1Hear us, Shepherd of Israel, you who lead Joseph like a flock, you who sit above the cherubim, shine forth.
1 1 I'r Cyfarwyddwr: ar Lil�au. Tystiolaeth. I Asaff. Salm.0 Gwrando, O fugail Israel, sy'n arwain Joseff fel diadell.
2Before Ephraim and Benjamin and Manasseh, stir up your might! Come to save us!
2 Ti sydd wedi dy orseddu ar y cerwbiaid, disgleiria i Effraim, Benjamin a Manasse. Gwna i'th nerth gyffroi, a thyrd i'n gwaredu.
3Turn us again, God. Cause your face to shine, and we will be saved.
3 Adfer ni, O Dduw; bydded llewyrch dy wyneb arnom, a gwareder ni.
4Yahweh God of Armies, How long will you be angry against the prayer of your people?
4 O ARGLWYDD Dduw y Lluoedd, am ba hyd y byddi'n ddig wrth wedd�au dy bobl?
5You have fed them with the bread of tears, and given them tears to drink in large measure.
5 Yr wyt wedi eu bwydo � bara dagrau, a'u diodi � mesur llawn o ddagrau.
6You make us a source of contention to our neighbors. Our enemies laugh among themselves.
6 Gwnaethost ni'n ddirmyg i'n cymdogion, ac y mae ein gelynion yn ein gwawdio.
7Turn us again, God of Armies. Cause your face to shine, and we will be saved.
7 O Dduw'r Lluoedd, adfer ni; bydded llewyrch dy wyneb arnom, a gwareder ni.
8You brought a vine out of Egypt. You drove out the nations, and planted it.
8 Daethost � gwinwydden o'r Aifft; gyrraist allan genhedloedd er mwyn ei phlannu;
9You cleared the ground for it. It took deep root, and filled the land.
9 cliriaist y tir iddi; magodd hithau wreiddiau a llenwi'r tir.
10The mountains were covered with its shadow. Its boughs were like God’s cedars.
10 Yr oedd ei chysgod yn gorchuddio'r mynyddoedd, a'i changau fel y cedrwydd cryfion;
11It sent out its branches to the sea, Its shoots to the River.
11 estynnodd ei brigau at y m�r, a'i blagur at yr afon.
12Why have you broken down its walls, so that all those who pass by the way pluck it?
12 Pam felly y bylchaist ei chloddiau, fel bod y rhai sy'n mynd heibio yn tynnu ei ffrwyth?
13The boar out of the wood ravages it. The wild animals of the field feed on it.
13 Y mae baedd y goedwig yn ei thyrchu, ac anifeiliaid gwyllt yn ei phori.
14Turn again, we beg you, God of Armies. Look down from heaven, and see, and visit this vine,
14 O Dduw'r Lluoedd, tro eto, edrych i lawr o'r nefoedd a gw�l, gofala am y winwydden hon,
15the stock which your right hand planted, the branch that you made strong for yourself.
15 y planhigyn a blennaist �'th ddeheulaw, y gainc yr wyt yn ei chyfnerthu.
16It’s burned with fire. It’s cut down. They perish at your rebuke.
16 Bydded i'r rhai sy'n ei llosgi � th�n ac yn ei thorri i lawr gael eu difetha gan gerydd dy wynepryd.
17Let your hand be on the man of your right hand, on the son of man whom you made strong for yourself.
17 Ond bydded dy law ar y sawl sydd ar dy ddeheulaw, ar yr un yr wyt ti'n ei gyfnerthu.
18So we will not turn away from you. Revive us, and we will call on your name.
18 Ni thrown oddi wrthyt mwyach; adfywia ni, ac fe alwn ar dy enw.
19Turn us again, Yahweh God of Armies. Cause your face to shine, and we will be saved.
19 ARGLWYDD Dduw y Lluoedd, adfer ni; bydded llewyrch dy wyneb arnom, a gwareder ni.