1 Ymladdodd y Philistiaid yn erbyn yr Israeliaid, a ffodd yr Israeliaid rhagddynt gan syrthio'n glwyfedig ar Fynydd Gilboa. 2 Daliodd y Philistiaid Saul a'i feibion, a lladd Jonathan, Abinadab a Malcisua, meibion Saul. 3 Aeth y frwydr yn galed yn erbyn Saul, a daeth saethwyr o hyd iddo a'i glwyfo. 4 Yna dywedodd Saul wrth ei gludydd arfau, "Tyn dy gleddyf a thrywana fi, rhag i'r rhai dienwaededig hyn ddod a'm gwaradwyddo." Nid oedd ei gludydd arfau yn fodlon, oherwydd yr oedd ofn mawr arno; felly cymerodd Saul y cleddyf a syrthio arno. 5 Pan welodd y cludydd arfau fod Saul wedi marw, syrthiodd yntau ar ei gleddyf a marw. 6 Felly bu farw Saul a'i dri mab, ei holl deulu yn marw yr un pryd. 7 Pan welodd yr holl Israeliaid oedd yn y dyffryn fod y fyddin wedi ffoi, a bod Saul a'i feibion wedi marw, gadawsant eu trefi a ffoi; yna daeth y Philistiaid a byw ynddynt. 8 Trannoeth, pan ddaeth y Philistiaid i ysbeilio'r lladdedigion, cawsant Saul a'i feibion yn farw ar Fynydd Gilboa. 9 Wedi iddynt ei ysbeilio torasant ei ben a chymryd ei arfau oddi arno, ac anfon neges drwy Philistia i gyhoeddi'r newydd da i'w delwau ac i'r bobl. 10 Rhoesant ei arfau yn nheml eu duwiau, a chrogi ei benglog yn nheml Dagon. 11 Pan glywodd pobl Jabes-gilead y cwbl yr oedd y Philistiaid wedi ei wneud i Saul, 12 aeth yr holl ryfelwyr allan ar unwaith a chymryd corff Saul a chyrff ei feibion, a'u cludo i Jabes a chladdu eu hesgyrn dan y dderwen yno, ac ymprydio am saith diwrnod. 13 Bu Saul farw am iddo fradychu'r ARGLWYDD trwy anufuddhau i'w air, a throi at ddewiniaeth am arweiniad yn lle ceisio arweiniad gan yr ARGLWYDD. 14 Felly lladdodd yr ARGLWYDD ef a rhoi'r frenhiniaeth i Ddafydd fab Jesse.