Welsh

1 Chronicles

16

1 Daethant ag arch Duw a'i gosod yng nghanol y babell a gododd Dafydd iddi, ac aberthu poethoffrymau a heddoffrymau o flaen Duw. 2 Wedi iddo orffen aberthu'r poethoffrwm a'r heddoffrymau, bendithiodd Dafydd y bobl yn enw'r ARGLWYDD, 3 a rhannodd i bob un o'r Israeliaid, yn wu375?r a gwragedd, dorth o fara, darn o gig a swp o rawnwin. 4 Penododd rai o'r Lefiaid i wasanaethu o flaen arch yr ARGLWYDD, i goff�u a moliannu a chlodfori ARGLWYDD Dduw Israel: 5 Asaff yn gyntaf, ac ar ei �l ef Sechareia, Jeiel, Semiramoth, Jehiel, Matitheia, Eliab, Benaia ac Obed-edom. Yr oedd gan Jeiel nablau a thelynau, ac yr oedd Asaff yn canu'r symbalau. 6 Yr oedd yr offeiriaid Benaia a Jahasiel i chwythu trwmpedau yn barhaus o flaen arch cyfamod Duw. 7 Y pryd hwnnw y rhoddodd Dafydd am y tro cyntaf i Asaff a'i frodyr y moliant hwn i'r ARGLWYDD: 8 Diolchwch i'r ARGLWYDD! Galwch ar ei enw, gwnewch yn hysbys ei weithredoedd ymysg y bobloedd. 9 Canwch iddo, moliannwch ef, dywedwch am ei holl ryfeddodau. 10 Gorfoleddwch yn ei enw sanctaidd, llawenhaed calon y rhai sy'n ceisio'r ARGLWYDD. 11 Ceisiwch yr ARGLWYDD a'i nerth, ceisiwch ei wyneb bob amser. 12 Cofiwch y rhyfeddodau a wnaeth, ei wyrthiau a'r barnedigaethau a gyhoeddodd, 13 chwi ddisgynyddion Israel, ei was, chwi blant Jacob, ei etholedig. 14 Ef yw'r ARGLWYDD ein Duw, ac y mae ei farnedigaethau dros yr holl ddaear. 15 Cofiwch ei gyfamod dros byth, gair ei orchymyn hyd fil o genedlaethau, 16 sef y cyfamod a wnaeth ag Abraham, a'i lw i Isaac, 17 yr hyn a osododd yn ddeddf i Jacob, ac yn gyfamod tragwyddol i Israel, 18 a dweud, "I chwi y rhoddaf wlad Canaan yn gyfran eich etifeddiaeth." 19 Pan oeddech yn fychan o rif, yn ychydig, ac yn grwydriaid yn y wlad, 20 yn crwydro o genedl i genedl, ac o un deyrnas at bobl eraill, 21 ni adawodd i neb eich darostwng, ond ceryddodd frenhinoedd o'ch achos, 22 a dweud, "Peidiwch � chyffwrdd �'m heneiniog, na gwneud niwed i'm proffwydi." 23 Canwch i'r ARGLWYDD, yr holl ddaear, cyhoeddwch o ddydd i ddydd ei iachawdwriaeth. 24 Dywedwch am ei ogoniant ymysg y bobloedd, ac am ei ryfeddodau ymysg yr holl genhedloedd. 25 Oherwydd mawr yw'r ARGLWYDD, a theilwng iawn o fawl; y mae i'w ofni'n fwy na'r holl dduwiau. 26 Eilunod yw holl dduwiau'r bobloedd, ond yr ARGLWYDD a wnaeth y nefoedd. 27 Y mae anrhydedd a mawredd o'i flaen, nerth a llawenydd yn ei fangre ef. 28 Rhowch i'r ARGLWYDD, dylwythau'r cenhedloedd, rhowch i'r ARGLWYDD anrhydedd a nerth; 29 rhowch i'r ARGLWYDD anrhydedd ei enw, dygwch offrwm a dewch o'i flaen. Ymgrymwch i'r ARGLWYDD yn ysblander ei sancteiddrwydd. 30 Crynwch o'i flaen, yr holl ddaear; yn awr y mae'r byd yn sicr, ac nis symudir. 31 Bydded y nefoedd yn llawen a gorfoledded y ddaear, a dywedent ymhlith y cenhedloedd, "Y mae'r ARGLWYDD yn frenin." 32 Rhued y m�r a'r cyfan sydd ynddo, llawenyched y maes a phopeth sydd ynddo. 33 Yna bydd prennau'r goedwig yn canu'n llawen o flaen yr ARGLWYDD, oherwydd y mae'n dod i farnu'r ddaear. 34 Diolchwch i'r ARGLWYDD, oherwydd da yw, ac y mae ei gariad hyd byth. 35 Dywedwch, "Achub ni, O Dduw ein hiachawdwriaeth; cynnull ni ac arbed ni o blith y cenhedloedd, inni gael rhoi diolch i'th enw sanctaidd ac ymhyfrydu yn dy fawl." 36 Bendigedig fyddo'r ARGLWYDD, Duw Israel, o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb. A dywedodd yr holl bobl, "Amen", a moli'r ARGLWYDD. 37 A gadawodd Dafydd Asaff a'i frodyr o flaen arch cyfamod yr ARGLWYDD i wasanaethu yno'n barhaol yn �l gofynion pob dydd. 38 Gadawodd yno hefyd Obed-edom gyda'i wyth brawd a thrigain; Obed-edom fab Jeduthun, a Hosa, oedd i fod yn borthorion. 39 Ond gadawodd ef Sadoc yr offeiriad, a'i frodyr yr offeiriaid, o flaen tabernacl yr ARGLWYDD yn yr uchelfa yn Gibeon, 40 i aberthu poethoffrymau i'r ARGLWYDD ar allor y poethoffrwm yn gyson fore a hwyr fel sy'n ysgrifenedig yng nghyfraith yr ARGLWYDD, a orchmynnodd ef i Israel. 41 Gyda hwy yr oedd Heman, Jeduthun a'r rhai eraill oedd wedi eu hethol a'u henwi i foliannu'r ARGLWYDD am fod ei gariad hyd byth. 42 Heman a Jeduthun oedd yn gofalu am yr trwmpedau a'r symbalau a'r offerynnau cerdd cysegredig ar gyfer y cantorion. A meibion Jeduthun oedd yn gofalu am y porth. 43 Yna aeth pawb adref a dychwelodd Dafydd i gyfarch ei deulu.