Welsh

1 Chronicles

23

1 Wedi i Ddafydd fynd yn hen a chyrraedd oedran teg, fe wnaeth Solomon ei fab yn frenin ar Israel. 2 Yna fe gasglodd ynghyd holl arweinwyr Israel, a'r offeiriaid a'r Lefiaid. 3 Rhifwyd y Lefiaid a oedd yn ddeg ar hugain oed a throsodd, a'r cyfanrif oedd deunaw mil ar hugain. 4 o'r rhain yr oedd pedair mil ar hugain i arolygu'r gwaith yn nhu375?'r ARGLWYDD, chwe mil i fod yn swyddogion ac yn farnwyr, 5 pedair mil yn borthorion, a phedair mil i foli'r ARGLWYDD �'r offerynnau mawl a wnaeth Dafydd. 6 Rhannodd Dafydd hwy yn ddosbarthiadau yn �l meibion Lefi, sef Gerson, Cohath a Merari. 7 Meibion Gerson: Ladan a Simei. 8 Meibion Ladan: Jehiel yn gyntaf, yna Setham a Joel, tri. 9 Meibion Simei: Selomith, Hasiel a Haran, tri. Y rhain oedd pennau-teuluoedd Ladan. 10 Meibion Simei: Jahath, Sisa, Jeus a Bereia. Dyma bedwar mab Simei, 11 Jahath yn gyntaf a Sisa yn ail; ond nid oedd gan Jeus a Bereia lawer o feibion, felly cyfrifwyd hwy fel un teulu. 12 Meibion Cohath: Amram, Ishar, Hebron ac Ussiel, pedwar. 13 Meibion Amram: Aaron a Moses. Cafodd Aaron a'i feibion eu neilltuo am byth i sancteiddio'r cysegr sancteiddiaf ac i arogldarthu gerbron yr ARGLWYDD, i'w wasanaethu ac i fendithio yn ei enw dros byth. 14 Ond yr oedd meibion Moses, gu373?r Duw, i'w cyfrif ymhlith llwyth Lefi. 15 Meibion Moses: Gersom ac Elieser. 16 Meibion Gersom: Sebuel yn gyntaf. 17 Meibion Elieser: Rehabia yn gyntaf; nid oedd ganddo feibion eraill, ond yr oedd meibion Rehabia yn niferus iawn. 18 Meibion Ishar: Selomith yn gyntaf. 19 Meibion Hebron: Jereia yn gyntaf, Amareia yn ail, Jahasiel yn drydydd a Jecameam yn bedwerydd. 20 Meibion Ussiel: Micha yn gyntaf a Jeseia yn ail. 21 Meibion Merari: Mahli a Musi. Meibion Mahli: Eleasar a Cis. 22 Bu farw Eleasar; nid oedd ganddo feibion, dim ond merched, a phriododd eu cefndyr, meibion Cis, � hwy. 23 Meibion Musi: Mahli, Eder a Jerimoth, tri. 24 Dyma feibion Lefi yn �l eu teuluoedd, a dyma'r pennau-teuluoedd yn �l eu swyddi ac wedi eu rhifo fesul un wrth eu henwau; yr oedd pob un ugain oed a throsodd i ofalu am waith tu375?'r ARGLWYDD, 25 oherwydd i Ddafydd ddweud, "Am fod yr ARGLWYDD, Duw Israel, wedi rhoi diogelwch i'w bobl, ac wedi dod i breswylio yn Jerwsalem am byth, 26 nid oes rhaid mwyach i'r Lefiaid gario'r tabernacl na'r holl offer sydd ar ei gyfer." 27 Yn �l geiriau olaf Dafydd yr oedd y Lefiaid ugain oed a throsodd i'w rhifo. 28 Eu dyletswydd oedd cynorthwyo meibion Aaron yng ngwasanaeth tu375?'r ARGLWYDD, gofalu am y cynteddau a'r ystafelloedd, puro popeth sanctaidd ac ymgymryd � gwasanaeth tu375? Dduw. 29 Yr oeddent yn gyfrifol am y bara gosod, y blawd ar gyfer y bwydoffrwm, y teisennau croyw, y bara radell, y toes wedi ei dylino, a'r holl bwysau a mesurau. 30 Yr oeddent i fod yn bresennol fore a hwyr i roi mawl a chlod i'r ARGLWYDD. 31 Bob tro yr offrymid poethoffrymau i'r ARGLWYDD ar Saboth, newydd-loer neu u373?yl, rhaid oedd i'r nifer dyladwy ohonynt fod ger ei fron ef. 32 Yr oeddent i oruchwylio pabell y cyfamod a'r cysegr, a gweini ar eu brodyr, meibion Aaron, wrth iddynt wasanaethu yn nhu375?'r ARGLWYDD.