World English Bible

Welsh

Proverbs

18

1An unfriendly man pursues selfishness, and defies all sound judgment.
1 Y mae'r un sy'n cadw ar wah�n yn ceisio cweryl, ac yn ymosod ar bob cynllun.
2A fool has no delight in understanding, but only in revealing his own opinion.
2 Nid yw'r ynfyd yn ymhyfrydu mewn deall, dim ond mewn mynegi ei feddwl ei hun.
3When wickedness comes, contempt also comes, and with shame comes disgrace.
3 Yn dilyn drygioni fe ddaw dirmyg, a gwarth ar �l amarch.
4The words of a man’s mouth are like deep waters. The fountain of wisdom is like a flowing brook.
4 Y mae geiriau yn ddyfroedd dyfnion, yn ffrwd yn byrlymu, yn ffynnon doethineb.
5To be partial to the faces of the wicked is not good, nor to deprive the innocent of justice.
5 Nid da yw dangos ffafr tuag at y drygionus, i amddifadu'r cyfiawn o farn.
6A fool’s lips come into strife, and his mouth invites beatings.
6 Y mae genau'r ynfyd yn arwain at gynnen, a'i eiriau yn gofyn am gurfa.
7A fool’s mouth is his destruction, and his lips are a snare to his soul.
7 Genau'r ynfyd yw ei ddinistr, ac y mae ei eiriau yn fagl iddo'i hun.
8The words of a gossip are like dainty morsels: they go down into a person’s innermost parts.
8 Y mae geiriau'r straegar fel danteithion sy'n mynd i lawr i'r cylla.
9One who is slack in his work is brother to him who is a master of destruction.
9 Y mae'r diog yn ei waith yn frawd i'r un sy'n dwyn dinistr.
10The name of Yahweh is a strong tower: the righteous run to him, and are safe.
10 Y mae enw'r ARGLWYDD yn du373?r cadarn; rhed y cyfiawn ato ac y mae'n ddiogel.
11The rich man’s wealth is his strong city, like an unscalable wall in his own imagination.
11 Golud y cyfoethog yw ei ddinas gadarn, ac y mae fel mur cryf yn ei dyb ei hun.
12Before destruction the heart of man is proud, but before honor is humility.
12 Cyn dyfod dinistr, y mae'r galon yn falch, ond daw gostyngeiddrwydd o flaen anrhydedd.
13He who gives answer before he hears, that is folly and shame to him.
13 Y mae'r un sy'n ateb cyn gwrando yn dangos ffolineb ac amarch.
14A man’s spirit will sustain him in sickness, but a crushed spirit, who can bear?
14 Gall ysbryd rhywun ei gynnal yn ei afiechyd, ond os yw'r ysbryd yn isel, pwy a'i cwyd?
15The heart of the discerning gets knowledge. The ear of the wise seeks knowledge.
15 Y mae meddwl deallus yn ennill gwybodaeth, a chlust y doeth yn chwilio am ddeall.
16A man’s gift makes room for him, and brings him before great men.
16 Y mae rhodd rhywun yn agor drysau iddo, ac yn ei arwain at y mawrion.
17He who pleads his cause first seems right; until another comes and questions him.
17 Y mae'r cyntaf i ddadlau ei achos yn ymddangos yn gyfiawn, nes y daw ei wrthwynebwr a'i groesholi.
18The lot settles disputes, and keeps strong ones apart.
18 Rhydd y coelbren derfyn ar gwerylon, ac y mae'n dyfarnu rhwng y cedyrn.
19A brother offended is more difficult than a fortified city; and disputes are like the bars of a castle.
19 Y mae brawd a dramgwyddwyd fel caer gadarn, a chwerylon fel bollt castell.
20A man’s stomach is filled with the fruit of his mouth. With the harvest of his lips he is satisfied.
20 O ffrwyth ei enau y digonir cylla pob un, a chynnyrch ei wefusau sy'n ei ddiwallu.
21Death and life are in the power of the tongue; those who love it will eat its fruit.
21 Y mae'r tafod yn gallu rhoi marwolaeth neu fywyd, ac y mae'r rhai sy'n ei hoffi yn bwyta'i ffrwyth.
22Whoever finds a wife finds a good thing, and obtains favor of Yahweh.
22 Y sawl sy'n cael gwraig sy'n cael daioni ac yn ennill ffafr gan yr ARGLWYDD.
23The poor plead for mercy, but the rich answer harshly.
23 Y mae'r tlawd yn siarad yn ymbilgar, ond y cyfoethog yn ateb yn arw.
24A man of many companions may be ruined, but there is a friend who sticks closer than a brother.
24 Honni eu bod yn gyfeillion a wna rhai; ond ceir hefyd gyfaill sy'n glynu'n well na brawd.