1 Wedi i Ddafydd fynd i fyw i'w du375? ei hun, dywedodd wrth y proffwyd Nathan, "Edrych yn awr, yr wyf fi'n byw mewn tu375? o gedrwydd, tra bo arch cyfamod yr ARGLWYDD mewn pabell." 2 Ac meddai Nathan wrth Ddafydd, "Dos, a gwna bopeth sydd yn dy galon, oherwydd y mae Duw gyda thi." 3 Ond y noson honno daeth gair Duw at Nathan, gan ddweud, 4 "Dos, dywed wrth fy ngwas Dafydd, 'Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Ni chei di adeiladu i mi du375? i breswylio ynddo. 5 Yn wir, nid wyf wedi preswylio mewn tu375? o'r diwrnod y dygais Israel allan o'r Aifft hyd heddiw; yr oeddwn yn mynd o babell i babell ac o un tabernacl i'r llall. 6 Ple bynnag y b�m yn teithio gyda holl Israel, a fu imi yngan gair wrth unrhyw un o farnwyr Israel, a benodais i fugeilio fy mhobl, a gofyn, "Pam na fyddech wedi adeiladu tu375? o gedrwydd i mi?"' 7 Felly dywed wrth fy ngwas Dafydd, 'Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: Myfi a'th gymerodd di o'r maes, o ganlyn defaid, i fod yn arweinydd i'm pobl Israel. 8 Yr oeddwn gyda thi ple bynnag yr aethost, a dinistriais dy holl elynion o'th flaen, a gwneud iti enw mawr fel eiddo'r mawrion a fu ar y ddaear. 9 Ac yr wyf am baratoi lle i'm pobl Israel, a'u plannu, iddynt gael ymsefydlu yno heb eu tarfu rhagor; ac ni fydd treiswyr yn eu cystuddio eto, fel yn yr adeg gynt, 10 pan benodais farnwyr dros fy mhobl Israel; darostyngaf dy holl elynion. Yr wyf yn dy hysbysu mai yr ARGLWYDD fydd yn adeiladu tu375? i ti. 11 Pan ddaw dy ddyddiau i ben, ac yn amser iti farw, codaf blentyn iti ar dy �l, un yn hanu o'th feibion, a gwnaf ei deyrnas yn gadarn. 12 Ef fydd yn adeiladu tu375? i mi, a gwnaf finnau ei orsedd yn gadarn am byth. 13 Byddaf fi'n dad iddo ef, a bydd yntau'n fab i mi, ac ni chymeraf fy nhrugaredd oddi wrtho, fel y cymerais hi oddi wrth yr un oedd o'th flaen di. 14 Gosodaf ef yn fy nhu375? ac yn fy nheyrnas am byth; erys ei orsedd yn gadarn hyd byth.'" 15 Dywedodd Nathan wrth Ddafydd y cwbl a ddywedwyd ac a ddangoswyd iddo ef. 16 Yna fe aeth y Brenin Dafydd i mewn ac eistedd o flaen yr ARGLWYDD a dweud, "Pwy wyf fi, O Arglwydd DDUW, a phwy yw fy nheulu, dy fod wedi dod � mi hyd yma? 17 Ac fel pe byddai hyn eto'n beth bychan yn d'olwg, O Dduw, yr wyt hefyd wedi llefaru ynglu375?n � theulu dy was ar gyfer y dyfodol pell, a'm hystyried i'n llinach o ddynion dyrchafedig, O Arglwydd DDUW. 18 Beth rhagor y medraf fi, Dafydd, ei ddweud wrthyt am anrhydeddu dy was, a thithau yn ei adnabod? 19 O ARGLWYDD, er mwyn dy was, ac yn �l dy ewyllys dy hun, y gwnaethost yr holl fawredd hwn a hysbysu'r holl fawrion bethau. 20 O ARGLWYDD, ni chlywodd ein clustiau am neb tebyg i ti, nac am un duw ar wah�n i ti. Pa genedl arall ar y ddaear sydd fel dy bobl Israel? 21 Rhyddhaodd Duw hi i fod yn bobl iddo'i hun ac i ennill bri, a gwneud pethau mawr ac ofnadwy trwy fwrw allan genhedloedd o flaen dy bobl, y rhai a brynaist o'r Aifft. 22 Gwnaethost dy bobl Israel i fod yn bobl i ti hyd byth; a daethost tithau, O ARGLWYDD, yn Dduw iddynt hwy. 23 Yn awr, O ARGLWYDD, bydded i'r addewid a wnaethost ynglu375?n �'th was a'i deulu sefyll am byth, a gwna fel y dywedaist. 24 Bydded iddi sefyll fel y mawrheir dy enw hyd byth, ac y dywedir, 'ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel, sydd Dduw ar Israel'; a bydd tu375? dy was Dafydd yn sicr ger dy fron. 25 Am i ti, O fy Nuw, ddatgelu i'th was y byddit yn adeiladu tu375? iddo, fe fentrodd dy was wedd�o arnat. 26 Yn awr, O ARGLWYDD, ti sydd Dduw, ac fe addewaist ti y daioni hwn i'th was. 27 Felly'n awr, gw�l yn dda fendithio tu375? dy was, fel y caiff barhau am byth yn dy u373?ydd; am i ti, ARGLWYDD, ei fendithio, bendigedig fydd hyd byth."