Welsh

1 Chronicles

9

1 Rhifwyd holl Israel wrth eu hachau, ac y maent yn awr yn ysgrifenedig yn llyfr brenhinoedd Israel, ond cafodd Jwda ei chaethgludo i Fabilon am ei chamwedd. 2 Y rhai cyntaf i ddod i fyw yn eu tiriogaeth a'u trefi eu hunain oedd yr Israeliaid, yn offeiriaid, Lefiaid a gweision y deml. 3 Dyma'r rhai o lwyth Jwda, o lwyth Benjamin ac o lwyth Effraim a Manasse, oedd yn byw yn Jerwsalem: 4 O lwyth Jwda: Uthai fab Ammihud, fab Omri, fab Imri, fab Bani, o feibion Phares fab Jwda; 5 ac o'r Siloniaid: Asaia y cyntafanedig, a'i feibion; 6 ac o feibion Sera: Jeuel. Yr oeddent yn chwe chant a deg a phedwar ugain. 7 O lwyth Benjamin: Salu fab Mesulam, fab Hodafia, fab Hasenua; 8 Ibneia fab Meroham, Ela fab Ussi, fab Michri: Mesulam fab Seffatia, fab Reuel, fab Ibnija; 9 yn �l rhestrau eu teuluoedd yr oeddent yn naw cant a deg a deugain a chwech. Yr oeddent i gyd yn bennau-teuluoedd. 10 O'r offeiriaid: Jedaia, Jehoiarib, Jachin, 11 Asareia fab Hilceia, fab Mesulam, fab Sadoc, fab Meraioth, fab Ahitub, arolygwr tu375? Dduw; 12 Adaia fab Jeroham, fab Passur, fab Malcheia; Maasia fab Adiel, fab Jasera, fab Mesulam, fab Mesilemith, fab Immer. 13 Ac yr oedd eu brodyr, eu pennau-teuluoedd, yn fil saith gant chwe deg, dynion abl ar gyfer y gwaith o wasanaethu yn nhu375? Dduw. 14 O'r Lefiaid: Semaia fab Hassub, fab Asricam, fab Hasabeia, o feibion Merari; 15 Bacbaccar, Heres, Galal, Mataneia fab Micha, fab Sichri, fab Asaff; 16 Obadeia fab Semaia, fab Galal, fab Jeduthun; Berecheia fab Asa, fab Elcana, oedd yn byw yn nhrefi'r Netoffathiaid. 17 o'r porthorion: Salum, Accub, Talmon, Ahiman, a'u brodyr; Salum oedd y pennaeth. 18 Hyd at yr amser hwnnw porthorion oeddent yng ngwersylloedd y Lefiaid wrth ymyl porth y brenin i'r dwyrain. 19 Salum fab Core, fab Ebiasaff, fab Cora, a'i frodyr y Corahiaid o du375? ei dad, oedd yn gyfrifol am y gwasanaeth o gadw trothwy'r babell, fel yr oedd eu tadau yn geidwaid y fynedfa i wersyll yr ARGLWYDD. 20 Phinees fab Eleasar oedd eu harolygwr, ac yr oedd yr ARGLWYDD gydag ef. 21 Sechareia fab Maselmeia oedd ceidwad drws pabell y cyfarfod. 22 Yr oedd cyfanswm y rhai oedd wedi eu dethol i fod yn borthorion wrth y trothwy yn ddau gant a deuddeg, wedi eu cofrestru yn �l eu pentrefi. Dafydd a Samuel y gweledydd oedd wedi eu gosod yn eu swydd. 23 Yr oedd-ent hwy a'u meibion yn cadw gwyliadwriaeth wrth byrth tu375?'r ARGLWYDD a thu375?'r babell. 24 Yr oedd y porthorion i fod ar bedair ochr, y dwyrain, y gorllewin, y gogledd a'r de. 25 Yr oedd eu brodyr o'r pentrefi i ddod atynt am wythnos bob hyn a hyn. 26 Am eu bod yn ddibynadwy, Lefiaid oedd y pedwar prif borthor, a hwy oedd yn gofalu am ystafelloedd a thrysorau tu375? Dduw. 27 Yr oeddent yn lletya o gwmpas tu375? Dduw am mai hwy oedd yn gofalu amdano ac yn ei agor bob bore. 28 Yr oedd rhai ohonynt yn gofalu am lestri'r gwasanaeth; yr oeddent yn eu cyfrif wrth eu cario allan ac wrth eu cadw. 29 Yr oedd eraill yn gofalu am ddodrefn a llestri'r cysegr, y peilliaid, y gwin, yr olew, y thus a'r perlysiau. 30 Yr oedd rhai o feibion yr offeiriaid yn gwneud ennaint gyda pheraroglau. 31 Am ei fod yn ddibynadwy, yr oedd Matitheia, un o'r Lefiaid a mab cyntafanedig Salum y Corahiad, yn gweithio wrth y radell. 32 Yr oedd rhai o'u brodyr y Cohathiaid yn gyfrifol am ddarparu'r bara gosod bob Saboth. 33 Dyma'r cantorion, pennau-teuluoedd y Lefiaid, a oedd mewn ystafelloedd ar wah�n am eu bod wrth eu gwaith ddydd a nos. 34 Dyma bennau-teuluoedd y Lefiaid, a oedd yn byw yn Jerwsalem, yn �l eu rhestrau. 35 Yr oedd Jehiel tad Gibeon yn byw yn Gibeon; enw ei wraig oedd Maacha, 36 a'i gyntafanedig Abdon, ac yna Sur, Cis, Baal, Ner, Nadab, 37 Gedor, Ah�o, Sechareia a Micloth; 38 Micloth oedd tad Simeam. Yr oeddent hwy yn byw yn Jerwsalem yn ymyl eu brodyr. 39 Ner oedd tad Cis, a Cis oedd tad Saul, a Saul oedd tad Jonathan, Malcisua, Abinadab ac Esbaal. 40 Mab Jonathan oedd Meribaal; a Meribaal oedd tad Micha. 41 Meibion Micha: Pithon, Melech, Tarea ac Ahas. 42 Ahas oedd tad Jara, a Jara oedd tad Alemeth, Asmafeth a Simri; a Simri oedd tad Mosa; 43 Mosa oedd tad Binea; a Reffaia oedd ei fab ef, Elasa ei fab yntau, Asel ei fab yntau. 44 Yr oedd gan Asel chwech o feibion, a'u henwau oedd: Asricam, Bocheru, Ismael, Seareia, Obadeia a Hanan. Hwy oedd meibion Asel.