oeddent, meibion fy mam. Cyn wired � bod yr ARGLWYDD yn fyw, pe byddech wedi eu harbed, ni fyddwn yn eich lladd."
20He said to Jether his firstborn, “Get up, and kill them!” But the youth didn’t draw his sword; for he was afraid, because he was yet a youth.
20 Yna dywedodd wrth Jether ei gyntafanedig, "Dos, lladd hwy." Ond ni thynnodd y llanc ei gleddyf oherwydd yr oedd arno ofn, gan nad oedd ond llanc.
21Then Zebah and Zalmunna said, “Rise and fall on us; for as the man is, so is his strength.” Gideon arose, and killed Zebah and Zalmunna, and took the crescents that were on their camels’ necks.
21 Yna dywedodd Seba a Salmunna, "Tyrd, taro ni dy hun, oherwydd fel y mae dyn y mae ei nerth." Felly cododd Gideon a lladd Seba a Salmunna, a chymryd y tlysau oedd am yddfau eu camelod.
22Then the men of Israel said to Gideon, “Rule over us, both you, and your son, and your son’s son also; for you have saved us out of the hand of Midian.”
22 Yna dywedodd yr Israeliaid wrth Gideon, "Llywodraetha di arnom, ti a'th fab a mab dy fab, am iti ein gwaredu o law Midian."
23Gideon said to them, “I will not rule over you, neither shall my son rule over you. Yahweh shall rule over you.”
23 Dywedodd Gideon wrthynt, "Nid myfi na'm mab fydd yn llywodraethu arnoch; yr ARGLWYDD fydd yn llywodraethu arnoch."
24Gideon said to them, “I would make a request of you, that you would give me every man the earrings of his spoil.” (For they had golden earrings, because they were Ishmaelites.)
24 Yna meddai Gideon, "Gadewch imi ofyn un peth gennych, sef bod pob un yn rhoi imi glustlws o'i ysbail." Yr oedd ganddynt glustlysau aur am mai Ismaeliaid oeddent.
25They answered, “We will willingly give them.” They spread a garment, and every man threw the earrings of his spoil into it.
25 Dywedasant hwythau, "Fe'u rhown � chroeso." Ac wedi iddynt daenu clogyn, taflodd pob un arno glustlws a gafodd yn ysbail.
26The weight of the golden earrings that he requested was one thousand and seven hundred shekels of gold, besides the crescents, and the pendants, and the purple clothing that was on the kings of Midian, and besides the chains that were about their camels’ necks.
26 Yr oedd y clustlysau aur y gofynnodd amdanynt yn pwyso mil a saith gant o siclau aur, heb gyfrif y tlysau a'r torchau a'r gwisgoedd porffor oedd gan frenhinoedd Midian, a'r coleri oedd am yddfau'r camelod.
27Gideon made an ephod of it, and put it in his city, even in Ophrah: and all Israel played the prostitute after it there; and it became a snare to Gideon, and to his house.
27 Gwnaeth Gideon effod ohonynt a'i osod yn ei dref ei hun, Offra. Aeth Israel gyfan i buteinio ar ei �l yno, a bu'n dramgwydd i Gideon ac i'w deulu.
28So Midian was subdued before the children of Israel, and they lifted up their heads no more. The land had rest forty years in the days of Gideon.
28 Felly cafodd Midian ei darostwng gan yr Israeliaid, fel na allai godi ei phen rhagor; a chafodd y wlad lonydd am ddeugain mlynedd yn nyddiau Gideon.
29Jerubbaal the son of Joash went and lived in his own house.
29 Aeth Jerwbbaal fab Joas yn �l i fyw gartref.
30Gideon had seventy sons conceived from his body; for he had many wives.
30 Yr oedd gan Gideon ddeg a thrigain o feibion; ei blant ei hun oeddent, oherwydd yr oedd llawer o wragedd ganddo.
31His concubine who was in Shechem, she also bore him a son, and he named him Abimelech.
31 Hefyd cafodd fab o'i ordderch oedd yn Sichem, ac enwodd ef Abimelech.
32Gideon the son of Joash died in a good old age, and was buried in the tomb of Joash his father, in Ophrah of the Abiezrites.
32 Bu farw Gideon fab Joas mewn gwth o oedran, a chladdwyd ef ym medd ei dad Joas yn Offra'r Abiesriaid.
33It happened, as soon as Gideon was dead, that the children of Israel turned again, and played the prostitute after the Baals, and made Baal Berith their god.
33 Wedi marw Gideon aeth yr Israeliaid unwaith eto i buteinio ar �l y Baalim, a chymryd Baal-berith yn dduw iddynt.
34The children of Israel didn’t remember Yahweh their God, who had delivered them out of the hand of all their enemies on every side;
34 Ni chofiodd yr Israeliaid yr ARGLWYDD eu Duw, a'u gwaredodd o afael yr holl elynion o'u hamgylch,
35neither did they show kindness to the house of Jerubbaal, Gideon, according to all the goodness which he had shown to Israel.
35 na dangos teyrngarwch i deulu Jerwbbaal, sef Gideon, am yr holl ddaioni a wnaeth i Israel.